databas cerddi guto'r glyn

Diod


Roedd nifer y cyfeiriadau at wahanol ddiodydd a ddarperid yn y wledd ar gynnydd erbyn y bymthegfed ganrif. Rhennid y prif ddiodydd a geid yn winoedd, medd a chwrw. Roedd y diodydd hyn yn amrywio’n helaeth erbyn y bymthegfed ganrif.
A reproduction of an image from the 14th-century manuscript, 'Tacuinum Sanitatis'.
Noblemen drinking
Click for a larger image
Cynnyrch y cartref oedd y rhan fwyaf o’r medd a’r cwrw, er bod modd prynu’r cynnyrch hefyd yn y marchnadoedd (ar y Gororau yn arbennig). Roedd galw heibio i’r tŷ tafarn yn digwydd yn achlysurol hefyd (cerdd 94.55, cerdd 95.55), er mai yng nghartrefi’r noddwyr neu’r abatai yr oedd y rhan fwyaf o’r diodydd hyn yn cael eu hyfed yn ôl tystiolaeth Guto’r Glyn.

Cedwid y gwinoedd, y medd a’r cwrw mewn amrywiol gasgenni, sef yr hyn a elwir yn dunnell (o’r Saesneg tun), hogsied (o’r Saesneg hogshead) a phib (o’r Saesneg pipe (math o gasgen). O ran y mesur hylifol a oedd yn cael eu cadw yn y casgenni hyn, roedd un dunnell (rhywbeth tebyg o ran maint i gasgen) yn cynnwys dwy bib, a dwy bib yn cynnwys pedair hogsied. Nid diodydd alcoholaidd yn unig a gedwid yn y casgenni hyn gan y cyfeiria Guto’r Glyn hefyd at gadw mêl mewn pib (cerdd 28.27). Sonia am y casgenni hyn hefyd yn ei gywydd sy’n disgrifio ‘Brwydr y beirdd yn erbyn gwin Tomas ap Watgyn’. Yma, defnyddir gwahanol ddiodydd yn drosiadol i gynrychioli milwyr Ffrainc ar un ochr a Thomas, ei feirdd a’i ddatgeiniaid ar yr ochr arall. Ceir sôn am lad pib (poem 47.54), a dywedir:

Rhaid fydd i Ddolffin warhau 
Rhag sawdwyr yr hocsiedau. 
Bydd yn rhaid i’r Dauphin ymdawelu
o flaen milwyr yr hocsiedau.

(cerdd 4.47-8)


Mae Guto hefyd yn hoff iawn o gyfeirio at yr hyn a elwir yn broesio a oedd yn fenthyciad o’r Saesneg broach.[1] Agor neu dapio casgen o win neu fedd a feddylir gan amlaf. Digwydd hynny ym Mhrysaeddfed, cartref Huw Lewys, yn ôl Guto:

Af i wleddoedd y flwyddyn 
I lys Huw Lewys a’i lyn; 
Broeswin a gaf er brysiaw, 
Broesfedd tref Brysaddfed draw. 
Af ar gyfer gwleddoedd y flwyddyn
i lys Huw Lewys a’i ddiod;
caf win o gasgen er mwyn gwneud i mi frysio,
medd o gasgen annedd Prysaeddfed acw.

(cerdd 63.13-16)




Bibliography

[1]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. broach, n¹.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration