databas cerddi guto'r glyn

Llestri


Two vessels from Strata Florida abbey
Two vessels from Strata Florida abbey
Click for a larger image
Nid oes llawer o lestri wedi goroesi o Gymru’r bymthegfed ganrif. Mae hyd yn oed darnau bychain o grochenwaith yn brin a thipyn yn llai yw darganfyddiadau felly mewn safleoedd archeolegol yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Fodd bynnag, mae cyfeiriadau at lestri ym marddoniaeth y cyfnod yn ddigon niferus. Ers y bedwaredd ganrif ar ddeg, daeth hi’n arfer i ganmol yr uchelwr am ei lestri aur ac arian.[1]

Prif ddeunydd llestri yn y cyfnod hwn oedd pewter sef deunydd o alion tun ac ychydig o blwm a oedd yn rhoi lliw glaslwyd llechen. Defnyddid hwn i gynhyrchu llestri o bob math, ynghyd â llwyau, a daeth yn fwy poblogaidd na phren wrth i’r cyfnod fynd rhagddo. Cyfeiriai beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg at lestri o bren ond at ddesgl o’r deunydd pewter y cyfeiriodd Guto’r Glyn yn agoriad ei gywydd i dref Croesoswallt:

A garo physygwriaeth 
I gylla oer, drwg yw llaeth; 
Iachach i gleiriach y glêr 
Ei botes a’i ddesgl bewter, 
Cael gwres trefi dinesig, 
Caru’r can a’r cwrw a’r cig. 
Mae llaeth yn ddrwg i’r sawl a fyn
feddyginiaeth i stumog oer;
iachach i henwr musgrell y glêr
yw ei botes a’i ddesgl bewter,
cael gwres trefi dinesig,
mynnu’r bara gwyn, y cwrw a’r cig.

(cerdd 102.5-10)


Crybwyllir nifer o lestri yfed yn y farddoniaeth yn sgil yr holl gyfeiriadau at ddiodydd. Rhoddid gwin i’w weini mewn jygiau hardd addurnedig, llawer ohonynt wedi eu mewnforio i Gymru. Math o jwg felly oedd ar feddwl Guto’r Glyn wrth ddisgrifio’r llestri aur a ddaliai’r gwin yn abaty Ystrad-fflur gan yr Abad Rhys ap Dafydd:

 Gwnaeth gyfrestri gwydr ffenestri, 
 Gaer fflowrestri, gôr Fflur Ystrad, 
 Gwin fenestri ag aur lestri, 
60Gwalchmai’r festri, gweilch Mair fwstrad. 
Gwnaeth gyfresi o ffenestri gwydr,
addurn blodeuog llys, cangell Ystrad-fflur,
gweinyddwyr gwin mewn llestri aur,
Gwalchmai’r festri, cynulliad o hebogiaid Mair.

(cerdd 8.57-60)


Wrth gwrs, roedd mynegi fod llestri’r noddwr o liw aur neu arian yn fodd i ganmol ei gyfoeth a’i statws ac ni ddylid cymryd hyn yn ddisgrifiad llythrennol. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod llestri eithaf arbennig i’w cael yn y tai crefydd yn y cyfnod hwn. Yn Ninas Basing yn yr unfed ganrif ar bymtheg disgrifiodd y beirdd Siôn ap Hywel a Thudur Aled yr hyn a elwir yn bicin mewn cyfres o englynion. Math o lestr yfed a wnaed o ystyllod pren oedd y picin, ac yn ôl y beirdd roedd ‘delw merch yn marchogaeth ar gefyn march’ ar yr un arbennig hwn yn Ninas Basing.[2]

Weithiau, rhoddid y diodydd alcoholaidd mewn ffiol, sef llestr â gwddf hir a oedd gan amlaf yn cael ei ddefnyddio i weini gwinoedd. Roedd hwn yn llestr hardd iawn gan amlaf, i gyd-fynd â statws y gwin egsotig a oedd ynddo, a cheir cerddi sy'n disgrifio ffiolau yn fanwl gan feirdd y bymthegfed ganrif, megis 'Cywydd y Ffiol' gan Lewys Glyn Cothi, a cherdd i ffiol Ieuan ap Siencyn Llwyd o Lwyndafydd gan Deio ab Ieuan Du.[3]

Byddai’r llestri fel arfer yn cael eu cadw yn yr ewri, gair benthyg o’r Saesneg ewry sef yr ystafell lle y cedwid llestri dŵr a’r llieiniau byrddau. Mae'r gair yn perthyn yn agos i’r gair ewer sef llestr a ddefnyddid i olchi’r dwylo cyn bwyta.

Bibliography

[1]: D. Johnston, Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen (Aberystwyth, 1998), 6.31-2, N.A. Jones ac E.H. Rheinallt, Gwaith Sefnyn, Rhiserdyn ac Eraill (Aberystwyth, 1995), 3.83-4.
[2]: A.C. Lake, Gwaith Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan (Aberystwyth, 1999), 28.1-8.
[3]: D. Johnston, Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd 224; A.E. Davies, Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992), cerdd 9.
<<<Swyddogion      >>>Offer coginio
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration