databas cerddi guto'r glyn

Offer coginio


Ceid sawl ffordd o goginio bwyd yn y cyfnod hwn, ond y ddwy ffordd fwyaf cyffredin oedd rhostio bwyd ar wialen haearn uwch y lle tân a berwi cymysgedd o lysiau a chig mewn crochan a oedd hefyd wedi ei osod uwch fflamau'r tân.

Cooking above the fire at Hendre’r-ywydd Uchaf, c.1508.
Cooking food in a Tudor farmhouse
Click for a larger image

Darnau o gig fyddai'n cael eu coginio gyda'r wialen haearn a elwir yn bêr.[1] Tynnid y wialen drwy'r darnau a’i gosod ar bentanau haearn yn agos i'r fflamau. Byddai'r cig yn cael ei rostio'n araf a'r wialen yn cael ei throi'n achlysurol i goginio'r cig yn gyfartal. Topos yn y farddoniaeth yw cyfeirio at y bêr gan honni fod llwythi o gigoedd yn cael eu coginio arni i bwysleisio haelioni'r noddwr. Meddai Dafydd Llwyd am Gochwillan fod yr aelwyd yn llawn berau, crochanau a chig.[2]

Rhoddid crochanau neu botiau mawr ar y tân i goginio potes, cawl neu gymysgedd o fwydydd. Roedd rhai darnau o gig yn cael eu berwi gyda llysiau, a hynny mewn amrywiol o hylifau megis gwin, llaeth a gwaed hyd yn oed i wneud sawsiau, gw. Cigoedd. Rhoddid eitemau eraill hefyd heblaw’r corchan uwchben y tân, megis yr hyn a elwir yn drybedd, sef teclyn teircoes neu drithroed i ddal llestr arall. Ar y drybedd rhoddid padell neu lestr tebyg i goginio sawsiau neu fwydydd mwy arbenigol, fel y nododd Guto’r Glyn yn ei foliant i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt:

Pob rhyw fwyd mewn pupr a fai 
O fewn siaffr a fyn Sieffrai. 
pob math o fwyd mewn pupur a fo
mewn padell dân a fyn Sieffrai.

(cerdd 97.55-6)


Math o badell dân oedd y siaffr ac mae’n air benthyg o’r Saesneg Canol chauffer a ddaw yn wreiddiol o’r gair chaffe (‘i gynhesu’).[3] Dengys rhai enghreifftiau diweddarach fod lle arbennig i gynnau tân yng ngwaelod y siaffr a'i bod felly’n gweithredu fel popty bychan. Yn wahanol i grochan neu gawg a roddid yn uniongyrchol ar wres y tân, roedd y siaffr yn cynhesu bwyd yn araf ac yn fwy ysgafn gan ei wneud yn fwy addas i goginio bwyd a danteithion mwy arbenigol.

Bibliography

[1]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 273, d.g. bêr.
[2]: I. Williams (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (Caerdydd,1939), C.00.
[3]: 'Oxford English Dictionary', s.v. chauffer, n.¹.
<<<Llestri      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration