Y wledd
Yno cawn fawrddawn fyrddau: - mawr yfed Ac amrafael fwydau; Ym mhlas Egwestl, aml seigiau, Mae llyn hen i’m llawenhau. (cerdd 113.17-20) Canolbwynt bywyd cymdeithasol beirdd a noddwyr oedd y wledd lle roedd digonedd o fwyd a diod ar gael. Yn ôl Cyfraith Hywel Dda, cynhelid gwleddoedd arbennig deirgwaith y flwyddyn, sef yn ystod y Nadolig, y Sulgwyn a’r Pasg. Roedd diwrnodau seintiau hefyd yn adegau i ddathlu, yn enwedig yn yr abatai. Yn ystod gwleddoedd mawr felly cyflogid swyddogion pwrpasol i ymgymryd â threfn ddomestig y wledd. Roedd canmol noddwyr am eu haelioni a’u gwleddoedd wedi bod yn rhan o gonfensiwn y canu mawl ers canrifoedd, ond daeth y wledd yn arbennig o bwysig fel symbol o gyfoeth a statws yn yr Oesoedd Canol diweddarach. Yn wir, er ei bod yn weithgaredd cymdeithasol a oedd yn llawn diddanwch a danteithion, arddangos cyfoeth a statws oedd prif amcan y wledd. Cyplysir y cyfeiriad at wledd yn aml â chyfeiriad at aur neu ddosbarthu anrhegion, sef symbol gweledol arall o haelioni’r noddwr. Swyddogaeth y bardd oedd hysbysu’r cyfoeth hwn a lledaenu enw da ei noddwr. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru