databas cerddi guto'r glyn

Crefydd ac iacháu


Mae’r cysylltiad rhwng crefydd a iacháu yn un oesol, ond yn y bymthegfed ganrif rhoddid pwyslais eithriadol ar dderbyn gwellhâd drwy roddi ffydd yn Nuw. Duw oedd y ‘meddyg’ pennaf gan fod llawer o’i weinidogaeth gyhoeddus yn ymwneud â gwella afiechydon corfforol. Roedd y ddelwedd hon a’i gwreiddiau yn y Testament Newydd (cf. Math 9.12; Marc 2.17; Luc 5.31).

Roedd abatai Cymru yn fannau i gleifion dderbyn gwellhad corfforol a duwiol, ond roedd mannau crefyddol eraill, yn eglwysi a ffynhonnau, yn meddu ar y gallu hwn hefyd. Cysegrwyd nifer o ffynhonnau i seintiau yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol a theithiai cleifion o bob cwr o’r wlad i brofi dŵr ‘iachusol’ y ffynhonnau er mwyn cael gwellhad. Canodd rhai beirdd gerddi cyfan i ffynhonnau a darluniant ynddynt bobl yn dod yn dorfeydd iddynt: y mud a’r byddar, y dall a’r efrydd, y gwahanglwyfus a’r dolurus, oll yn cael eu hiacháu yn eu dyfroedd.[1] Pwysleisir hefyd mor sanctaidd oedd y dŵr a bod blas fel gwin arno neu fath o driagl neu ffisig da.

Un o’r ffynhonnau mwyaf adnabyddus oedd yr un yn Nhreffynnon, sir y Fflint, a gysegrwyd i’r santes Gwenffrewi. Cyfeiria’r beirdd yn gyson at ddŵr bendithiol ei ffynnon. Meddai Guto:

Dwfr Donwy Gwenfrewy fro, 
Da yw rhinwedd dŵr honno; 
Dŵr Donwy ym mro Gwenfrewi,
mae rhinwedd dŵr honno yn dda;

(cerdd 81.13-14)


Enwir hi hefyd yn un o’i gywyddau sy’n dymuno gwellhad i’w noddwr, Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch. Yn wir, mae Guto’n rhestru’r holl saint a oedd yn adnabyddus am eu gallu i iacháu yn y cywydd hwn:

Silin, gwell nog ias eli, 
Sant hael a swyna i ti; 
Oswallt, fireinwallt frenin, 
Ysgar glwyf esgair a glin; 
Mair a’th ir â myrr a thus, 
Marthin a fo cymhorthus; 
Gwen a dyr gwŷn a dyrwyf 
Frewy achlân, friw a chlwyf; 
Gwrthiau Ieuan o Wanas 
A’u gyr o’r glin a’r grog las; 
Curig dy feddig di fydd, 
Crist ei hun, croes dihenydd; 
Cawn gan Saint Lednart, ein câr, 
Dy gyrchu di o garchar; 
Cyrch at Felangell bellach, 
Cyfod, Nudd, cai fod yn iach. 
Bydd Sant Silin hael yn bwrw swyn er dy fwyn di,
gwell nac ias eli;
bydd Oswallt yn gwahanu clwyf coes
a glin, frenin hardd ei wallt;
bydd Mair yn dy iro â myrr a thus,
bydd Marthin yn gynorthwyol;
bydd Grenffrewi yn torri poen
a syrffed yn llwyr, briw a chlwyf;
bydd gwyrthiau Ieuan o Wanas
a’r groes angheuol yn eu gyrru o’r glin;
Curig fydd dy feddyg di,
Crist ei hun, croes marwolaeth;
cawn dy gyrchu di o garchar
drwy gyfrwng Sant Leonard, ein hanwylyd;
cyrcha at Felangell bellach,
coda, Nudd, cei fod yn iach.

(cerdd 92.47-62)


Nid ffynhonnau’n unig oedd yn denu cleifion. Roedd crogau mewn eglwysi hefyd yn denu pob math o bererinion a oedd yn chwilio am gysur. Canodd Guto gywydd yn ymbil am wellhad ar ran ei noddwr, Dafydd ab Ieuan, i’r grog yng Nghaer. Rhestrir y seintiau eto yr un mor drawiadol:

Y Grog, er dy wiredd grau, 
Gyr y gwewyr o’r gïau. 
Galw San Lednart i’th barti, 
Galw Fair, ac elïa fi. 
Galw Felangell, gwell yw’r gwaith, 
Galw Ddwynwen, f’Arglwydd, unwaith, 
Saint Oswallt a’i santesau, 
Sain Padrig fo’r meddig mau. 
A Dewi y sydd (ys da sant) 
A dry iechyd i drychant. 
Cynhafal, dwg hwn hefyd, 
Y Grog, oll, y gwŷr i gyd. 
Y Grog, ar gyfrif dy waed cyfiawn,
gyr y gwewyr o’r gïau.
Galw Sant Leonard i’th ochr,
galw Fair, ac ira fi.
Galw Melangell, gwell yw’r canlyniad,
galw Dwynwen unwaith, fy Arglwydd,
Sant Oswallt a’i santesau,
bydded Sant Padrig yn feddyg i mi.
A bydd Dewi (sant da yw ef)
yn rhoi iechyd i drichant.
Dwg Gynhafal hefyd, y Grog,
atat yn llwyr, yr arwyr i gyd.

(cerdd 69.41-52)


Dro arall, cyfeirir yn benodol at ryw ddiod neu eli a oedd yn cael ei gysylltu â sant. Am Fwrog Sant meddir Mwrog ai lyn, miragl oedd ‘Bu Mwrog Sant a’i ddiod yn gwneud gwyrthiau a nerthoedd’ (cerdd 81.17) a sonnir am eli Mair Fadlen i bwysleisio gofal Elen, gwraig Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch, am ei gŵr a’r eli yr oedd hithau’n ei ddefnyddio i wella ei lin:

Mair Fadlen yw Elen ŵyl, 
Mae i’th warchad, maith orchwyl. 
Eli meddyges Iesu 
A wnaeth feddyginiaeth gu, 
Ac felly gwnêl â’i heli 
Gwaith Elen deg i’th lin di. 
Mair Magdalen yw Elen wylaidd,
bydd yn gofalu amdanat, gorchwyl maith.
Gwnaeth eli meddyges Iesu
feddyginiaeth gariadus,
ac felly mae Elen deg
yn gwneud gwaith â’i heli ar dy lin di.

(cerdd 92.25-30)


Yn wir, cyfeiria’r beirdd o hyd at Fair Fadlen o ddinas Magdala wrth foli’r gwragedd. Mae’n amlwg iddi gael ei chofio am y gofal a roes i’r Iesu gan fod y ddau gyfeiriad yng ngwaith Guto’r Glyn yn sôn am y gofal a gawsai’r bardd gan ei noddwraig yn achos un gerdd, a’r gofal a gafodd ei noddwr gan ei wraig yn achos y llall, ac mae beirdd eraill yn defnyddio’r un gymhariaeth.[2]

Bibliography

[1]: Ymhellach gw. R.I. Daniel, 'Y ffynhonnau yng nghanu'r Cywyddwyr', Dwned, 7 (2001), 72-3.
[2]: Am enghreifftiau gw. cerdd 81.21-2, cerdd 92.25-6, cf. T. Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958), cerdd rhif 13.27-30.
<<<Ysbytai      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration