databas cerddi guto'r glyn

Triniaethau


Un o’r triniaethau mwyaf traddodiadol i gleifion oedd ymdrochi mewn ffynhonnau twym, yn arbennig y baddondai yng Nghaerfaddon. Cyfeirir yn gyson yn y farddoniaeth at y ffynhonnau hyn, sy’n dangos eu bod yn enwog iawn o hyd yn y bymthegfed ganrif. Mae Guto’r Glyn yn sôn mai cael gwellhad o’r ffynhonnau hyn oedd yn arferol i gleifion pan oedd ef ei hun â phoenau yn ei esgyrn:

Iach fyddaf yr haf o’r haint, 
Iach o fewn o chaf ennaint. 
Dwfr o gladd ennaint Baddwn, 
Difa’r haint a wna’r dwfr hwn. 
Byddaf wedi gwella o’r afiechyd yn yr haf,
yn iach oddi mewn os caf faddon meddyginiaethol.
Dŵr o gladdfa ymolchfa Caerfaddon,
difa’r afiechyd a wna’r dŵr hwn.

(cerdd 81.5-8)


Fodd bynnag, nid oedd ef am dderbyn yr ennaint Baddwn hwn gan fod gwledd Siân Bwrch yn y Drefrudd wedi ei iacháu. Ceir yr un thema yn y gerdd i ddiolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes a Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor, am wella briw. Meddai:

Ni bu raid i’r barwyden 
Ennaint y Badd ond o’i ben; 
Nac oel gwyrdd nac eli gwan 
Nis ceisiaf yn oes cusan. 
Ni fu’n rhaid i’r ystlys
wrth ennaint Caerfaddon ond o’i enau;
ni cheisiaf nac olew gwyrdd nac eli di-rym
ym mywyd cusan.

(cerdd 109.47-50)


A chart showing the parts of the body to be bled for different diseases (NLW MS 3026C, 11).
Bleeding the body in a 15th century manuscript
Click for a larger image
Credid hefyd fod dŵr rhinweddol rhai ffynhonnau a gysegrwyd i saint yng Nghymru yn gwella afiechydon, gw. crefydd. Cred arall a oedd yn ymwneud â thriniaethau yn yr Oesoedd Canol oedd dylanwad y sêr a’r planedau ar iechyd. Credid fod y corff dynol yn cynnwys pedwar hiwmor a bod gwahanol ffactorau astrolegol yn effeithio ar y cydbwysedd rhwng yr hiwmorau. Byddai hynny yn ei dro yn achosi salwch neu wendid. Trafodir hyn yn fanwl mewn testun o lawysgrif a ddyddir i’r cyfnod 1488-89 gan y bardd Gutun Owain, (gw. Llawysgrif LlGC 3026C). Eglurir yno bod angen gwaedu’r corff a hynny yn ystod cyfnodau penodol o’r flwyddyn i gadw’r corff yn iach ac yn bur.

Ceir lliaws o lawysgrifau sy’n rhoi cryn sylw i feddyginiaeth o tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, ac adwaenir y rhai mwyaf adnabyddus bellach fel ‘Meddygon Myddfai’.[1] Teulu o ‘feddygon’ o Fyddfai yn sir Gaerfyrddin yn y drydedd ganrif ar ddeg oedd ‘Meddygon Myddfai’, sef gŵr o’r enw Rhiwallon a’i dri mab. Fe’u cysylltir â thraddodiad o ysgrifennu testunau meddygol sydd wedi goroesi mewn gwahanol lawysgrifau.[2]

Digon rhyfedd yw cynnwys y testunau meddygol. Ymddengys fod casgliadau o ryddiaith fel hyn yn ddigon cyffredin drwy Ewrop, sydd o bosibl yn awgrymu eu bod yn tarddu o gasgliadau clasurol. Ymysg pethau eraill, ceir ynddynt ryseitiau, testunau astrolegol, rhestri llysieuol, cyfarwyddiadau ar gyfer triniaethau llawfeddygol ac yn y blaen. Wrth gwrs, roedd llysiau rhinweddol a pherlysiau yn adnabyddus yn y cyfnod hwn am eu gallu i wella heintiau a chlwyfau wrth eu cymysgu â’r cynhwysion cywir.

Pwysleisir hyn hefyd ym marddoniaeth y cyfnod. Ceir cywydd ac englynion a briodolir i’r bardd Dafydd Nanmor sy’n sôn am lysiau iachaol ac ymddengys fod gwybodaeth am lysiau a meddyginiaethau yn rhan o gynhysgaeth dysg y bardd.[3] Awgrymwyd ymhellach fod y beirdd ‘yn cymryd diddordeb ymarferol mewn meddygaeth fel iachawyr a’i bod o fantais iddynt, neu i’w noddwyr, ddwyn cynnwys y llyfrau meddygol ar eu cof’.[4]

Roedd canmol gwledd ‘iachusol’ y noddwr hefyd yn thema yng ngherddi Guto, ac o bosibl mae'n awgrymu awgrymu ei fod yn ymwybodol o allu bwyd maethlon i iacháu. Canmolodd wledd Siân Bwrch yn y Drefrudd am ei wella o’i glwyfau. Meddai:

Ansawdd arglwyddes Fawddwy 
A fyn i hen fyw yn hwy, 
A’i gwledd hi a giliodd haint, 
A’i gwin oedd well nog ennaint, 
A’i llyn a’m gwnâi’n llawenach, 
A’i thân onn a’m gwnaeth yn iach. 
Nid rhaid ym waith antred mwy, 
Meddig ond ladi Mawddwy. 
Danteithfwyd arglwyddes Mawddwy
sy’n mynnu i’r hen fyw yn hwy,
a’i gwledd hi a yrrodd afiechyd i ffwrdd,
a’i gwin oedd yn well nag ymolchfa meddyginiaethol,
a’i diod a’m gwnâi’n fwy llawen,
a’i thân onn a’m gwnaeth yn iach.
Nid wyf angen plastar meddyg mwyach,
dim ond arglwyddes Mawddwy.

(cerdd 81.65-72)


Sonnir yn uniongyrchol am driniaeth a gafodd Guto’r Glyn yn y cywyddau rhyngddo ef a Llywelyn ap Gutun pan oedd Guto’n dioddef o ryw afiechyd ar y croen (gw. Salwch Guto). Honodd Llywelyn fod yn rhaid i Guto gnoi penial gnepynnau, sef darnau o fara wedi’u gwneud o flawd gwenith ac a ystyrid yn llesol. Ymddengys y byddai’r driniaeth yn cynnig gwellhad llwyr i’r bardd ond roedd rhaid iddo aros gartref am gyfnod, fel y nodwyd hefyd gan Guto. Ond ni chaiff wellhad haeddiannol, dim ond yn Abaty Glyn-y-groes lle y byddai’n derbyn y bwyd maethlon angenrheidiol:

Mi a wn lle mae ennaint 
A dynn hwn o donnau haint: 
Aed i nef, i fod yn iach, 
Llanegwestl, lle enwogach. 
Gwn i lle mae eli
a all dynnu hwn yn rhydd o donnau haint:
er mwyn bod yn iach boed iddo fynd i nefoedd
Llanegwystl, lle enwocach.

(cerdd 101a.41-44)


Bibliography

[1]: M. Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ail arg., Caerdydd, 1997), 398.
[2]: M.E. Owen, 'Meddygon Myddfai, a preliminary survey of some medical writings in Welsh', Studia Celtica ix/x (1995), 210-33.
[3]: B.O. Huws, '‘Llawer dyn … / Â chywydd a iachawyd’: Guto’r Glyn yr iachawr' yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00.
[4]: Owen 2001: 00.
>>>Ysbytai
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration