databas cerddi guto'r glyn

Paderau


Un o'r rhoddion a dderbyniodd Guto'r Glyn gan Risiart Cyffin, deon Bangor oedd paderau a chanodd Guto gerdd i ddiolch am y rhodd (cerdd 59).[1] Llinyn ac arno leiniau bychain oedd paderau ac fe'i defnyddid i gyfrif gweddïau wrth eu llefaru ac roedd pob glain yn cynrychioli gweddi. Mewn paderau cyflawn ceid cyfanswm o thua chant a deg a thrigain o leiniau (gw. cerdd 59.65). Fodd bynnag, nid oedd yn ymarferol cario cymaint o leiniau o le i le nac ychwaith i lefaru cynifer o weddïau, felly defnyddid hefyd baderau llai, fel yr un a ddisgrifir gan Guto.[2] Paderau o linyn o sidan ac arno gyfres o leiniau pren yw rhai Guto:

Prennau yw ’mhederau da, 
Pren seipr o ynys Opia. 
prennau yw fy mhaderau da,
pren seipr o wlad Opia.

(cerdd 59.43-44)


Mae'n eglur fod arno ddeg prif lain, ffaith a bwysleisir gan y modd mae Rhisiart yn eu degymu iddo (cerdd 59.31-4). Canodd Lewys Glyn Cothi yntau gywydd ac awdl i ddiolch am baderau o ddeg glain [3] ac mae’r cerddi hynny a cherdd Guto’n adlewyrchu’r ffaith fod paderau a ddefnyddid gan ddynion gan amlaf yn rhai byrrach nac eiddo merched.[4]

Defnyddiai Guto’r deg prif lain (‘decade’) er mwyn gweddïo i Fair, ond dywed fod ar ei baderau ddau lain arall ar y naill ochr i’r deg prif lain (cerdd 59.54-60). Defnyddid un o’r gleiniau hyn (‘pater-bead’) wrth lefaru Gweddi’r Arglwydd cyn llefaru deg gweddi i Fair, a defnyddid y glain arall wrth lefaru gweddi ‘Gloria Patri’ ar eu hôl (gw. Wilkins 1969: 14, 28). Yr un math o baderau a gafodd Lewys yntau, sef rhai â chyfanswm o ddeuddeg glain.[5] Guto’n unig, fodd bynnag, sy’n cyfeirio at y modd y gwisgai’r paderau wrth ei wasg ac at fodrwy ac, o bosibl, dasel du a oedd yn sownd wrth y paderau (gw. cerdd 59, llinellau 26, 28, 33 a 35-6). Paderau modrwyog oedd y rhain felly, rhai a ddefnyddid yn wreiddiol gan farchogion crefyddol gan eu bod yn llai ac yn fwy ymarferol.[6]:

A’u dwyn yr wyf dan yr ais; 
Dengair Deddf i ŵr greddfol, 
Deg glain yw’r rhain ar eu hôl. 
Mal tebig, mil a’i tybiodd, 
Mae Rhys yn degymu rhodd 
I Abel wrth dasel du, 
Nid i Gaim yn degymu. 
Y mae deg wrth fy ngwregys 
A modrwy bach, medr y bys. 
ac rwy’n eu gwisgo islaw’r asennau;
y Deg Gorchymyn i ŵr cryf,
deg glain yw’r rhain ar eu hôl.
Wrth dalu degwm o rodd, tybiodd fil o bobl hynny,
mae Rhys fel gŵr cyffelyb
i Abel gyda thasel du,
nid i Gain wrth dalu degwm.
Mae deg rhodd ar fy ngwregys
a modrwy fach, medrusrwydd y bys.

(cerdd 59.28-36)


Mae’n eglur y defnyddiai Guto’r paderau er mwyn gweddïo ar Fair (gw. cerdd 58, llinellau 23, 39, 50 a 65n), a’r tebyg yw y byddai wedi llefaru’r weddi boblogaidd a ganlyn:

Ave Maria, gratia plena, Dominus tecum, benedicta tu in mulieribus,
benedictus fructus ventris tui, Iesus.
‘Henffych well, Fair, gyflawn o ras, y mae’r Arglwydd gyda thi,
bendigaid wyt ymhlith merched, bendigaid yw ffrwyth dy groth, Iesu.’[7]

Cyn y ddeuddegfed ganrif defnyddid paderau ar gyfer llefaru salmau Dafydd Broffwyd neu Weddi’r Arglwydd, ond o’r ganrif honno ymlaen fe’u defnyddid ar gyfer gweddïo i Fair yn benodol yn sgil twf ei chwlt ledled Ewrop.[8] Cyfansoddwyd cant a hanner o weddïau i Fair a oedd yn cyfateb yn fras i’r can salm a hanner a briodolir, yn draddodiadol, i Ddafydd Broffwyd, a gelwid y gweddïau hyn yn Llaswyr Mair. Nid yw’n eglur, fodd bynnag, a leferid Llaswyr Mair ledled Ewrop yn ystod y bymthegfed ganrif ynteu’r weddi seml uchod drosodd a thro neu, yn symlach fyth, gyfresi o ‘Ave Maria’.

Mae’n debygol mai at Laswyr Mair y cyfeirir gan Guto gan ei fod yn cyfeirio’n benodol at Fair yn llinell 50:

Gorau ungwaith ym weithian 
Gweddïo Mair â’r gwŷdd mân. 
Rhodiaw y mae’r llaw mor llwyr 
Rhof a’r llys, rhifo’r llaswyr. 
Yr un dasg orau i mi bellach
yw gweddïo ar Fair â’r pren mân.
Mae’r llaw yn ymlwybro mor llwyr
rhyngof a’r llys, rhifo’r llaswyr.

(cerdd 59.49-52)


Ymddengys mai pobl lythrennog yn unig a ddefnyddiai Llaswyr Mair, a chyda chynnydd yn y glerigiaeth anllythrennog yn unig y symleiddiwyd y gweddïau a leferid gyda chymorth paderau.[9] Mae’n debygol iawn fod Guto, fel Lewys yntau, yn medru darllen ac, felly, mae’n sicr yn bosibl y gwyddent ryw gymaint o weddïau i Fair ar lun llaswyr.

Paderau pren a gafodd Guto, a dywed yn eglur nad o fuchudd manwydd neu wefr (ambr) y’u gwnaed (cerdd 59.41-2). Gwneid paderau o blwm, haearn, dur, clai a gwydr yn ogystal â phren.[10], ac mewn gwirionedd ni ellid yn hawdd ddadlau bod unrhyw ddeunydd yn rhagori. Paderau o bren a gafodd Lewys Glyn Cothi yn rhodd gan Hywel Prains o Forgannwg a phaderau o ambr a gafodd Lewys Môn gan Ieuan ap Gwilym. Gall mai paderau o gerrig lliw amrywiol a ddyfalwyd gan Syr Dafydd Trefor.[11]

Bibliography

[1]: Am gerddi eraill i baderau gw. D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerddi 106 ac 185; E.I. Rowlands, Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), cerdd rhif XX; Rh. Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005), cerdd rhif 11; J.A. Jones, ‘Gweithiau Barddonol Huw Arwystl’ (M.A. Cymru, 1926), 267; N. Scourfield, ‘Gwaith Ieuan Gethin ab Ieuan ap Lleision, Llywelyn ap Hywel ab Ieuan ap Gronw, Ieuan Du’r Bilwg, Ieuan Rudd a Llywelyn Goch y Dant’ (M.Phil. Cymru Abertawe, 1993), 198-202.
[2]: E. Wilkins, The Rose-garden Game: The Symbolic Background to the European Prayer-beads (London, 1969), 54-5.
[3]: Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, 106.45-9, 59, 185.37-40.
[4]: Wilkins, The Rose-garden Game, 219; Winston-Allen, Stories of the Rose, 112. Yn ôl Wilkins yn yr Almaen fe’u gelwid yn Zehner, Mannsbeter neu Mannspaternoster (a ddefnyddid gan ddynion) ac yn cavalieri (a ddefnyddid gan farchogion).[footnote:Wilkins, The Rose-garden Game, 54.
[5]: Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, 106.59-60, 185.40.
[6]: Am luniau o baderau tebygi rai Guto gw. Wilkins, The Rose-garden Game, platiau 7, 13 ac 19.
[7]: Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor, 11.58n.
[8]: Wilkins, The Rose-garden Game, 36; J.D. Miller, Beads and Prayers: The Rosary in History and Devotion (London, 2002), blaenddalen, 12, 47-8; N.L Doerr and V.S Owens, Praying With Beads: Daily Prayers for the Christian Year (Cambridge, 2007), viii.
[9]: Miller, Beads and Prayers, 48; Doerr and Owens, Praying With Beads, viii.
[10]: Wilkins, The Rose-garden Game, 45.
[11]: Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor, cerdd rhif 11.
<<<Rhinweddau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration