databas cerddi guto'r glyn

Rhinweddau


Roedd testunau ysgrifenedig a elwir yn 'lapidari' yn cofnodi symbolaeth Gristnogol, astrolegol a gwyddonol cerrig gwerthfawr. Gan fod peth swyngyfaredd a phaganiaeth yn perthyn i rinweddau y cerrig, daeth hyrwyddo agwedd wyddonol a meddygol y cerrig yn flaenoriaeth i awduron y lapidarïau. Perthyn yr unig lapidari Cymraeg i’r unfed ganrif ar bymtheg ac ynddi rhestrir rhinweddau dwy ar bymtheg ar hugain o gerrig gwerthfawr.

Defnyddir termau am gerrig gwerthfawr yn gyffredinol am y noddwr ei hun ym marddoniaeth y cyfnod hwn, megis gem, maen, glain a rhigal (am enghreifftiau gw. cerdd 20.44, cerdd 62.26). Ond mae’n amlwg fod gan Guto’r Glyn ddiddordeb penodol yn yr amrywiol gerrig a’u rhinweddau. Yn ei foliant i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan mae’n pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng Syr Wiliam â gwŷr eraill gan ei gymharu i gem wedi ei gosod mewn aur o’i chymharu â meini cyffredin:

Mwya’ gŵr, em y Goron, 
Ei ras wyd yn yr oes hon. 
Duw a’th ddonies, daith uniawn, 
Digon i ddynion o ddawn. 
Prifai-sêl y parfis wyd, 
Perl mewn dadl parlmend ydwyd, 
Ystiwart dros y Deau, 
Iustus doeth, eiste sy dau. 
Y gŵr mwyaf ei ras, gem y Goron,
wyt ti yn yr oes hon.
Mae Duw wedi dy gynysgaeddu, ti sy’n ddiwyro dy gwrs,
digon o fendith i ddynion.
Ti yw sêl gyfrin trafodaeth,
perlen wyt ti mewn dadl seneddol,
stiward dros y Deau,
ustus doeth, eistedd yw dy ran.

(cerdd 19.11-18)


Perl
Disgrifir Syr Wiliam ap Tomas o Raglan fel perl mewn dadl ac roedd perl yn ddelwedd gyfarwydd arall ym marddoniaeth y cyfnod am noddwr, cf. Preladaidd fal perl ydwyd am Syr Bened ap Hywel, person Corwen (cerdd 43.3). Er nad enwir perl yn y lapidari Cymraeg, roedd yn un o’r cerrig gwerthfawr a ddisgrifir yn un o’r lapidarïau mwyaf dylanwadol a ysgrifennwyd yn Lladin gan Marbode, Esgob Rennes, 1067-81.[1] Ymysg rhinweddau perlau yn y cyfnod hwn, roedd eu powdwr yn dda i’r llygaid yn ôl rhai ysgrifau meddygol a gysylltir â meddyginiaeth Arabaidd ac Indiaidd o’r Cyfnod Cynnar. Yn fwy na rhinweddau meddyginiaeth perlau, daethant yn gerrig o werth neilltuol a'u defnyddio felly fel gemwaith ac ar wisgoedd. Defnyddid perlau mân artiffisial i addurno mentyll, penwisgoedd, menig ac esgidiau, ac ymddengys eu bod yn boblogaidd oherwydd eu lliw hufen unigryw (cf. GDG.net cerdd rhif 138, linellau 3-4 Rhoi perls a rhubi purloyw / Ar eu tâl yn euraid hoyw).

Beril
Un o’r cerrig sydd yn cael eu henwi yn y lapidari Cymraeg yw beril ac ymddengys fod y garreg hon hefyd yn dda i’r llygaid: ‘A dwr o gylch y maen hwnn sydd ddar ar les y llygaid, ac od yf dyn ddwgr o gylch y main hynny sydd dda rac dylyvv gan ac jgvan. Da yw j bob klevyd a ddel or kylla, ac ef a wna yn iach y kryd.’ Disgrifir Syr Rhys ap Thomas o Abermarlais fel Maen beril mwy no barwn (cerdd 14.9) ac mae Lewys Glyn Cothi hefyd yn hoff o ddefnyddio’r garreg hon fel delwedd am ei noddwr.[2] Mae’r garreg yn dryloyw, gan amlaf o liw goleuwyrdd.

Muchudd
I’r gwrthwyneb i’r beril, lliw tywyll oedd yn nodweddu muchudd. Y gair Saesneg am muchudd yw ‘jet’, sef math o olosg caled y gellir llunio tlysau a gwrthrychau eraill ohono. Yn y farddoniaeth, defnyddir muchudd i bwysleisio lliw du gan amlaf, ond hefyd i bwysleisio rhinweddau noddwr. Lliw du’r muchudd a gaiff ei bwysleisio gan Guto’r Glyn a phwrpas y cyfeiriad yw rhestru nifer o bethau sy’n ddu iawn cyn i’r bardd sôn am liw gwallt Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd sydd hefyd yn ddu:

Y melfed (pwy nis credai?), 
Muchudd du fydd a di-fai; 
Felfed (pwy na chredai hyn?),
muchudd hefyd fydd yn ddu a dilychwin;

(cerdd 33.9-10)


Enwir muchudd hefyd yn y lapdari Cymraeg ac ymddengys fod gan y sylwedd hwn amryw o rinweddau meddyginiaethol a lledrithiol, yn eu plith ‘Da yw j ddwyn yn nessaf ir kroen rac y ffelwm’.

Cwrel
Maen gwerthfawr a wneid o goral oedd cwrel, a’r lliw coch a gysylltid yn draddodiadol â’r garreg. Mae’r cwrel hefyd yn ymddangos yn y rhestr Gymraeg o gerrig o’r unfed ganrif ar bymtheg ac fe ddisgrifir y garreg fel un a oedd yn tyfu yn y môr ‘val y mae llysiav ar y ddayar, a phann ddel allan or mor koch vydd ac ni bydd hwy no hanner troedfedd.’ Cyfeirir at gwrel gan amlaf yn y farddoniaeth i ddynodi lliw coch y bochau ond cyfeirir weithiau at y garreg mewm gemwaith hefyd.[3] Roedd yn un o’r cerrig a oedd yn addurno paderau Elen Gethin, gwraig Tomas ap Syr Rhosier Fychan o Hergest, yn ôl y farwnad a ganodd Llawdden iddi.[4] Yn ôl Guto’r Glyn, daw lliw’r cwrel, sef coch, yn ail i’r lliw du:

Haws caru lliw du llei dêl 
No charu owls a chwrel. 
Haws yw caru lliw du lle bynnag y mae
na charu gowls [coch] a choral.

(cerdd 33.25-6)


Diemwnt
Y garreg gynta a ddisgrifir yn y ‘lapidari’ Cymraeg yw’r diemwnt. Dyma’r maen caletaf o’r holl feini ac roedd ei dorri yn yr Oesoedd Canol yn grefft ynddi ei hun. Defnyddid y garreg gan amlaf yn y cyfnod hwn ar emwaith gan ei bod mor anodd ei thorri’n siâp arall, ac eithrio’r siâp onglog cyfarwydd hwnnw a gysylltir â diemwnt. Rhinweddau’r diemwnt a bwysleisir yn y lapidari yw gallu’r garreg i amddiffyn y sawl a’i gwisgai gan ei wneud yn gryfach a grymusach. Mae’n un o’r meini amlycaf a ddefnyddir ym marddoniaeth y cyfnod fel trosiad am y noddwr, a gellir gweld yn hawdd mor addas felly ydoedd fel trosiad am uchelwr cadarn a chyfoethog.[5] Dichon fod disgleirdeb y garreg hefyd yn ychwanegu at y darlun hwnnw, yn enwedig wrth ddisgrifio’r noddwr yn ‘disgleirio’ uwchlaw’r uchelwyr eraill. Disgrifir Huw ap Llywelyn, un o feibion Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn, fel a ganlyn gan Guto’r Glyn:

Deimwnt yw Huw, damwain teg, 
Dawn gŵr yw dwyn y garreg; 
Nid rhaid ym er treio da 
Ond cael deimwnt clod yma. 
Diemwnt yw Huw, hynt deg,
bendith gŵr yw cludo’r garreg;
yn achos lleihau cyfoeth nid oes rhaid i mi
ond cael diemwnt mawl yma.

(cerdd 63.41-44)


Rwbi
Y lliw coch yw’r lliw oesol a gysylltir â charreg rwbi, er bod y garreg ei hun yn gallu amrywio o ran dyfnder y lliw - o borffor i binc. Ymhlith ei rinweddau, yn ôl y lapidari, roedd y dŵr a fyddai’n amgylchynu carreg rwbi â’r pŵer i iacháu anfail clwyfus pe bai’n yfed y dŵr hwnnw. Cyffelybir Dafydd ap Llywelyn ap Hwlcyn i'r garreg hon: Maen rhuwbi Môn yw’r hebawg (cerdd 63.48).

Saffir
Yr ail garreg a ddisgrifir yn y lapidari yw saffir. Yn wir, priodolir nifer mawr o rinweddau i’r saffir, gan gynnwys rhai iachusol, megis ei fod yn dda i’r llygaid a’r pen ac i amddiffyn rhag clefyd y tafod. Y lliw glas a gysylltir gan amlaf a’r saffir, ac fel y diemwnt roedd y garreg hon hefyd yn cael ei defnyddio’n aml mewn gemwaith. Mae Guto’n nodi hyn yn ei gerdd yn ogystal ac awgrymu’r rhinweddau niferus eraill a berthynai i’r saffir:

Pand praff rhinweddau’r saffir? 
Bwrw clwyf, ni ad berygl hir, 
A Rhys ffyrf yw’r saffirfaen 
Yn Uwch Conwy, modrwy’r maen. 
Onid cadarn yw rhinweddau’r saffir?
Gorchfygu clwyf, nid yw’n caniatáu perygl hir,
a Rhys grymus yw’r maen saffir
yn Uwch Conwy, modrwy’r maen.

(cerdd 63.53-6)


Almwnt dulas
Yn wahanol i’r meini eraill, nid yw’r wybodaeth am y garreg hon mor hysbys. Ymddengys fod i’r garreg rinweddau tebyg i’r diemwnt o ran caledwch a gwerth. Awrgyma Salisbury mai’r hyn a olyga Guto wrth ddisgrifio’r garreg fel Maen tâl yw’r almwnt dulas / Ac a lŷn wrth y dur glas ‘Maen talcen yw’r almwnt dulas / a maen sy’n glynu wrth y dur glas’; (cerdd 63.49-50) yw carreg almandine, sef carreg o liw porffor ac iddi briodoleddau magnetig.

Bibliography

[1]: R.A. Donkin, Beyond Price: Pearls and Pearl-Fishing: Origins to the Age of Discoveries (Cambridge, 1998), 259.
[2]: D.Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi, (Caerdydd,1995), cerdd rhif 145.44-5.
[3]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), cerdd rhif 92.9
[4]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006), cerdd rhif 21.31-2.
[5]: D. Greene, ‘A Welsh Lapidary’, Celtica, (1952), 2,98-9; G.F. Kunz, The Curious Lore of Precious Stones (London, 1978), 376-9.
>>>Paderau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration