databas cerddi guto'r glyn

Heintiau


Y Pla Du
Pla biwbonig a achosir gan y bacteriwm Yersinia pestis oedd wrth wraidd y Pla Du a drawodd Ewrop a darnau helaeth o Asia ac Affrica ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Credir yn gyffredinol i’r bacteriwm hwn gael ei ledu gan chwain llygod mawr yn brathu pobl, er bod ansicrwydd bellach ynglŷn â’r farn draddodiadol hon. Bydd y chwaren lymff agosaf at y man a frathwyd gan y chwannen heintus yn chwyddo (yng nghesail y goes gan mwyaf, ond hefyd dan y fraich ac ar y gwddf), gan greu'r crugyn a elwir yn bubo. Gall yr haint hefyd gymryd ffurf niwmonig (lle effeithia ar yr ysgyfaint), ac yn yr achos hwn gall ymledu o berson i berson yn uniongyrchol.
Victims of the plague
Black Death
Click for a larger image

Wedi ei ymweliad cyntaf yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, dychwelodd y pla ar sawl achlysur, yn 1361-2, 1369, 1375 ac eto yn 1379. Ymwelodd â sawl ardal yn Lloegr yn ystod y bymthegfed ganrif (gw. isod) a cheir tystiolaeth ei fod yn parhau’n fygythiad hyd at yr ail ganrif ar bymtheg ym Mhrydain. Weithiau roedd yr afiechyd yn effeithio ar ardal benodol neu dref ond dro arall, roedd yn effeithio ar ran helaeth o’r wlad gan ymledu’n gyflym o un pentref i un arall.

Disgrifir dau brif symptom y Pla Du yng ngherddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed. Yn gyntaf, y chwydd a oedd yn ymddangos ar y corff a elwir yn bubo neu y nod yn y farddoniaeth. Yn ail, yr ysmotiau tywyll a oedd yn ymddangos ar y croen neu a gymerai o bosibl ffurf yswigod chwyddedig a roes fod i enwau fel y frech ddu yn Gymraeg.

Ceir un gerdd hynod deimladwy sy’n disgrifio’r symptomau hyn lle dywedir mai’r haint hon a fu’n gyfrifol am ladd plant awdur y gerdd (sef o bosibl y bardd Llywelyn Fychan).[1] Perthyn y gerdd i’r bedwaredd ganrif ar ddeg ond disgrifir yr un symptomau gan feirdd y bymthegfed ganrif. Rhydd Dafydd Llwyd o Fathafarn ddisgrifiad o’r bubo a’r ysmotiau tywyll ar y croen mewn cerdd drist i ferch yr oedd yn ei charu ac mae Tudur Aled hefyd yn sôn am y frech ddu sydd o bosibl yn gyfeiriad at yr ysmotiau ar y croen.[2] O noddwyr Guto’r Glyn, ymddengys mai marw o’r Pla Du a wnaeth Dafydd Llwyd ap Gruffudd o Abertanad. Yn ôl Guto, ymddangosodd chwydd ar groen Dafydd dridiau cyn iddo farw ac mae’n debygol iawn mai un o symptomau’r Pla Du oedd hyn:

Trydydd i Ddafydd a ddoeth 
Tridiau cyn marw gŵr tradoeth: 
Cornwyd ar y gŵr llwydwyn, 
Carnedd o ddialedd ynn. 
Daeth trydydd rhybudd i Ddafydd
dridiau cyn i ŵr doeth iawn farw:
cornwyd ar groen y gŵr teg a sanctaidd,
carnedd o gosb i ni.

(cerdd 89.7-10)


Nid yw’n bosibl gwybod yn union pa bryd y daeth yr afiechyd drachefn i Gymru na pha ardaloedd yr effeithwyd arnynt gan y pla yn ystod y bymthegfed ganrif. Ambell waith, fe gyfeirir yn gyffredinol at ryw haint neu afiechyd marwol mewn cerdd i noddwr ac mae’n bosibl iawn mai’r Pla Du ydoedd yn dal i ymledu. Yn y gerdd i Siân Bwrch o’r Drefrudd canmolir hi a’i gŵr fel Saint ni ad haint yn y tir (cerdd 81.50) a gall hyn gyfeirio at ryw afiechyd marwol cenedlaethol. Ymddengys i’r blynyddoedd 1463-5, 1467 a’r 1470au fod yn gyfnodau o afiechyd marwol a heintus ym Mhrydain na welwyd eu tebyg ers y tridegau yn ôl Gottfried ‘In 1463 John Warkworth wrote in his chronicle of a freezing cold winter, and subsequent conditions ominously similar to those of the 1430s. This was followed in 1464 by what appears to have been a national epidemic of plague.’ [3] Yn ei gerdd i Sieffrai Cyffin ap Morus o gastell Croesoswallt mae Guto'n awgrymu i'w noddwr orchfygu afiechyd, sef o bosibl ymweliad y pla ag ardal Croesoswallt rywdro rhwng 1463 a 1465 (cerdd 96.45; cerdd 96.65-6).

Ychydig iawn o wybodaeth a geir yn y cerddi marwnad am yr afiechyd a fu'n gyfrifol am farwolaeth noddwr. Wrth farwnadu Meurig Fychan ap Hywel Selau ac Angharad ferch Dafydd o Nannau cyfeirir at y farfolaeth fawr (cerdd 50.8), sef o bosibl y Pla Du. Dywed Guto hefyd iddynt gael eu claddu yn Abaty Cymer sydd gerllaw eu cartref yn Nannau.

Afiechydon eraill
'The Zodiac Man' a diagram of a human body and astrological symbols with instructions explaining the importance of astrology from a medical perspective (NLW MS 3026C, 26).
'The Zodiac Man' in a 15th century manuscript
Click for a larger image
Ni wyddom lawer am afiechydon penodol eraill a fu’n epidemig yng Nghymru’r bymthegfed ganrif ac wrth i’r galw am well safon byw gynyddu, gellir dychmygu i’r afiechydon marwol leihau ryw fymryn. Effeithid ar rai cleifion ag afiechydon fel y gwahanglwyf neu’r clafr (leprosy) o hyd yn ogystal â chan afiechydon sy’n fwy cyfarwydd inni heddiw, fel y frech wen (smallpox). Gwelwyd rhai afiechydon am y tro cyntaf hefyd yn ystod y bymthegfed ganrif, megis y clefyd chwysu ('sweating sickness'). Ymddengys i’r clefyd hwn ymddangos yn gyntaf pan laniodd byddin Harri VII yn Aberdaugleddau, 1 Awst, 1485. Erbyn mis Medi roedd wedi ymledu’n helaeth, yn enwedig yn Llundain, gan ddychwelyd ar ffurf epidemig sawl gwaith yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Erys tarddiad ac achos y rhan fwyaf o afiechydon canoloesol yn ddirgelwch, a’r gred gyffredinol yw fod cyfuniad o elfennau, megis ffordd o fyw, glanweithdra a diffyg maeth wedi cyfrannu at gychwyniad haint. Pan ddigwyddai haint, yr oedd bod allan yn y wlad yn fwy manteisiol na bod o fewn muriau tref lle’r oedd budreddi a charthion yn achosi pob math o broblemau. Nid pawb ychwaith oedd â’r cyfoeth i fwyta bwydydd maethlon, ac o ganlyniad i ddiffyg fitaminau roedd clefydau fel scurvy ac anhwylderau eraill yn dra chyffredin (gw. Salwch Guto).

Mae Guto’n cyfeirio at ryw salwch a effeithiodd ar yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur. Disgrifir yr afiechyd fel haint oerfudr (cerdd 5.52) a nodir ei fod yn gaethach (cerdd 5.67). Mae’n amlwg wrth y disgrifiad i’r abad fod yn wael iawn, o bosibl ar ei wely angau:

Dyfr gost, am dy fawr gystudd. 
Dy glefyd, fy niwyd nêr, 
Yn Actwn yw fy nicter. 
traul dyfroedd, yr un teg ei rudd.
Dy salwch yn Acton
yw achos fy ngofid, fy arglwydd cywir.

(cerdd 5.10-12)


Gan fod bywyd yr uchelwyr yn ymwneud â nifer o gampau corfforol, boed ar faes y gad neu wrth hela, cyffredin hefyd oedd clwyfau corfforol o ganlyniad i gwymp neu arf. Yn wir, ymddengys i Guto’r Glyn ei hun dorri tair asen a hynny trwy faglu (cerdd 109). Anafwyd Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch yn ei ben-glin a manylir hefyd gan ddweud mai padell ei ben-glin, sef yr asgwrn ar flaen cymal y pen-glin, sydd wedi ei glwyfo ganddo (cerdd 92.14). Meddai Guto:

Dy gwymp oer a’m dug o’m pwynt, 
Dy gymal a’m dwg amwynt. 
Dig a phrid i gyffredin 
Dy wlad fu friwo dy lin. 
Dy gwymp annymunol a’m dygodd o’m hiechyd,
dy gymal sy’n dwyn anhwylder i mi.
Parodd briwo dy lin ddigofaint a cholled
i bobl gyffredin dy ardal.

(cerdd 92.9-12)


Anafwyd Dafydd ab Ieuan â saeth (o bosibl bwa saeth neu blaen gwaywffon):

Yr haeernyn ar hirnos 
A wnâi ’m na chysgwn y nos. 
Brynarwyd y morddwyd mau 
Yn ei geisio yn gwysau. 
Parai’r arf haearn ar noson faith
na chysgwn y nos.
Rhwygwyd fy morddwyd
yn glwyfau wrth i mi ei geisio.

(cerdd 69.19-22)


Ac mae Guto’n ymbil ar y Grog O dre Gaer i iacháu’r clwyf (ymhellach gw. Meddyginiaeth: Ffyrdd i wella).


Bibliography

[1]: B.L. Lewis a T. Morys (goln.), Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg ynghyd â gwaith Yr Ustus Llwyd (Aberystwyth, 2007), Atodiad, a 172-5.
[2]: W.L. Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (Caerdydd, 1964), cerdd rhif 56, T.G. Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926), LXXII.62.
[3]: R.S. Gottfried, Epidemic Disease in Fifteenth Century England: The Medical Response and the Demographic Consequences (Leicester, 1978), 41.
>>>Salwch Guto
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration