databas cerddi guto'r glyn

Meddyginiaeth

Patients in a hospital
Patients in a hospital
Click for a larger image

 Llawer dyn, llaw euraid wyd,
 Â chywydd a iachawyd.
 Myn y tân, minnau i ti
 O foliant a wnaf eli!
(cerdd 92.39-42)

A salwch a heintiau yn rhemp, roedd meddyginiaeth yn hanfodol yn yr Oesoedd Canol. Ond digon cymysglyd oedd gwybodaeth feddygol ac ychydig o ddatblygiad a fu mewn gwirionedd, er bod y testunau meddygol yn y Gymraeg ar gynnydd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. Roedd salwch a haint yn llawer mwy cyffredin, yn enwedig o gofio bod y Pla Du yn parhau i ymledu yn y bymthegfed ganrif. Mae’n bosibl iawn i Guto’r Glyn ei hun ddioddef o salwch hefyd (gw. Salwch Guto) ac wrth iddo heneiddio gwêl ei gorff yn dioddef yr anhwylderau hynny a oedd yn gyffredin i ŵr yn ei henaint.

O safbwynt y byd meddygol, canolbwyntid ar rinweddau gwahanol bethau ‘naturiol’ i geisio gwellhad gan amlaf, megis llysiau, perlysiau, meini gwerthfawr a hyd yn oed y sêr a’r planedau. Roedd crefydd hefyd yn holl bwysig fel y dengys y cerddi iacháu. Canodd Guto’r Glyn dair cerdd yn ymwneud ag erfyn am iachâd i’w noddwyr: un i’r Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur pan oedd yn sâl (cerdd 5), un ar ran Dafydd ab Ieuan ap Llywelyn (cerdd 69), ac un i Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch (cerdd 92).[1] Er na fanylir ar unrhyw fath o driniaethau meddygol yn y cerddi hyn, dengys y cyfeiriadau at saint, olewau cysegredig, ffynhonnau ac ati y ffyrdd traddodiadol i wella clwyfau a heintiau yn y cyfnod hwn.

Bibliography

[1]: Am ymdriniaeth â’r cerddi hyn gw. B.O. Huws, '‘Llawer dyn … / Â chywydd a iachawyd’: Guto’r Glyn yr iachawr' yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto'r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 00-00.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration