databas cerddi guto'r glyn


Ieuan ap Tudur Penllyn, 1433/40–c.1500

Ieuan ap Tudur Penllyn yw awdur cerdd 46a, sef cyfres o englynion sy’n dychanu ei dad, Tudur Penllyn, a oedd hefyd yn fardd. Canodd Guto gyfres debyg o englynion ar yr un pwnc (cerdd 46) a chanodd Tudur yntau gyfres arall o englynion i’w amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn y cerddi hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.

Achres
Olrheiniai Ieuan ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.

stema
Achres Ieuan ap Tudur Penllyn

Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.

Ei yrfa
Cafodd Ieuan ei eni tua 1433–40, yng Nghaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn, mae’n debyg, a bu farw tua 1500. Credir i gyfnod ei ganu ymestyn o c.1458–65 hyd ddiwedd y ganrif. Priodolir 15 cerdd iddo ac ynddynt ceir moli a marwnadu, gofyn a dychan. Ymysg y sawl y canodd iddynt roedd aelodau o deuluoedd Abertanad, yr Wyddgrug, Ynysymaengwyn a Gwydir, ac fel llawer o feirdd eraill canodd i’r Abad Dafydd ab Owain. Yn ogystal â’i dad, roedd ei fam, Gwerful ferch Ieuan Fychan, a’i chwaer, Gwenllïan, yn feirdd. Ymhellach, gw. GTP; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Tudur Penllyn.


Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration