stema
Achres Edward IV

Gwelir bod Edward hefyd yn disgyn o deulu Mortimer, teulu grymus iawn yng Nghymru. Pan ddaeth llinach Mortimer i ben yn 1425, tad Edward a etifeddodd diroedd y Mortimeriaid, megis Brynbuga, Euas, Blaenllyfni a llawer o arglwyddiaethau eraill. Golygai hyn fod Richard, dug Iorc, ac wedyn ei fab Edward yn arglwyddi ar diroedd lle trigai rhai o noddwyr pwysicaf Guto’r Glyn, e.e. Harri Gruffudd, Syr Wiliam ap Tomas a’i fab Wiliam Herbert.

Dyddiadau a gyrfa
Ganed Edward ar 28 Ebrill 1442 (Ross 1974: 3) yn Rouen tra oedd ei dad ar wasanaeth y Goron yno. Yn ystod y 1450au, pan oedd Edward yn dal yn ifanc, roedd tensiwn cynyddol rhwng Richard, dug Iorc, a phlaid llys y Brenin Harri VI o deulu Lancastr. Roedd Edward yn dal yn ei arddegau pan laddwyd ei dad yn sgil brwydr Wakefield ar ddiwedd 1460. Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd yn erbyn Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, ym mrwydr Mortimer’s Cross yn swydd Henffordd. Bu’n fuddugol ac aeth i Lundain, lle cyhoeddwyd ef yn frenin. Ar ddydd Sul y Blodau 1461 ymladdodd frwydr Towton yn swydd Efrog, lle trechwyd y Lancastriaid, ac yn sgil hynny fe’i coronwyd yn Llundain.

Prif gefnogwyr Edward yn ei ymgyrch am yr orsedd oedd teulu Neville, yn enwedig Richard, iarll Warwick. Yn ystod y 1460au, fodd bynnag, daeth eraill yn flaenllaw. Pwysai Edward yn drwm ar Wiliam Herbert, un o brif noddwyr Guto’r Glyn, fel cynorthwyydd iddo yng Nghymru, ac yn 1464 priododd Edward ag Elizabeth Woodville, gan ddod â’i theulu hithau i amlygrwydd mawr. Gwaethygu a wnaeth perthynas Edward ag iarll Warwick. Yn 1469 cododd yr iarll wrthryfel yn erbyn y brenin a lladdwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart yn ystod yr helyntion. Yn 1470 bu’n rhaid i Edward ffoi i’r Cyfandir, a dyrchafwyd Harri VI i’r orsedd eto. Dychwelodd Edward yn 1471 a chipio’r orsedd o’r newydd, gan drechu iarll Warwick ym mrwydr Barnet a chan orchfygu plaid Lancastr yn derfynol ym mrwydr Tewkesbury. Teyrnasodd wedyn hyd ei farwolaeth yn 1483.

Llyfryddiaeth
Ross, C. (1974), Edward IV (London)

, un o noddwyr Guto'r Glyn.">
databas cerddi guto'r glyn


Edward IV, 1442–83

Y Brenin Edward IV o Loegr yw gwrthrych cerdd 29.

Achres
Mab hynaf Richard, dug Iorc, oedd Edward. Ei fam oedd Cecily Neville. Roedd Edward yn or-orwyr i Edward III (1327–77) ar ochr ei dad a’i fam, fel y dengys yr ach isod (daw’r wybodaeth o gofnodion DNB Online):

stema
Achres Edward IV

Gwelir bod Edward hefyd yn disgyn o deulu Mortimer, teulu grymus iawn yng Nghymru. Pan ddaeth llinach Mortimer i ben yn 1425, tad Edward a etifeddodd diroedd y Mortimeriaid, megis Brynbuga, Euas, Blaenllyfni a llawer o arglwyddiaethau eraill. Golygai hyn fod Richard, dug Iorc, ac wedyn ei fab Edward yn arglwyddi ar diroedd lle trigai rhai o noddwyr pwysicaf Guto’r Glyn, e.e. Harri Gruffudd, Syr Wiliam ap Tomas a’i fab Wiliam Herbert.

Dyddiadau a gyrfa
Ganed Edward ar 28 Ebrill 1442 (Ross 1974: 3) yn Rouen tra oedd ei dad ar wasanaeth y Goron yno. Yn ystod y 1450au, pan oedd Edward yn dal yn ifanc, roedd tensiwn cynyddol rhwng Richard, dug Iorc, a phlaid llys y Brenin Harri VI o deulu Lancastr. Roedd Edward yn dal yn ei arddegau pan laddwyd ei dad yn sgil brwydr Wakefield ar ddiwedd 1460. Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd yn erbyn Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, ym mrwydr Mortimer’s Cross yn swydd Henffordd. Bu’n fuddugol ac aeth i Lundain, lle cyhoeddwyd ef yn frenin. Ar ddydd Sul y Blodau 1461 ymladdodd frwydr Towton yn swydd Efrog, lle trechwyd y Lancastriaid, ac yn sgil hynny fe’i coronwyd yn Llundain.

Prif gefnogwyr Edward yn ei ymgyrch am yr orsedd oedd teulu Neville, yn enwedig Richard, iarll Warwick. Yn ystod y 1460au, fodd bynnag, daeth eraill yn flaenllaw. Pwysai Edward yn drwm ar Wiliam Herbert, un o brif noddwyr Guto’r Glyn, fel cynorthwyydd iddo yng Nghymru, ac yn 1464 priododd Edward ag Elizabeth Woodville, gan ddod â’i theulu hithau i amlygrwydd mawr. Gwaethygu a wnaeth perthynas Edward ag iarll Warwick. Yn 1469 cododd yr iarll wrthryfel yn erbyn y brenin a lladdwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart yn ystod yr helyntion. Yn 1470 bu’n rhaid i Edward ffoi i’r Cyfandir, a dyrchafwyd Harri VI i’r orsedd eto. Dychwelodd Edward yn 1471 a chipio’r orsedd o’r newydd, gan drechu iarll Warwick ym mrwydr Barnet a chan orchfygu plaid Lancastr yn derfynol ym mrwydr Tewkesbury. Teyrnasodd wedyn hyd ei farwolaeth yn 1483.

Llyfryddiaeth
Ross, C. (1974), Edward IV (London)


Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration