databas cerddi guto'r glyn

Cypyrddau

A reconstruction of a fifteenth-century cupboard at Cochwillan.
A cupboard at Cochwillan
Click for a larger image

Defnyddid cypyrddau, cistiau a choffrau mewn tai neuadd i gadw mân eitemau fel lliain i’r byrddau, llestri a bwyd. Byddai’r rhain gan amlaf yn cael eu comisiynu gan noddwr a’u cynhyrchu gan saer lleol. Addurnid hwy â gwaith cerfio cain yn cynnwys patrymau a delweddau herodrol a daethant i gynrychioli cyfoeth a statws y perchennog.

Mae Cochwillan yn cael ei ddisgrifio gan Guto’r Glyn fel tŷ wedi ei ddodrefnu yn y modd mwyaf addas i ŵr o statws:

Mae yno i ddyn mwyn a ddêl 
Fwrdd a chwpwrdd a chapel 
A gwych allor Gwchwillan 
Ac aelwyd teg i gael tân; 
Mae i ddyn mwyn a ddaw yno
fwrdd a chwpwrdd a chapel
ac allor wych Cochwillan
ac aelwyd deg i gael tân;

(cerdd 55.13-16)


Awgrymir ymhellach gan Guto’r Glyn fod gan Sieffrai Cyffin gwpwrdd i gadw nwyddau yn ei neuadd ef yng nghastell Croesoswallt:

Ni bu gwpwrd y gwrda, 
Ni bydd un dydd, heb win da; 
Ni bu cwpwrdd y gŵr bonheddig,
ni bydd un dydd, heb win da;

(cerdd 97.61-2)


Gair a ddefnyddir am gwpwrdd yw almari sy’n air benthyg o’r Saesneg Canol almarie, sef ‘cwpwrdd, cell, cloer’.[1] Ni cheir cerdd gan Guto sy’n rhoi disgrifiad o almari, ond canodd Dafydd Trefor, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, gywydd i ofyn almari gan Wiliam ap Maredudd ap Rhys o Lanfairfechan dros Ddafydd ap Gwilym.[2] Daw’n amlwg yn y cywydd hwnnw mai cwpwrdd ar gyfer cadw bwyd a diod (o afael llygod!) oedd ei almari ef.

Mae rhai cypyrddau wedi goroesi o’r cyfnod Tuduraidd yng Nghymru, a’r un mwyaf nodweddiadol efallai yw’r un a gysylltir ag un o noddwyr Guto’r Glyn, Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd.[3]

Bibliography

[1]: ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. aumbry, n
[2]: Rh. Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2006), 7.
[3]: R. Bebb, Welsh furniture, 1250-1950: a cultural history of craftsmanship and design, Vol. 1 (Aberystywth, 2007), 161-2.
<<<Byrddau a meinciau      >>>Gwelyau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration