databas cerddi guto'r glyn

Tapestrïau


Un o’r ffyrdd mwyaf trawiadol i addurno tai yn y bymthegfed ganrif oedd gosod tapestrïau ar y muriau. Oherwydd uchder y to yn y tai neuadd, yr oedd digon o le i’r tapestrïau hyn orchuddio’r muriau i arwyddo statws a chyfoeth y perchennog.
A reconstruction of a fifteenth century tapestry at Cochwillan.
A tapestry at Cochwillan
Click for a larger image

Roedd y cyfnod o tua 1450 i 1550 yn gyfnod euraid y tapestrïau ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y farddoniaeth.[1] Mae’r gair Cymraeg aras yn fenthyciad o’r Saesneg Canol arras, sy’n tarddu o enw tref yn Artois.[2] Crefft frodorol Arras oedd y gwaith tapestri, a defnyddid edafedd brodorol ynghyd ag edafedd sidanaidd o’r Eidal a Chiprys o liwiau aur ac arian i greu’r cyfanwaith cain. Câi tapestrïau Ffleminaidd eu mewnforio i Brydain o gyfnod cynnar iawn, nifer ohonynt yn cael eu comisiynu gan uchelwyr cyfoethog.

Daeth aras, neu’r amrywiadau ares neu eres, yn air a ddefnyddid gan y beirdd i gyfeirio at waith tapestri o safon, tapestri nad oedd o reidrwydd yn tarddu o’r dref honno ond yr un mor hardd. Disgrifiodd Guto ei wely yng Nghochwillan, er enghraifft, fel Gwely ares goleurym (cerdd 55.11), ac wrth ganmol cartref Syr Siôn Mechain yn Llandrinio fe gyfeiriodd at gryslen a addurnai’r muriau:

Lwfer ni ad lif o’r nen, 
A chroeslofft deg a chryslen. 
Lwfer nad yw’n gadael llif i mewn o’r nen,
llofft hardd ar ffurf croes a thapestri.

(cerdd 85.25-6)


Ymddengys mai cyfeirio at dri thapestri yn Llandrinio a wneir mewn llinellau eraill yn yr un cywydd, er ei bod yn bosibl hefyd fod y bardd yn cyfeirio’n drosiadol at drawstiau’r to (gw. Gwaith coed):

Tri brwyd a weuwyd o wŷdd, 
Troi’n gwlm bob tri ’n ei gilydd. 
Tri brodwaith wedi eu gwau ar bren,
pob tri yn clymu yn ei gilydd.

(cerdd 85.33-4)


Roedd pob math o ffigurau wedi eu brodio ar y tapestrïau hyn ac ymddengys fod delweddau o fyd natur megis adar, blodau a phlanhigion o bob math yn boblogaidd yng Nghymru yn ôl rhai o’r cerddi gofyn a diolch sy’n disgrifio’r gwaith.[3] Darluniwyd yr un math o ddelweddau ar ffurf murluniau hefyd mewn tai o statws, arfer a ddaeth yn fwy poblogaidd wrth i’r cyfnod fynd rhagddo.
A detail from a wall painting at Ciniau, a medieval hall house.
Wall painting at Ciliau
Click for a larger image


Rhai o’r tapestrïau enwocaf sydd wedi goroesi o’r Oesoedd Canol yw’r rhai sy’n darlunio golygfeydd hela, ac mae’n debyg fod storïau o’r Beibl, ynghyd â ffigurau o saint ac arwyr, hefyd i’w gweld ar furiau’r neuaddau ym Mhrydain erbyn y bymthegfed ganrif. Mewn teitl englyn mewn llawysgrif o’r unfed ganrif ar bymtheg yn llaw Wiliam Bodwrda, ceir awgrym fod tapestri yn portreadu’r Nawyr Teilwng ym Mhlas Bodwrda yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Roedd topos y Nawyr Teilwng yn gyfarwydd iawn i’r beirdd (gw. yn arbennig y moliant i Siôn Hanmer, cerdd 75) a cheir tri thapestri sy’n darlunio tri o’r Nawyr a luniwyd tua’r flwyddyn 1385 yn Yr Amgueddfa Gelf Fetropolitaidd, Efrog Newydd.[4]

Ni chawn wybod yn union gan feirdd y bymthegfed ganrif yr hyn a bortreedid ar dapestrïau eu noddwyr ond mae’n amlwg i’r lliwiau llachar yn eu gwead a’r brodio cain greu argraff arbennig ar y beirdd.

Ac yntau mor gyfarwydd â gweld y tapestrïau hyn yn nhai ei noddwyr, disgrifia Guto’r Glyn y pwrs a gafodd gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad fel eres o goed (cerdd 87.61). Roedd beirdd eraill y cyfnod yn ogystal yn defnyddio’r tapestri fel trosiad.[5]. Mae Gutun Owain, er enghraifft, yn gweld tebygrwydd rhwng edafedd aur a weithiwyd i mewn i dapestri a’i noddwr yn rhannu ei aur i’w feirdd.[6]

Bibliography

[1]: E. Broudy The Book of Looms (London, 1979), 60.
[2]: ‘The Oxford English Dictionary’ s.v. arras, n.¹.
[3]: A.M. Jones, ‘O’r Brethyn Brith i’r Damasg Disglair: Tecstiliau’r Cymry yn yr Oesoedd Canol’, yn Cof Cenedl XXIV, gol. G.H. Jenkins (Llandysul, 2009), 1-29.
[4]: D. Ifans, ‘Nawwyr Teilwng Plas Bodwrda’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales journal, (1973), xviii, 181-4.
[5]: Gw. ymhellach M. Haycock, ‘Defnydd hyd Ddydd Brawd’: rhai agweddau ar y ferch ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, gol. G.H. Jenkins, Cymru a’r Cymry 2000 / Wales and the Welsh 2000 (Aberystwyth, 2001), 52-3.
[6]: E. Bachellery (éd.), L’oeuvre poétique de Gutun Owain (Paris, 1950-1), cerdd 30.
<<<Gwelyau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration