databas cerddi guto'r glyn

Dodrefn


Wrth i rai uchelwyr ailadeiladu eu tai, byddent hefyd yn dodrefnu’r neuadd lle cynhelid gwleddoedd â chelfi megis bwrdd tâl a meinciau, a chwpwrdd i gadw manion bethau. Erbyn y cyfnod hwn, roedd y tai neuadd yn cynnwys nifer o ystafelloedd o dan yr un to (gw. Pensaernïaeth: Cynllun) ac, yn y tai mwyaf cyfoethog, nid oedd yn rhaid i’r gwesteion gysgu ar lawr y neuadd: gellid cynnig iddynt welyau a oedd weithiau mewn ystafell ar wahân.

Yn y tai hyn hefyd fe ddisodlwyd y tân agored yng nghanol y neuadd gan le tân sylweddol a simnai, ac roedd tapestrïau lliwgar yn addurno’r waliau.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration