databas cerddi guto'r glyn

Gwaith coed

Tretower is a 15th century hall-house.
The beams at Tretower
Click for a larger image

Roedd gwaith coed ysblennydd yn nodweddu tai’r uchelwyr, boed yn dŷ bychan gwledig neu’n dŷ neuadd mawreddog. Ffrâm bren ar sylfaen o gerrig oedd yn gyffredin yn y dwyrain a’r gogledd-ddwyrain, ac mae cyfeiriadau yng ngherddi Guto’r Glyn yn awgrymu mai tai felly oedd Y Faenor, Tŷ’r medd, o goed derw a main (cerdd 38.33), Moeliwrch, Gorau coed ar gerrig gwaith (cerdd 90.53) ac o bosibl cartref Syr Siôn Mechain yn Llandrinio a ddisgrifir fel derwgwrt (cerdd 85.11).[1] Roedd yr adeilad newydd yn yr Henllan (yr oedd angen to llechi arno) wedi ei wneud o bren yn ôl Guto (cerdd 61, gw. llinellau 6 coed hoelion; 42 gwŷdd a 62 irwydd), ond defnyddid carreg hefyd ar gyfer y muriau (y mur main, cerdd 61.45).

Hyd yn oed mewn tai cerrig defnyddid fframiau pren i gynnal y to, ac yn achos tai pren defnyddid fframiau tebyg i gynnal y to a’r muriau fel ei gilydd. Gelwir y fframiau hyn yn ‘gyplau’ ac un math pwysig oedd ‘cyplau bongam’. Cyplau wedi eu llunio o goed bwaog (lleol) a oedd yn cael eu torri yn eu canol i ffurfio llafnau unfath oedd y rhain. Defnyddid mwy o wahanol ddarnau o bren mewn cynlluniau fframio eraill, megis y cwpl bocs, y cwpl eil a’r to trawst gordd, y mae enghraifft wych ohono yn goroesi yng Nghochwillan.[2]

Defnyddid darnau ychwanegol o bren i gysylltu’r cyplau â’i gilydd, ynghyd ag ategion gwynt i gryfhau’r to, yn enwedig yng ngogledd Cymru.[3] Cerfiwyd yr ategion gwynt, a’r rhan uchaf, ganolog o’r cyplau eu hunain, mewn ffurfiau addurnol yn aml fel bod yr holl waith coed yn creu gofod agored hardd a mawreddog, fel yn achos Cochwillan (gw. Ail-lunio Cochwillan). Roedd rhoi cromliniau bychain o fewn y ffrâm bren yn ffordd syml i greu patrwm addurnol, a ddefnyddid yng Nghochwillan, Hen-blas ac efallai yn Lleweni. Yng Nghochwillan mae’r cromliniau’n ffurfio addurn blodeuog ym mrig y cyplau canolog, ac ym Mryndraenog, tŷ a ddisgrifir gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, un o gyfoeswyr Guto, ceir treswaith pigfain o feillion o fewn y to, sef cynllun tebyg i ddeilen gyda thair dalen.[4]

Er nad yw’r gwaith pren ym Moeliwrch wedi goroesi, mae Guto’n awgrymu bod yno waith cerfio cain, gan gyfeirio at orau coed ‘y pren gorau’ yn ogystal â Lloergan ystefyll irgoed ‘ystafelloedd o bren iraidd wedi eu goleuo gan y lleuad’, a chan daeru Ni bu mewn llofftydd wŷdd well (gw. llinellau 55, 52 a 57, cerdd 90). Ymddengys fod y nenfwd yn nhŷ Syr Siôn Mechain yn Llandrinio, hefyd, wedi creu argraff ar Guto ac yntau, mae’n debyg, yn cymharu patrwm ei waith pren â gwaith brodio:

Tri brwyd a weuwyd o wŷdd, 
Troi’n gwlm bob tri ’n ei gilydd. 
Tri brodwaith wedi eu gwau ar bren,
pob tri yn clymu yn ei gilydd.

(cerdd 85.33-4)


Yn ogystal â chanmol carreg eurin Colbrwg (cerdd 22.39) cyfeiria Guto at ei bren, gan gymharu’r cerfio â gwaith gof aur neu eurych:

Cerfiwyd a grafiwyd yn grych 
Cyrff y derw fal crefft eurych, 
Cerfiwyd ac ysgythrwyd yn batrymau cudynnog
cyffion y derw fel crefft eurych,

(cerdd 22.41-2)


An example of a wall with wattle and daub at 34 Castle Street, Beaumaris.
Wattle and daub
Click for a larger image
Llenwid paneli’r muriau â ‘wattle and daub’, sef cyfuniad o rodiau fertigol gyda brigau plethedig a chymysgedd o fwd, tywod a chlai. Yng ngherdd Guto sy’n canmol tŷ newydd Y Faenor ceir y llinell Dyblu derw, dwbled irwydd (cerdd 38.47), sef cyfeiriad posibl at y dull hwn. Posibilrwydd arall yw bod y dyblu derw yn cyfeirio at y parau o gyplau derw a gynhaliai’r neuadd.

Rhoddid ffenestri a drysau o fewn fframiau mawreddog a cheid ffigurau herodrol uwchben y drysau, fel yr un yng Nghochwillan. Daeth y rhain yn fwy poblogaidd wrth i’r cyfnod fynd rhagddo a cheir enghreifftiau o’r unfed ganrif ar bymtheg yng Nghwrtnewydd, Bacton, ac o bosibl ym Mhen-rhos, Caerllion.

A door carved with a hunting scene at Rhydarwen, Llanarthne.
A hunt carved in wood
Click for a larger image
Y tu mewn i’r tŷ, addurnid y muriau â thapestrïau neu furluniau. Arddangosid gwaith cerfio manwl hefyd ar sgrinau a phaneli ac yn rhwyllwaith cerrig ffenestri (gw. Gwydr lliw).

Roedd rhai o hoff drosiadau’r beirdd yn ymwneud â gwaith coed. Cymharodd Dafydd ap Gwilym grefft y beirdd â chrefft saer coed, gan sôn amdanynt yn mynd at goedwig i gasglu defnydd crai eu cerddi,[5] a mynegir syniad tebyg yng ngherdd Guto i Ddafydd Llwyd o’r Drenewydd:

Mae deufin i’r mau dafawd 
A dyr gwŷdd, seilderi gwawd. 
Naddu mae’r awenyddion 
Eu gwawd fry o goed y fron 
Fal na ellir heb hiroed 
Gael deunydd cywydd o’r coed. 
Aeth y gwŷdd i’th gywyddau, 
Y ffridd ni wedd ei pharhau. 
Mae dau fin i’m tafod
sy’n torri gwŷdd, trawstiau cân.
Naddu mae’r awenyddion
eu cân fry o goed y fron
fel na ellir heb ysbaid hir
gael defnydd cywydd o’r coed.
Aeth y gwŷdd i’th gywyddau,
ni wedda parhau’r coetir.

(cerdd 37.35-42)


Yn yr un gerdd, datblygir y trosiad ymhellach drwy ddisgrifio Dafydd ei hun fel gwŷdd tai gwawd:

Dechrau gwawd, diochri gwŷdd, 
Eto’dd wyf iti, Ddafydd. 
O derfydd coedydd ceudawd, 
Dafydd, ti yw gwŷdd tai gwawd. 
Gorau deunydd, Ddafydd, wyd, 
Gwŷdd awdl neu gywydd ydwyd. 
Ti yw trefn iawngefn angerdd, 
Ti yw coed deunydd tŷ cerdd. 
Trawst ein iaith trosti a’i nen, 
A’i chanbost a gwych winben; 
Post union, ŵyr Einion rym, 
A cholon wych o Wilym. 
Caterwen Ceri wen ŵyl, 
Coed nen Cydewain annwyl. 
Dechrau cân, unioni gwŷdd,
eto i ti yr wyf, Dafydd.
Os derfydd coedwigoedd mynwes,
Dafydd, ti yw gwŷdd tai cân.
Ti yw’r defnydd gorau, Dafydd,
gwŷdd awdl neu gywydd ydwyt.
Ti yw ystafell cefn union crefft,
ti yw coed defnydd tŷ cerdd.
Trawst ein pobl trosti a’i tho,
a’i phostyn a phren croes rhagorol;
piler union, ŵyr Einion grymus,
a cholofn wych yn disgyn o Wilym.
Derwen fawr Ceri hyfryd, fwyn,
coed nen Cedewain annwyl.

(cerdd 37.53-66)


Am drafodaeth bellach am y traddodiad o gymharu’r ddwy grefft, gw. M.T. Davies, ‘Aed i’r coed i dorri cof’: Dafydd ap Gwilym and the Metaphorics of Carpentry, Cambrian Medieval Celtic Studies, 30 (1995), 67-85; A. Parry Owen, ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), yn enwedig 11-12, 17, a R.Suggett, ‘Creating the Architecture of Happiness in Late Medieval Wales’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 393-428.


Bibliography

[1]: Am Foeliwrch gw. B.O. Huws, ‘Y Bardd a’i Noddwr yn yr Oesoedd Canol Diweddar: Guto’r Glyn a Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch’, G.H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl XVI (Llandysul, 2001), 1-32.
[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 77-82, 94-105.
[3]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 412-3.
[4]: R. Suggett, Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400-1800 (Aberystwyth, 2005), 144.
[5]: ‘Dafydd ap Gwilym.net’, 24.43-8n.
>>>Gwaith maen
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration