databas cerddi guto'r glyn

Gwneuthuriad


Datblygodd gwahanol draddodiadau adeiladu mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar, fel yr eglurodd Peter Smith.[1] Yn y dwyrain a’r Gororau adeiladid tai pren, gan amlaf, gyda fframiau pren ar sylfaen o gerrig, ond yn y gorllewin a ger yr arfordir roedd adeiladau o gerrig yn fwy cyffredin. Rhwng y ddwy ardal hon datblygodd traddodiad o adeiladu tai cyfansawdd a chanddynt fframiau a pharwydydd o bren a muriau allanol o gerrig.
To agored yn Fferm y Castell, Morgannwg.
To agored mewn tŷ neuadd
Cliciwch am ddelwedd fwy
Nid strwythuro’r tŷ yn unig oedd pwrpas y fframiau hyn gan eu bod yn cael eu cerfio’n ofalus ac felly’n cynnwys gwaith addurn yn ogystal o fewn tai megis Cochwillan. Roedd nodweddion addurnol eraill tai newydd y cyfnod hwn yn cynnwys y ffenestri gwydr lliw a’r lle tân. Ysblennydd iawn, hefyd, oedd y gwaith maen mewn rhai adeiladau sylweddol megis castell Rhaglan a Cholbrwg.

Mae cerddi Guto sy’n canmol Colbrwg, Y Faenor a thŷ Syr Siôn Mechain yn Llandrinio (cerddi 22, 38 a 85) ac sy’n gofyn teils gan Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd (cerdd 61) yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol y diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Llyfryddiaeth

[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (1988), 72-83
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration