databas cerddi guto'r glyn

Cynllun

Corff tebyg i gorff eglwys oedd i dai neuadd y bymthegfed ganrif. Fframwaith pren gyda nifer o gyplau a gynhaliai’r tŷ gan ymestyn o’r muriau i’r nenfwd. Gallai neuadd gynnwys un, dau neu dri bae, gan ddibynnu ar nifer y cyplau a oedd yn cynnal y to. Roedd gan dai neuadd fynedfa groes, gyda dau ddrws yn wynebu ei gilydd, ac ym mhen arall y neuadd roedd y bwrdd tâl, a osodid yn aml ar lwyfan isel. Roedd llawer o dai wedi eu hadeiladu ar hyd llethr gyda’r fynedfa groes ar ben isaf y neuadd fel arfer.[1]

Yn y gerdd a ganodd Guto’r Glyn ar achlysur ailadeiladu tŷ Hywel ab Ieuan Fychan ym Moeliwrch, mae lleoliad y tŷ ar ochr bryn yn adlewyrchu natur hael y noddwr:

Hywel, ystoria Selyf, 
A wnaeth hwn yn blas crwn, cryf, 
Myn y nef, nid mewn un nant 
Mal cybydd ym moly ceubant, 
Ond ar fryn, rhôi lyn i lu, 
A lle uchel rhag llechu. 
Hywel, stori Solomon,
a wnaeth hwn yn blas cyflawn, cryf,
myn y nef, nid mewn unrhyw gwm
yng nghanol ceubant fel cybydd,
ond ar fryn a lle uchel rhag llechu,
rhoddai ddiod i lu.

(cerdd 90.13-18)


A drawing of the original plan of Hen-blas, home of Huw Buckley.
The plan of Hen-blas
Click for a larger image
Dywed Guto hefyd fod dringo’r llechwedd i gyrraedd y tŷ yn waith caled ond yn llwyr werth yr ymdrech (cerdd 90.23-30)!

Er ei bod yn debygol mai tai un ystafell oedd y tai neuadd cynharaf, yn yr Oesoedd Canol diweddar byddent yn cael eu rhannu gan balisau fel arfer. Y cam cyntaf oedd ychwanegu un ystafell, ger y fynedfa, ond daeth neuaddau a chanddynt ystafelloedd ger y fynedfa ac y tu ôl i’r llwyfan yn fwy cyffredin wedyn.[2] Gwneid y palisau o fframiau pren gyda phaneli o bren neu o blethwaith wedi ei blastro; roedd y rhai a wneid yn gyfan gwbl o bren yn uwch eu bri, ac fe’u defnyddid yn aml y tu ôl i’r llwyfan.[3] Weithiau ychwanegid adenydd ar bob pen i’r neuadd: cynllun ‘H’ oedd gan Hen-blas, er enghraifft, sef neuadd gydag adenydd o boptu yn cydbwyso.[4]

Y neuadd
Y neuadd oedd y brif ystafell ac yno y byddai’r wledd yn cael ei chynnal. Ystafelloedd hirsgwar yn agored i’r to oedd y rhan fwyaf o neuaddau yn nhai’r bymthegfed ganrif, er ei bod hi hefyd yn bosibl cael y neuadd ar y llawr cyntaf (gw. Tŷ neuadd a Tai tŵr a neuaddau llawr-cyntaf). Disgrifia Guto’r Glyn y neuadd yn Llandrinio fel neuadd hir (cerdd 85.21), a neuadd y Faenor fel neuadd fawr, newydd, firain (cerdd 38.27).
Plan of Bryndraenog, a 15th century hall house.
Plan of Bryndraenog
Click for a larger image

Ym mhen uchaf y neuadd roedd y bwrdd tâl, wedi ei osod ar lwyfan yn aml, ble’r eisteddai’r noddwr a’i deulu yn wynebu gweddill y gwesteion (gw. Dodrefn). Nodwedd arall yn y tai mawr oedd yr hyn a elwir yn ganopi nenlen, sef pren (bwaog weithiau) a oedd yn dod allan ychydig uwchben y llwyfan i greu to bychan uwch ben y bwrdd tâl. Mae’r canopi yn bodoli o hyd yng Nghochwillan ac ymddengys fod rhai hefyd yn yr Hen-blas ac yn Lleweni cyn i’r tai neuadd hynny gael eu dymchwel.[5] Pwrpas y canopi nenlen oedd creu strwythur tebyg i orsedd frenhinol ar gyfer yr uchelwr a’i deulu. Rhoddid ffenestri gan amlaf ym mhen uchaf y neuadd i oleuo’r llwyfan, rhai ohonynt mor ysblennydd â ffenestri mewn eglwysi (gw. Gwydr lliw).

Ger y llwyfan adeiladid oriel mewn rhai tai, sef cilfach gyda ffenestr. Roedd oriel yn fan mwy preifat o fewn y neuadd. Ceid enghreifftiau mewn neuaddau mawreddog fel Tretŵr a Rhaglan, ond hefyd mewn tai llai eu maint. Yn ôl y traddodiad, yn yr oriel yr eisteddai’r beirdd a’r cerddorion yn neuadd fawr Nannau.[6]


Ystafelloedd eraill
Bishop's Palace
Bishop's Palace
Click for a larger image
Erbyn cyfnod Guto, roedd cynllun y tŷ neuadd wedi datblygu ac ychwanegid ystafelloedd eraill at y neuadd ei hun. Yn wir, cyfeiria’r beirdd yn aml at y tŷ fel nawty a’r hyn a olygir yw fod y tŷ newydd a ddisgrifir yn cynnwys yr ystafelloedd angenrheidiol o dan yr un to (nid naw ystafell o reidrwydd). Dywed Guto, er enghraifft, fod gan dŷ newydd Syr Siôn Mechain nawty’n un ‘naw o adeiladau yn un’ (cerdd 85.22), a bod Edward ap Hywel a’i wraig Gwenllïan wedi gwneud nawty’n un yn y Faenor, Aberriw (cerdd 38.57-8). Yn yr Oesoedd Canol cynharach, roedd arwyddocâd penodol i ‘naw tŷ’ gan mai felly yr adeiladid llys y brenin, yn ôl cyfraith Hywel Dda. Y naw uned oedd y neuadd, ystafell wely, cegin, capel, ysgubor, odyn, ystabl, cynordy, a ‘thŷ bach’. Yn nhai mawr y bymthegfed ganrif roedd yn bosibl cynnwys nifer o’r unedau hyn o dan yr un to.

Ceid un adain neu uned ychwanegol ym mhen uchaf y neuadd. Roedd hon yn uned ddeulawr a gynhwysai ystafelloedd preifat i’r teulu: y parlwr ac ystafell gysgu (a elwir weithiau’n siambr). Mae Cochwillan yn adeilad sydd wedi cadw ei gynllun gwreiddiol ers ei adeiladu yn y bymthegfed ganrif ac mae Guto’r Glyn yn disgrifio’r lle gan ddweud bod yno siambr deg iddo ef gysgu ynddi a gwely arras, sef gwely â llenni tapestri arno (cerdd 55.11-12). Dywed hefyd fod yno gapel ac allor, sef rhan fechan o’r neuadd a ddefnyddid i addoli efallai (rhywbeth eithaf cyffredin yn nhai’r uchelwyr pan oedd eglwys y plwyf yn bell i ffwrdd).[7] Posibiliad arall yw bod Guto yn cyffelybu’r bwrdd tâl, ar ei lwyfan, i allor mewn eglwys.

Ym mhen isaf y neuadd roedd uned ychwanegol i storio a pharatoi peth o’r bwyd, sef y gegin. Weithiau, rhennid y rhan hon yn is-unedau pellach i greu pantri (i storio bara) a bwtri. Unedau deulawr oedd y rhain hefyd gan greu ystafell wely llawr cyntaf i’r gwesteion. I fynd at yr ystafelloedd hyn ceid dau neu dri drws yn y wal balis ym mhen isaf y neuadd (sydd i’w gweld o hyd yn Nhŷ Draw, Llanarmon Mynydd Mawr). Yn ôl Enid Roberts, uwchben y pantri a’r bwtri y cysgai’r beirdd fel arfer a’r teulu’n cysgu uwchben y parlwr.[8]

Yn Llandrinio roedd parlwr, pantri a chegin i Syr Siôn Mechain a disgrifir yr adeilad gan ddefnyddio’r rhif tri er mwyn cyfleu perffeithrwydd y lle. Gall hyn hefyd awgrymu mai tŷ tair uned ydoedd:

Parlwr i’r gŵr a rôi’r gwin, 
Punt i’r cog, pantri cegin. 
Pont i’r dŵr, pentwr o dai, 
Plas teils, pa lys a’i talai? 
Tri bwrdd a bair troi i’w borth, 
Tair siambr yn trwsio ymborth. 
Parlwr i’r gŵr a roddai’r gwin,
punt i’r cogydd, pantri ar gyfer y gegin.
Pont ar gyfer y dŵr, twr o adeiladau,
plas â phriddlechi, pa lys a ddaliai gymhariaeth ag ef?
Mae dod trwy ei fynedfa yn darparu tri bwrdd,
tair ystafell yn darparu lluniaeth.

(cerdd 85.27-32)


Crybwyllir hefyd groeslofft deg sy’n awgrymu mai adeilad ag adain ychwanegol ar draws oedd yn Llandrinio (cerdd 85.26). Mae ei ddisgrifiad o bwrs, mewn cerdd arall, fel croes adail ‘adeilad croes’ (cerdd 87.58) yn awgrymu ffurf gyffelyb, er ei bod yn bosibl fod ganddo eglwys mewn golwg yn hytrach na chartref seciwlar. Dywed hefyd fod gan y pwrs dair llofft:

O fewn hwn, efô yw ’nhai, 
Y mae annedd fy mwnai, 
Tŷ’r gild a’r tyrau goldwir, 
Tair llofft o’r tu arall hir. 
O fewn hwn mae cartref fy arian,
efe yw fy nhai,
tŷ’r eurad a’r tyrau o edau aur,
tair llofft ar yr ochr arall hir.

(cerdd 87.51-54)


Roedd mwy byth o ystafelloedd ym Moeliwrch yn ôl Guto, er nad oes angen cymryd ei sôn am ei ugeinllofft (cerdd 90.56) yn llythrennol: yn hytrach, gall mai ‘llawer o ystafelloedd’ yw’r ystyr. Awgrymir ystafelloedd niferus hefyd gan gyfeiriad Guto at Golbrwg fel tref fawr ac fel tŷ beichiog o’r tai bychain:

Mae fry ganty ac untwr, 
Tref fawr mewn pentwr o fain, 
Tŷ beichiog o’r tai bychain. 
Ei gaerau yw’r graig eurin, 
mae uchod gan tŷ ac un tŵr,
tref fawr mewn pentwr o feini,
tŷ sy’n feichiog o dai bychain.
Carreg euraid yw ei furiau,

(cerdd 22.36-9)


Roedd cael seler i storio gwinoedd a diodydd eraill yn beth cyffredin iawn mewn tai sylweddol, a chyfeiria’r beirdd at y seler yn Rhaglan a oedd yn gyfoethog o winoedd o dramor yng nghyfnod Syr Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (cerdd 20a.29-30). Mae’r seler fawr yn y castell i’w gweld hyd heddiw.[9]

Bibliography

[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 40-7, 65.
[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 and 1988), 41.
[3]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 and 1988), 77.
[4]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 97.
[5]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 97.
[6]: R. Suggett, ‘Creating the Architecture of Happiness in Late-medieval Wales’. Gw. hefyd N. Cooper, Houses of the Gentry, 1480-1680 (New Haven & London, 1999), 198-9.
[7]: E. Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), 38.
[8]: E. Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), 32.
[9]: J.R. Keynon, Raglan Castle (Cadw, 2003).
<<<Tai tŵr a neuaddau llawr-cyntaf      >>>Lleoedd tân
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration