databas cerddi guto'r glyn

Y lle tân


A reconstruction of the fireplace at Cochwillan as it was in Guto's time.
The fireplace at Cochwillan
Click for a larger image
Un newid amlwg yn nhai’r bymthegfed ganrif oedd symud y tân agored o ganol y llawr i aelwyd fawr a lle tân ar un o’r waliau. Ers yr Oesoedd Canol Cynnar, cynhesid y neuadd gan dân ynghanol yr ystafell a byddai’r mwg yn cael ei ryddhau drwy dwll yn y to a elwid yn lwfer.[1] Wrth gwrs, nid oedd simnai fel hyn yn hynod o effeithiol a byddai’r neuadd yn llawn mwg a huddygl. O ganlyniad, pan aethpwyd ati i ailadeiladu’r tai, gwelwyd bod adeiladu simnai ar un o’r waliau allanol yn ffordd i ddatrys y broblem. Ymddengys i’r lle tân ar y wal ddod yn arwydd o statws a gwelwyd trawstiau cerfiedig o bren neu garreg yn cael eu hadeiladu o amgylch yr aelwyd. Mae’r lle tân yng Nghochwillan yn enghraifft o ystlysbyst siamffrog a lintel wedi’i fowldio a chaiff ei disgrifio gan Guto’r Glyn fel:

A gwych allor Gwchwillan 
Ac aelwyd teg i gael tân; 
Y mae deuwres i ’mdiro: 
Ei goed o’r glyn gyda’r glo. 
ac allor wych Cochwillan
ac aelwyd deg i gael tân;
mae dau fath o wres ar gyfer ymdwymo:
ei goed o’r glyn ynghyd â’r glo.

(cerdd 55.15-8)


The kitchen at Raglan castle had this grand fireplace.
One of the fireplaces at Raglan
Click for a larger image
Fodd bynnag, ymddengys i’r hen simnai, y lwfer, aros yn boblogaidd, yn enwedig yn nhai’r werin bobl a rhai uchelwyr yng ngogledd a gorllewin Cymru.[2] Yn wir, gellir gweld olion simnai lwfer mewn rhai hen dai gan fod y pren wedi ei dduo gan fwg a thân. Ymddengys fod dau o’r tai yr ymwelodd Guto’r Glyn â hwy yn cynnwys simnai lwfer: cartref newydd Syr Siôn Mechain yn Llandrinio, a Phrysaeddfed, cartref Huw Lewys. Mae’n debyg mai lwfer newydd oedd yn Llandrinio gan fod Guto’n cyfeirio at y to a oedd wedi ei wneud o lechi o fynydd Corndon a ‘lwfer nad yw’n gadael lli i mewn drwy’r nen’ (Lwfer ni ad lif o’r nen, cerdd 85.25). Cyfeirir at lwfer ym Mhrysaeddfed mewn cerdd i ateb Llywelyn ap Gutun wrth i Guto nodi bod llif y môr wedi cyrraedd mor bell â’r to ym Mhrysaeddfed (wedi honiad Llywelyn ap Gutun fod Guto wedi boddi ar draeth Malltraeth):

I lys Huw Lewys a’i lawr 
Y dôi lanw i delyniawr, 
A thybio, er clwyfo clêr, 
Y dôi lif hyd y lwfer. 
I lys a llawr Huw Lewys
y deuai llanw yn ôl telynor,
a thybio y deuai llif hyd y simnai
er mwyn clwyfo clêr.

(cerdd 65.21-24)


Tra’n holi pam roedd rhai uchelwyr Cymru’n ffafrio simnai lwfer yn hytrach na’r lle tân diweddaraf, awgryma Enid Roberts fod y simnai newydd yn rhoi llai o wres na’r hen simnai lwfer.[3] Boed yn hen aelwyd neu’n un newydd, roedd tanllwyth o dân yn arwydd amlwg o letygarwch yn ôl y beirdd ac roedd cyfeirio at y mwg i’w weld o bell yn ffordd i bwysleisio hynny. Mae Guto, er enghraifft, yn honni bod mwg y Faenor ym Mhowys i’w weld o Fôn a Chaerllion (cerdd 38.43).


Bibliography

[1]: E. Wiliam, ‘Yr Aelwyd: The Architectural Development of the Hearth in Wales’, Folk Life, 16.
[2]: P.Smith, Houses of the Welsh Countryside (Cardiff, 1975 & 1988), 39.
[3]: E. Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).
<<<Cynllun      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration