databas cerddi guto'r glyn

Cefndir


Nid oedd anghydfod rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddatblygiad newydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Gellir olrhain gwreiddiau’r berthynas anesmwyth rhwng llywodraethwyr y ddwy wlad i’r Goncwest Normanaidd, pan ddaeth Wiliam, dug Normandi, yn frenin Lloegr. Byth ers hynny, bu brenhinoedd Lloegr yn dal tiroedd yn Ffrainc, fel dugiaid neu gowntiaid ac arnynt ddyletswydd i dalu gwrogaeth i frenin Ffrainc. Byddai’r berthynas hon, ynghyd ag anghytundeb ynghylch maint daliadau’r Saeson, yn achosi gwrthdaro cyson.

Rheswm arall dros y Rhyfel Can Mlynedd oedd y ffaith fod Edward III yn hawlio mai ef oedd gwir frenin Ffrainc ar ôl i’r Brenin Charles IV farw heb etifedd uniongyrchol. Ac yntau’n nai i Charles, roedd gan Edward III sail i’w hawlio, ond roedd yn well gan yr uchelwyr Ffrengig gael cefnder Charles, sef Philip, cownt Valois, yn frenin (gw. isod).

Click for a larger image
Ffactorau eraill a achosai densiynau rhwng y ddwy wlad oedd cefnogaeth Philip i’r Albanwyr yn eu brwydro hwythau yn erbyn Edward, y ffaith fod croesgad wedi ei hatal, a diddordebau economaidd gwahanol Lloegr a Ffrainc.

Ni fu brwydro cyson drwy gydol y Rhyfel Can Mlynedd a gellir rhannu’r cyfnod yn nifer o gyfnodau allweddol.

1337-1360
Brwydr fawr gyntaf y rhyfel ar dir Ffrainc oedd brwydr Crécy yn 1346. Bu byddin Edward III yn fuddugoliaethus er bod byddin Philip VI yn fwy, a hynny’n ymwneud i raddau helaeth â’u defnydd effeithiol o saethwyr ar y cyd â gwŷr arfog. Ffoes Philip i Baris, a rhoddodd y Saeson Calais dan warchae cyn ei gipio yn y pen draw.

Roedd Edward y Tywysog Du, mab Edward III, wedi ymladd yn ddewr yn Crécy gan ‘ennill ei sbardunau’, ac ef, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, oedd cadlywydd byddin ei dad ym mrwydr Poitiers. Enillodd y Saeson fuddugoliaeth arall, gan lwyddo i ddal brenin Ffrainc, Jean II, yn garcharor. O ganlyniad, arwyddwyd Cyfamod Brétigny yn 1360. Cytunwyd y byddai’r Ffrancwyr yn talu pridwerth am eu brenin ac yn ildio i Edward III sofraniaeth lawn dros Acwitania a thiroedd eraill gan gynnwys Ponthieu a Calais. O’i ran yntau byddai Edward III yn rhoi’r gorau i hawlio Coron Ffrainc.

1369-1396
Daeth yr heddwch a sefydlwyd yn 1360 i ben yn 1369, o ganlyniad i anghydfod ynghylch y dreth a osododd y Tywysog Du ar Acwitania er mwyn ceisio adennill costau ymgyrchu yn rhyfel yr olyniaeth yng Nghastilia, gogledd Sbaen. Cytunodd brenin newydd Ffrainc, Charles V, i wrando ar apeliadau yn erbyn y dreth, ond mynnodd Edward III fod hyn yn mynd yn erbyn termau Cyfamod Brétigny. Hawliodd Edward Goron Ffrainc drachefn, ac ailgychwynnodd y rhyfel yn fuan wedyn.

Llwyddodd y Ffrancwyr i adennill llawer o’r tiroedd a fuasai yn nwylo’r Saeson, yn enwedig yn y cyfnod hyd 1377. Trefnwyd cadoediad 28-mlynedd yn 1396, a’r ddwy goron wedi pasio erbyn hyn i Risiart II o Loegr a Charles VI o Ffrainc. Fel rhan o’r cytundeb hwn priododd Rhisiart ag Isabella, merch Charles.

1399-1422
Cipiwyd coron Rhisiart II yn 1399 gan ei gefnder Henry Bolingbroke, mab John o Gaunt, a ddaeth yn Frenin Harri IV. Gwrthododd y Ffrancwyr gydnabod Harri fel brenin Lloegr ac anfonasant gymorth at yr Albanwyr a’r Cymry a ddilynai Owain Glyndŵr. Bu’r Saeson hwythau’n ymosod ar arfordir Normandi. Erbyn 1410 roedd rhyfel cartref yn Ffrainc, a’r Brenin Charles VI wedi bod yn dioddef gan salwch meddyliol ysbeidiol er 1393.

Daeth Harri V yn frenin Lloegr yn 1413 yn dilyn marwolaeth ei dad. Y flwyddyn ddilynol anfonodd lysgenhadaeth i Ffrainc gan ddatgan y byddai’n cytuno i ildio ei hawl i Goron Ffrainc yn gyfnewid am sofraniaeth dros diroedd helaeth yn Ffrainc, gweddill pridwerth Jean II a chaniatâd i briodi Katherine, merch Charles VI, ynghyd â gwaddol. Nid oedd y Ffrancwyr yn fodlon cytuno i hyn i gyd ac yn 1415 anfonodd Harri lysgenhadaeth arall gyda rhestr lai o ofynion. Ond erbyn hyn roedd y Ffrancwyr mewn sefyllfa gryfach, am fod eu rhyfel cartref wedi dod i ben, am y tro, a bu iddynt hwythau ostwng eu cynnig.

Casglodd Harri V fyddin fawr a laniodd yn Normandi yn Awst 1415. Cipiodd dref Harfleur wedi cynnal gwarchae arni am chwech wythnos. Yna, ar 25 Hydref yn yr un flwyddyn, enillodd Harri fuddugoliaeth yn erbyn byddin Ffrengig lawer mwy niferus yn Agincourt. Erbyn 1419 roedd Harri wedi meddiannu Normandi i gyd. Ym mis Medi y flwyddyn honno cyfarfu dwy blaid Ffrengig wrthwynebol, y naill dan arweinyddiaeth y Dolffin (Dauphin) a’r llall dan Jean, dug Bwrgwyn, er mwyn ceisio uno yn erbyn y Saeson. Ond, yn dilyn cynnen rhyngddynt, lladdwyd Jean gan aelod o osgordd y Dolffin. O ganlyniad, ochrodd Philip, mab ac olynydd Jean, gyda Harri V yn erbyn y Dolffin, a’r cynghrair hwn â’r Bwrgwyniaid yn cryfhau achos Harri yn sylweddol. Y flwyddyn ganlynol fe’i gwnaethpwyd yn etifedd Coron Ffrainc, fel rhan o dermau Cyfamod Troyes. Cytunwyd hefyd y byddai Harri yn gweithredu fel rhaglyw nes y byddai Charles VI yn marw, ac y byddai ef yn priodi merch Charles, sef Katherine.

1422-1453
Bu farw Harri V ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1422, gan adael mab naw mis oed. Daeth ei fab bach yn Frenin Harri VI o Loegr ac yn etifedd Coron Ffrainc, a phan fu farw Charles VI lai na dau fis yn ddiweddarach, daeth Harri VI yn frenin Ffrainc hefyd yn ôl termau Cyfamod Troyes. Ond hyd yn oed cyn marwolaeth Charles roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi aros yn deyrngar i’r Dolffin, a bu raid i’r Saeson barhau i frwydro dros hawliau Harri.

Ar y dechrau gwnaethant hyn yn bur lwyddiannus dan arweinyddiaeth John, dug Bedford, ewythr i Harri VI, a oedd yn gweithredu fel rhaglyw iddo yn Ffrainc. Enillwyd buddugoliaeth allweddol yn Verneuil ar 17 Awst 1424, brwydr y cymerodd Mathau Goch a Syr Rhisiart Gethin ran ynddi. Bu’r Saeson yn ymgyrchu ym Maen (Maine) wedyn gan sefydlu garsiynau yno.

Yn 1428 gosododd y Saeson warchae ar ddinas Orléans. Anfonodd y Dolffin fyddin i gynorthwyo yno dan arweinyddiaeth Jeanne o Arc, merch ifanc gyffredin o Lorraine a honnai fod Duw wedi ei hanfon i godi’r gwarchae. Buont yn llwyddiannus, ac arweiniodd y fuddugoliaeth hon at rai eraill. Yn 1429 coronwyd y Dolffin yn Frenin Charles VII yn Reims, ond y flwyddyn ganlynol daliwyd Jeanne. Fe’i rhoddwyd ar brawf, ei chondemnio fel heretig a’i llosgi yn Rouen ar 30 Mai 1431. Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn, coronwyd Harri VI yn frenin Ffrainc ym Mharis, er y byddai ei ewythr, dug Bedford, yn dal i weithredu fel llywodraethwr cyffredinol hyd ei farwolaeth ym mis Medi 1435.

A’r naill ochr yn methu ennill mantais dros y llall, trefnwyd cyngres yn Arras, yn y gogledd-ddwyrain yn haf 1435. Er na lwyddwyd i gyrraedd cytundeb o ran Coron Ffrainc nac ychwaith o ran maint daliadau tir yr Saeson yn Ffrainc, datblygiad pwysig oedd penderfyniad Philip, dug Bwrgwyn, i roi’r gorau i’w gefnogaeth i Harri VI. Syrthiodd llawer o Normandi Uchaf i’r Ffrancwyr yn 1435-6, gan gynnwys porthladdoedd pwysig Dieppe a Harfleur, ac yn 1436 llwyddwyd i gipio Paris hefyd. Yn hytrach na cheisio adennill y brifddinas, canolbwyntiodd y Saeson bellach ar adfeddiannu Normandi Uchaf ac amddiffyn eu daliadau eraill yng ngogledd Ffrainc.

Methodd trafodaethau diplomataidd eto mewn cyfarfod ger Calais yn 1439, ond yn 1444 trefnwyd cadoediad. Cytunwyd y byddai Harri VI yn priodi Margaret o Anjou, disgynnydd i’r Brenin Jean II a nith, drwy briodas, i Charles VII. Roedd Harri yn awyddus i gael heddwch, ac yn 1445 fe gytunodd, yn ddirgel, i roi Maen i’r Ffrancwyr. Roedd ei wŷr ei hun yn anfodlon, ac er gorchymyn i Fathau Goch ildio Maen yn 1447 ni wnaeth hyn tan 1448. Yn 1449 daeth lluoedd Ffrengig i Normandi ac roedd y garsiynau’n rhy wan i’w gwrthsefyll. Trechwyd y Saeson yn Formigny ym mis Ebrill 1450, ac yn y frwydr hon achubwyd bywyd Mathau Goch gan Wiliam Herbert.

Ym mis Awst 1450 ildiodd Cherbourg, cadarnle olaf y Saeson yn Normandi, i’r Ffrancwyr. Erbyn hyn roedd y Saeson wedi colli eu holl ddaliadau yng ngogledd Ffrainc ac eithrio Calais. Yna, yn 1451, cipiodd y Ffrancwyr y rhan fwyaf o diroedd Gwasgwyn, gan gynnwys Bordeaux. Yn y flwyddyn ddilynol llwyddodd y Saeson i adennill Bordeaux, ond fe’u trechwyd gan y Ffrancwyr yn Castillon ar 17 Gorffennaf 1453, a lladdwyd eu harweinydd, John Talbot, iarll Amwythig (tad Siôn Talbod, yr ail iarll).

Roedd y Rhyfel Can Mlynedd wedi dod i ben, i bob pwrpas, a’r Saeson wedi colli eu holl diroedd yn Ffrainc heblaw Calais, ond nid arweiniodd hyn at heddwch parhaol. Gwaethygodd cyflwr meddyliol Harri VI a byddai ei wendid ef, ynghyd ag anghydfod ac ymgiprys ymhlith yr uchelwyr ac anniddigrwydd ehangach yn dilyn y colledion yn Lloegr, yn arwain yn fuan at ymladd dros Goron Lloegr ei hun (gw. Rhyfeloedd y Rhosynnau).

>>>Milwyr Cymreig
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration