databas cerddi guto'r glyn

Guto a’r Rhyfel


Ceir enw Guto’r Glyn (Gitto Glyn) mewn rhestr o filwyr a aeth gyda Richard, dug Iorc, i Normandi yn 1441, ac mae tystiolaeth ei gerddi yn awgrymu iddo hefyd gymryd rhan mewn ymgyrch cynharach, yn 1436.[1] Blynyddoedd yn ddiweddarach, cofiai Guto mai Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd a'i cyflwynodd i ddug Iorc:

Dug fi at y dug of Iorc 
Dan amod cael deunawmorc. 
Arweiniodd fi at ddug Iorc
ar gytundeb fy mod yn cael deunaw marc.

(cerdd 36.23-4)


The name 'Gitto Glyn' on a muster roll
The name 'Gitto Glyn' on a muster roll
Click for a larger image
Ei gerddi i Syr Rhisiart Gethin, Mathau Goch a Tomas ap Watgyn, fodd bynnag, sy’n rhoi’r darlun bywiocaf a’r mwyaf defnyddiol am y brwydro yn Ffrainc. (Noddwyr eraill a gymerodd ran yn y Rhyfel Can Mlynedd oedd Syr Wiliam ap Tomas, ei fab Wiliam Herbert ac, efallai, Siôn Hanmer a Syr Bened ap Hywel.)

Er ei bod yn bosibl fod ei dad wedi ymladd dros Owain Glyndŵr, mae’n ymddangos bod Syr Rhisiart Gethin wedi treulio ei holl yrfa fel milwr yng ngwasanaeth Coron Lloegr. Cymerodd ran ym mrwydr Verneuil yn 1424 (fel y gwnaeth Mathau Goch) ac mae cofnodion amdano yn parhau tan 1438. Y tebyg yw iddo farw yn fuan wedyn. Yn y cyfnod 1432-7 bu’n gapten ar Mantes, tref ar lan afon Seine rhwng Rouen a Pharis. Collodd y Saeson Baris yn 1436 ac, wedi hynny, amddiffynnai Mantes ffiniau’r tir a oedd yn dal i fod yn eu meddiant.

Geilw Guto Syr Rhisiart yn feili Mawnt (cerdd 1.6) ac yn gapten ac arglwydd mên Mawnt ‘capten ac arglwydd mên Mantes’ (cerdd 1.48). Roedd beili (o’r Ffrangeg bailli) yn swyddog a oedd yn gyfrifol am ranbarth o Normandi, ac ystyr arglwydd mên yw arglwydd sy’n dal tir o dan arglwydd arall (Saesneg ‘mesne lord’). Hynny yw, roedd Syr Rhisiart yn dal Mantes dan awdurdod Harri VI, ac yntau’n briod arglwydd Mantes ym marn y Saeson.[2]

Rhoddodd Syr Rhisiart Gethin glogyn euraid i Guto. Mae cywydd gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, a gyfansoddwyd o bosibl rhwng dau ymweliad Guto â Ffrainc, yn ei ddisgrifio’n gwisgo’r clogyn wrth deithio o amgylch Cymru gan ganu mawl i’w noddwr hael.[3] Mewn cywydd a ganodd Guto ei hun, efallai yn 1437/8, gresyna na welodd Syr Rhisiart yn dychwelyd o Ffrainc gyda’r capteiniaid eraill, ond â rhagddo i egluro bod ganddo swyddogaeth bwysig yno sy’n rhoi clod ac elw iddo ef ac i’w ddilynwyr:

Medd rhai, ‘Nid oes modd yrhawg, 
Nis gad y wlad oludawg. 
Cadw’r dref y mae ef ym Mawnt 
Er perigl aer aparawnt 
Ac ynnill â gwayw uniawn 
Gair a chlod goruchel iawn, 
Anturiaw, modd y daw dis, 
Ymwan Pyr ym min Paris, 
Pwyntiaw maelys, pwynt Melan; 
Pobl y gŵr, pob elw a gân’.’ 
Medd rhai, ‘Nid oes modd am amser maith,
ni fydd y wlad gyfoethog yn caniatáu iddo.
Gwarchod y dref y mae ef ym Mantes
rhag perygl etifedd eglur
ac ennill â gwaywffon syth
fri a chlod uchel iawn,
mentro, yn y modd y syrthia dis,
ymwan fel Pyrrhus wrth ymyl Paris,
trywanu maels, pwynt o ddur Milan;
pobl y gŵr hwn, fe gânt bob elw.’

(cerdd 1.19-28)


Daw’r gerdd i ben drwy ddisgrifio Syr Rhisiart fel un sy’n dal (cadw) Rouen, Mantes a Ffrainc. Rouen (Rhôn) oedd prifddinas Normandi, a safai, fel Mantes, ar lannau afon Seine. Yn y cyfnod rhwng ei chipio yn 1419 a’i cholli i’r Ffrancwyr yn 1449 roedd yn ganolfan grym y Saeson yng ngogledd Ffrainc.

Crybwyllir Rouen yng ngherdd foliant Guto i Fathau Goch, ynghyd â thair talaith, Normandi, Anjou (Aensio) a Maine (Maen), a Le Mans, prifddinas Maine. Lleolir Maine i’r de o Normandi, ac Anjou i’r de o Maine. Ceir cofnod fod Mathau yn gapten ar Chateau L’Ermitage, ger Le Mans, yn 1425, a chyfeirir ato fel capten neu gyd-gapten Le Mans ei hun yn 1434/5.

Ceir gan Guto ddisgrifiad o ymladd ger Rouen rhwng Mathau a’r cadfridog Ffrengig ‘La Hire’, neu Étienne de Vignoles, gan grybwyll hefyd un o arweinwyr eraill y Ffrancwyr, Jean Poton de Xaintrailles:

Pan fu ymgyrchu gorchest 
Ym min Rhôn a’i wayw mewn rhest, 
La Her a roes law i hwn, 
Felly gwnâi betai Botwn. 
Dug y gamp, deg ei gwmpaen, 
Dawns mawr ar hyd Aensio a Maen. 
Pan fu gornest trwy ymladd
ger Rouen a’i waywffon mewn rest ar ei arfwisg,
La Hire a roddodd ei law i hwn,
felly y gwnâi petai Poton ydoedd.
Rhagorodd yn y gamp, un teg ei gwmni,
dawns fawr trwy Anjou a Maine.

(cerdd 3.15-20)


Mae’n bosibl fod y darn hwn yn cyfeirio at ymgais aflwyddiannus La Hire a Xantrailles i gipio Rouen yn 1436.[4](Crybwyllir y ddau ohonynt yng ngherdd Guto i Domas ap Watgyn, hefyd (cerdd 4.35-8)).

Yn ei gerdd i Fathau Goch, disgrifia Guto ef fel gŵr antur sy’n ysbrydoli ei filwyr:

Un yw ef a wna ei wŷr, 
Anian teirw, yn anturwyr. 
Gŵr antur ydiw’r mur mau, 
Gwŷr antur a gâr yntau. 
Milwyr a fu’i wŷr efô, 
Main gwns tir Maen ac Aensio, 
Rhad ar eu dewrder a’u hynt, 
Rhyw flodau rhyfel ydynt; 
Heliant goed a heolydd, 
(‘Hw-a La Her!’) fal hely hydd. 
Mair a ro hoedl i’m heryr, 
Mathau, i warau â’i wŷr! 
Un yw ef a all wneud ei wŷr
yn barod i fentro fel teirw.
Gŵr anturus yw fy amddiffynnwr i,
gwŷr anturus sydd yn ei garu yntau.
Milwyr a fu ei wŷr ef,
pelenni canon tiroedd Maine ac Anjou,
bendith ar eu dewrder a’u hymgyrch,
maent fel blodau rhyfel;
heliant mewn coed a heolydd,
(‘Hw-a La Hire!’) fel hela hydd.
Boed i Fair ddiogelu bywyd fy eryr,
Mathau, er mwyn iddo gael chwarae â’i filwyr!

(cerdd 3.31-42)


Er bod rhyfel yn cael ei ddarlunio fel rhywbeth cyffrous a phleserus yn y gerdd hon, yr oedd, wrth gwrs, yn ddinistriol ac yn beryglus. Achubwyd bywyd Mathau Goch gan Wiliam Herbert ym mrwydr Formigny yn 1450, fel y dysgwn mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi, a chafodd William ei hun ei ddal a’i garcharu.[5] Carcharwyd Mathau, yntau, fwy nag unwaith, a Guto’n cyfeirio at y pryderon amdano:

Bu ar glêr bryder a braw 
Ban ddaliwyd, beunydd wylaw; 
Bu beirdd y glêr mewn cyfnod o bryder a braw
pan garcharwyd ef, yn wylo beunydd;

(cerdd 3.43-4)


Arfer gyffredin oedd dal a charcharu milwyr pwysig yn hytrach na’u lladd, oherwydd wedyn gellid gofyn am bridwerth mawr dros eu rhyddid, neu drefnu eu cyfnewid am garcharorion o’r ochr arall. Mewn cerdd arall i Syr Rhisiart Gethin cyfeiria Guto at y pryderon ei fod yntau wedi ei garcharu, er i’r sïon hyn droi allan i fod yn ddi-sail. Bu’r Ffrancwyr yn lledu celwyddau, meddai, ac ni allent byth obeithio dal Syr Rhisiart, oni ddigwyddai hynny yn eu breuddwydion!

Ni ddelir ac ni ddaliwyd, 
Nid âi er rhai yn y rhwyd, 
Nos dlos onis daliasant 
Trwy eu cwsg; nis anturia cant! 
Ni ddelir ef ac ni ddaliwyd ef,
ni fyddai’n mynd i’r rhwyd oherwydd rhai pobl,
oni ddaliasant ef ryw noswaith hardd
yn eu cwsg; ni fydd cant o wŷr yn ei herio!

(cerdd 2.41-4)


Nid oedd cymaint o gymhelliad dros arbed bywydau milwyr o statws is. Ac nid oedd peryglon rhyfel yn gyfyngedig i’r sawl a ddewisai ymrestru fel milwyr, ychwaith. Un o dactegau nodweddiadol y Saeson yn y Rhyfel Can Mlynedd oedd y chevauchée, sef cyrch cyflym gan farchogfilwyr gyda’r bwriad unswydd o anrheithio a difetha cnydau, pentrefi a threfi a chodi ofn ar y boblogaeth leol. Ymddengys fod Guto’n cydnabod dioddefaint pobl Ffrainc yn ei gerdd i Fathau Goch drwy ddweud, ar ôl sôn am gost pridwerth Mathau, mai hwy a ‘dalai’ amdano yn y diwedd:

Gŵr yw o gorff ac arial, 
Gwerin gwlad Dolffin a’i tâl. 
Gŵr yw o gorff ac anian,
pobl gwlad y Dauphin fydd yn talu’r gost.

(cerdd 3.51-2)


Serch hynny, ni ellir dweud bod y llinellau hyn yn dangos rhyw lawer o gydymdeimlad dros y bobl leol.[6]

Nid yw cerddi Guto yn datgelu llawer am ei brofiadau ef ei hunan fel saethydd proffesiynol, er iddo gyfeirio’n aml at ‘saethu’ moliant at ei noddwyr (gw. bwâu a saethau). Yn wir, mewn cerdd a ganodd i Domas ap Watgyn yn 1441 neu, efallai, 1436, ymddengys ei fod yn uniaethu nid â’r saethwyr ond yn hytrach â’r gwŷr arfog uwch eu statws. Bu i Tomas ymrestru ym myddin Richard, dug Iorc, ar gyfer mynd i Ffrainc, ac mae Guto a’i fryd ar fynd gydag ef. Awgryma eu bod yn ymarfer ar gyfer y frwydr, fel petai, drwy ‘ryfela’ yn erbyn gwin a diodydd eraill Tomas! Mae’r ‘Dolffin’, Charles VII, yn cael ei gynrychioli gan y gwin gwyn, a’i ddau gadfridog enwog, La Hire a Poton de Xaintrailles, yw’r meddyglyn (math o donig neu fedd sbeislyd) a’r cwrw (gw. diod).

Tomas yw capten yr ochr arall yng ngherdd Guto, y beirdd yw ei wŷr arfog a’r datgeiniaid (gwŷr is eu statws a adroddai gerdd bardd yn ei absenoldeb) yw ei saethwyr:

Saethyddion rhwyddion yn rhaid 
Yt, gannwr o ddatgeiniaid. 
Y rhain ni chilian’ yrhawg, 
A’r eurfeirdd yn wŷr arfawg. 
Saethyddion chwim mewn argyfwng
sydd i ti, sef cant o ddatgeiniaid.
Ni chilia’r rhain byth,
a’r beirdd ysblennydd yw’r gwŷr arfog.

(cerdd 4.39-42)


Cawn glywed hefyd yn y gerdd hon floeddiau rhyfel byddinoedd Lloegr a Ffrainc, sef Sain Siôr a Sain Denis.

Er nad oes gennym dystiolaeth fod gyrfa filwrol Guto wedi parhau ar ôl iddo ddychwelyd o Normandi, mae ei gerddi’n rhoi’r argraff iddo feddwl amdano’i hun fel milwr yn ogystal â bardd hyd ddiwedd ei oes.[7] Crybwyllodd ei gleddyf mewn nifer o gerddi ac, yn ei henaint, cyfansoddodd gerdd i ddiolch am fwcled a roddwyd iddo gan Ddafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes. Yn y gerdd hon dywed y byddai’n hoffi cael yr arfau hyn wedi’u cerfio ar ei garreg fedd, hyd yn oed:

A’m bwcled a’m bywiocledd 
Yn arfau maen ar fy medd. 
a’m bwcled a’m cleddyf bywiog
yn arfau maen ar fy medd.

(cerdd 110.65-6)


Er bod Guto’n cyfeirio yn y gerdd hon at y cleddyf a’r bwcled fel arfau y byddai’n eu gwisgo a’u defnyddio, mae’n annhebygol y byddai wedi cymryd rhan mewn unrhyw ymladd erbyn y cyfnod hwyr hwn yn ei yrfa, fel y mae’n cydnabod mewn cerdd arall a gyfansoddodd i’r abad tua’r un pryd:

 Er bod talau â’r bateloedd 
 Wrth ryfeloedd ni thrafaeliaf; 
Er bod taliadau gan y byddinoedd,
ni thrafaeliaf o achos rhyfeloedd;

(cerdd 111.53-4)



Bibliography

[1]: E. Salisbury, Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth, 2007), 14-15, a B.J. Lewis, ‘Late Medieval Welsh Praise Poetry and Nationality: The Military Career of Guto’r Glyn Revisited’, Studia Celtica, xlv (2011), 111-30 (113-18).
[2]: Am ystyr beili, gw. F.M. Powicke, The Loss of Normandy (1189-1204) (Manchester, 1913), 71-3.
[3]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a’i Deulu (Aberystwyth, 2000), cerdd 24, a gw. hefyd Lewis, ‘Late Medieval Welsh Praise Poetry and Nationality’, 117.
[4]: Lewis, ‘Late Medieval Welsh Praise Poetry and Nationality’, 115.
[5]: D. Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 111.27-30.
[6]: Gw. ymhellach Lewis, ‘Late Medieval Welsh Praise Poetry and Nationality’, 127-8.
[7]: Gw. ymhellach J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).
<<<Milwyr Cymreig      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration