databas cerddi guto'r glyn

Milwyr Cymreig


Bu llawer o Gymry yn gwasanaethu ym myddinoedd Coron Lloegr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Gallent ennill tâl cymharol hael drwy wneud hyn - yn llawer mwy nag y gellid ei ennill drwy lafurio ar y tir - a diau fod rhai, hefyd, yn cael eu denu gan awydd i gael antur mewn gwlad arall ac i ennill ysbail neu wobrau eraill yn sgil eu gweithredoedd dewr. I’r milwyr o statws uchel, roedd gwasanaethu mewn rhyfel yn rhoi cyfleoedd am ddyrchafiad.

Enillodd Syr Hywel ap Gruffudd glod a bri yn Poitiers, er enghraifft, ac yn wir mae traddodiad mai ef a ddaliodd frenin Ffrainc yno. Rhoddwyd iddo’r llysenw ‘Syr Hywel y Fwyall’ a dywedir iddo gael ei wobrwyo drwy gael, ymysg pethau eraill, ddogn arbennig o fwyd ar gyfer ei fwyell.[1] Cyfeiria Guto’r Glyn at hyn mewn cerdd i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt a’i wraig Siân, wrth ganmol gwledd hael a gafodd ganddynt:

Fal Hywel yn rhyfelu, 
Felly ’dd wyf, â’r fwyall ddu, 
A gâi unsaig o Winsawr 
Ac arall i’r fwyall fawr. 
Fel Hywel yn rhyfela
â’r fwyell ddu, felly’r wyf,
a gâi un pryd o Winsor
a phryd arall i’r fwyell fawr.

(cerdd 97.41-4)


Apwyntiwyd Syr Hywel yn geidwad castell Cricieth yn 1359. Canodd Iolo Goch gerdd iddo sy’n ei ganmol fel ceidwad dewr y castell, gan nodi iddo fod yn bresennol pan ddaliwyd brenin Ffrainc: Pan rodded … / Y ffrwyn ymhen brenin Ffrainc / Barbwr fu fal mab Erbin / Â gwayw a chledd … ‘Pan roddwyd y ffrwyn … am ben brenin Ffrainc bu’n farbwr fel mab Erbin â gwaywffon a chleddyf …’[2]

Ond nid oedd pob Cymro a gymerai ran yn rhyfeloedd y cyfnod hwn yn brwydro dros Goron Lloegr. Ymddengys i Owain Lawgoch, disgynnydd uniongyrchol i dywysogion Gwynedd, ymladd yn Poitiers ar ochr y Ffrancwyr, ac yn ddiweddarach ceisiodd gymorth gan y Brenin Charles V i oresgyn Cymru ac adennill ei hawliau etifeddol. Roedd llawer o Gymry o blaid y syniad o gael arweinydd annibynnol i’w gwlad. Mae cerdd gan Gruffudd ap Maredudd, a ganwyd i ddenu cefnogaeth i achos Owain, yn ei annog i ddychwelyd o Ffrainc gyda byddin fawr: Casgl allu cywir o dir Dwlffin, / Cyrch Ros a Phenfro hyd fro Freiddin… ‘Casgla lu ffyddlon o dir y Dwlffin, / cyrcha Ros a Phenfro [a] hyd fro Breiddin…’.[3] Er na lwyddodd Owain i feddiannu Cymru bu’n dal i ymladd, weithiau dros Charles V ac weithiau dros ei achos ei hun, nes iddo gael ei lofruddio yn 1378 gan ddyn a oedd yn gweithredu dros Goron Lloegr.[4]

Mae’n bosibl fod marwolaeth Owain Lawgoch, ac amgylchiadau ei farwolaeth, wedi helpu ennill cefnogaeth i achos Owain arall. Disgynnydd arall i dywysogion Cymreig, o linach Powys a Deheubarth, oedd Owain Glyndŵr, a byddai ei frwydro yntau yn erbyn llywodraeth Seisnig yng Nghymru yn dechrau yn 1400. Yn gynharach yn ei yrfa, fodd bynnag, bu’n brwydro dros Goron Lloegr. Yn 1384 fe wasanaethodd yng ngarsiwn y Ferwig (Berwick-on-Tweed) dan gapteiniaeth Syr Grigor Sais, a’r flwyddyn ddilynol fe ymrestrodd mewn byddin yr oedd y Brenin Rhisiart II yn ei chasglu ar gyfer ymgyrch yn yr Alban.[5] Roedd Syr Grigor Sais, neu Sir Desgarry Seys, yn un o filwyr Cymreig proffesiynol enwocaf y cyfnod. Fe’i crybwyllir mewn cerdd i Owain gan Gruffudd Llwyd, sy’n ei alw’n Grigor, ail Sain Siôr, Sais ‘Grigor Sais, ail Sain Siôr’.[6] Roedd Syr Grigor wedi gwasanaethu yng Ngwasgwyn gan fwyaf ac fe briododd aeres o Wasgwyn, ond yn 1377, pan ddisgwylid i gynghreiriaid Ffrengig Owain Lawgoch gyrchu i Gymru, rhoddwyd iddo gyfrifoldeb dros amddiffyn cestyll Penfro, Dinbych-y-Pysgod a Chilgerran.[7]
The reverse of the Great Seal of Owain Glyndŵr.
Great Seal of Owain Glyndŵr
Click for a larger image

Fel Owain Lawgoch, ceisiodd Owain Glyndŵr ennill cefnogaeth y Ffrancwyr. Yn 1405 glaniodd byddin Ffrengig yn Aberdaugleddau ac, ynghyd â milwyr Glyndŵr ei hun, aethant drwy dde-orllewin Cymru yn bur lwyddiannus. Ond ni fyddai cefnogaeth y Ffrancwyr yn parhau’n hir, ac erbyn 1407 ni allai Glyndŵr ddibynnu arnynt. Yn Ionawr 1408 cyhoeddwyd cadoediad rhwng y Saeson a’r Ffrancwyr a arwyddai ddiwedd y cynghrair Ffrengig-Gymreig ac, i bob pwrpas, ddechrau diwedd achos Glyndŵr.[8]

Ymladdodd Harri o Fynwy - y Brenin Harri V yn ddiweddarach - yn erbyn dilynwyr Glyndŵr yn ei ieuenctid, ac yntau wedi’i benodi’n is-gapten brenhinol yng Nghymru gan ei dad, Harri IV. Hyd yn oed yn 1415, pan oedd Harri V yn casglu byddin i fynd draw i Ffrainc, ni alwyd ar wŷr gogledd Cymru i gymryd rhan oherwydd amheuon ynghylch eu teyrngarwch. Fodd bynnag, roedd ei fyddin yn cynnwys 20 o wŷr arfog a 500 o saethyddion o siroedd Caerfyddin ac Aberteifi ac o arglwyddiaeth Aberhonddu.[9] Ymhlith y dynion a laddwyd yn ddiweddarach ym mrwydr Agincourt, yr oedd Dafydd Gam, ysgwïer, tad yng nghyfraith Syr Wiliam ap Tomas o Raglan a thaid Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro.[10] Lladdwyd hefyd o leiaf un Cymro wrth frwydro ar ochr y Ffrancwyr, sef Harri fab Wiliam Gwyn o Sir Gaerfyrddin, ac yntau o bosibl wedi bod yn un o ddilynwyr Owain Glyndŵr.[11]

Crybwyllir Dafydd Gam mewn cerdd a ganodd Guto’r Glyn i Wiliam Herbert, ail iarll Penfro (mab yr iarll cyntaf). Cyfeirir at y ffaith ei fod yn disgyn o waed Dafydd Gam a disgrifir yr Herbertiaid, ynghyd â’u perthnasau, y Fychaniaid, fel Aml weilch Dafydd Gam a’i lin ‘gweilch niferus Dafydd Gam a’i linach’ (cerdd 25.17, 30). Mae cerdd arall, a ganwyd i Syr Water Herbert, yn cyfeirio at Ddafydd Gam yn ei chwpled cyntaf ynghyd â’r tri Wiliam, sef brawd Syr Water (yr ail iarll), eu tad (yr iarll cyntaf) a’u taid (Syr Wiliam ap Tomas):

Tyfodd gŵr at Dafydd Gam 
Trwy aelwyd y tri Wiliam, 
Mae gŵr wedi tyfu at safon Dafydd Gam
trwy aelwyd y tri Wiliam,

(cerdd 27.1-2)


Mewn cerddi eraill, fodd bynnag, roedd Guto yr un mor barod i borthi balchder ei noddwyr yn eu cysylltiadau teuluol ag Owain Glyndŵr. Disgrifir Siôn Edward o Blasnewydd, er enghraifft, fel:

Gŵr cadarn, gorau ceidwad, 
Gwaed Owain Glyn i gadw’n gwlad. 
Gŵr cadarn, yr amddiffynnwr gorau,
un o waed Owain Glyndŵr i amddiffyn ein gwlad.

(cerdd 107.45-6)


Ac yng ngherdd Guto i Syr Siôn Mechain, person Llandrinio, cyfeirir at ‘Owain’ (sef Glyndŵr, yn ôl pob tebyg) fel mab darogan, hyd yn oed:

A ni a gawn yn y gwŷdd, 
O daw Owain, fyd newydd. 
ac, os daw Owain, cawn ni
sydd yn y coed fyd newydd.

(cerdd 84.49-50)


Mae’n debygol, hefyd, mai Owain Glyndŵr yw’r gŵr a ddaw â’r gwared ‘gŵr a ddaw â’r waredigaeth’ mewn cerdd a ganwyd i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt, a hwythau’n wyrion ei chwaer (cerdd 103.24).

Mae’n ymddangos bod prif ymlyniadau Guto ei hun yn rhai bersonol, yn hytrach na bod yn genedlaethol neu’n wleidyddol.[12] Gwyddom, fodd bynnag, iddo gynnig ei wasanaeth milwrol i Goron Lloegr yn ystod cyfnod olaf y Rhyfel Can Mlynedd, ac iddo ganu i rai o filwyr proffesiynol enwocaf ei ddydd (gw. Guto a’r Rhyfel).

Bibliography

[1]: A. Parry Owen (gol.), Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007), 136, ac A.D. Carr, ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, Welsh History Review, 4 (1968-9), 21-46 (29-30).
[2]: D. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd 2.
[3]: A. Parry Owen (gol.), Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007), 1.1-2.
[4]: Gw. ymhellach A.D. Carr, Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Cardiff, 1991).
[5]: R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford, 1995), 146-7.
[6]: Rh. Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a’r Llygliwiaid Eraill (Aberystywth, 2000), 12.44 a gw. hefyd nodyn esboniadol y llinell hon.
[7]: Carr, ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, 30.
[8]: Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr, 193-6.
[9]: A. Curry, Agincourt: A New History (Stroud, 2005), 66.
[10]: Carr, ‘Welshmen and the Hundred Years’ War’, 36.
[11]: Curry, Agincourt: A New History, 66.
[12]: B.J. Lewis, ‘Late Medieval Welsh Praise Poetry and Nationality: The Military Career of Guto’r Glyn Revisited’, Studia Celtica, xlv (2011), 111-30.
<<<Cefndir      >>>Guto a'r Rhyfel
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration