databas cerddi guto'r glyn

Arfau


Roedd arfau o bob math yn amlwg iawn yn y gymdeithas yn oes Guto’r Glyn. Yn ogystal â chael eu defnyddio gan filwyr rhyfeloedd mawr y cyfnod, sef y Rhyfel Can Mlynedd a Rhyfeloedd y Rhosynnau, roeddynt yn bwysig ar gyfer hela, hunanamddiffyn a champau corfforol megis saethu at dargedau a ‘chwarae cleddyf a bwcled’. At hynny, roedd gwisgo cyllell neu gleddyf cain yn ddull o ddangos statws a chyfoeth.

O graffu ar ddisgrifiadau Guto’r Glyn o arfau, y prif rai a grybwyllir yw bwâu a saethau, gwaywffyn, cleddyfau, tarianau a gynnau. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain wedi bod yn arfau cyfarwydd drwy’r Oesoedd Canol, mewn amrywiol ffurfiau, ond arf cymharol newydd oedd y gwn. Arf arall a grybwyllir yw’r fwyell ryfel (cerdd 97.41-4), a chyfeirir weithiau at gyllyll a dagerau (e.e. cerdd 14.31, a gw. yn enwedig y disgrifiad o gyllell hela, cerdd 76).

Nid yw Guto yn rhoi darlun cyflawn o arfau ei oes, serch hynny. Nid oes unrhyw gyfeiriadau yn ei gerddi at rai mathau pwysig o arf cyfoes, megis y ffonfwyell (poll-axe) neu’r waywfwyell (bill), er enghraifft. Ac er ei fod yn cyfeirio yn aml at saethyddiaeth (ac yntau ei hunan wedi bod yn saethwr proffesiynol yn eu ieuenctid, gw. Guto’r Glyn), ychydig o sylw a roir yn ei gerddi i rôl bwysig saethwyr Cymreig ar faes y gad. Gellir cysylltu hyn â’i duedd naturiol i ganolbwyntio ar offer uchelwrol, ac â dylanwad delweddaeth gonfensiynol y tradoddiad barddol a oedd wedi ffafrio cleddyfau, gwaywffyn a tharianau erioed fel dull o ganmol dewrder a gallu noddwyr.[1]

Bibliography

[1]: Am drafodaeth fanylach ar ymdriniaeth Guto ag arfau gw. J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration