databas cerddi guto'r glyn

Arfwisg fael


A mail shirt from the 15th century
A mail shirt from the 15th century
Click for a larger image
Mae Guto’r Glyn yn crybwyll mael(y)s mewn nifer o gerddi (cerdd 1.27, cerdd 79.37, cerdd 98.54) a chyfeirir yn ei gywydd moliant i bum mab Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn at bais dewfael (‘tiwnig o fael trwchus’, cerdd 63.19). Ond ni ellir bod yn sicr ai arfwisg o fael yn yr ystyr fodern a olygir bob tro, oherwydd mae’n ymddangos bod mael neu fael(y)s, fel y Saesneg ‘mail’, yn gallu dynodi nid yn unig arfwisg o ddolenni haearn ond hefyd arfwisg o blatiau metel o fewn siaced o frethyn, canfas neu ledr megis y brigawn.[1]

Un achos lle gellir bod yn sicr fod mael(ys) yn dynodi arfwisg o ddolenni haearn yw’r cywydd gofyn a briodolir i 'Guto Powys' ac a ganwyd i’w ewythr, Siôn Abral o’r Gilwch. Yma gelwir yr arfwisg yn lluryg neu lurig (cerdd 120.16, 20, 48, 66), mael(ys) (18, 54, 62) a chotarmer (120.52) a’i disgrifio fel wybrawl rwyd ‘rhwydwaith awyrol’ (28) a rhidyll aer ‘rhidyll brwydr’ (66). Cyfeirir at ei dur cyfrodedd (50) hefyd, ond ceir y disgrifiad manylaf yn y llinellau canlynol:

Gwisgwyd i’m iôr gwasgawd maith, 
Gwe faelys, da ei gyfeilwaith, 
Gorau gwisg i ŵr a gaid, 
Gadwnawg i gadw enaid, 
Trŵn y gwart rhwng trin a gwyll, 
Twrn wydr, tyr wayw’n nawdryll. 
Manawl o beth y’i plethwyd, 
Mal rhew, a mwynawl ei rhwyd, 
Maglau a chlymau achlân, 
Mil filioedd, mael o Felan. 
Gwisgwyd gorchudd mawr o amgylch fy arglwydd,
gwe o faels, da yw ei gydblethiad,
y wisg orau y gellid ei chael i ŵr,
cadwynog, er mwyn diogelu bywyd,
cwmpas y warchodaeth rhwng brwydr a chyfnos,
gwydr ar gyfer gorchest, bydd yn torri gwaywffon yn naw dryll.
Fe’i plethwyd yn hynod o gysáct,
fel rhew, a hyfryd yw ei rwydwaith,
yn faglau ac yn glymau i gyd,
mil o filoedd, maels o Milan.

(cerdd 120.53-62)


Mae hyn i gyd yn ymddangos yn addas iawn fel disgrifiad o grys mael, a wneid drwy gysylltu pob cylch bychan o haearn â phedwar cylch arall.[2] Weithau gosodid cylchoedd arbennig o bres, arian neu aur, hyd yn oed, o fewn y mael. Gallent ddangos enw neu dref y gwneuthurwr neu gael eu defnyddio i greu ymyl addurniadol, a hynny efallai’n esbonio cyfeiriad Guto Powys at ymyl euraid yr arfwisg yn y cywydd hwn (cerdd 120.48).[3]

Bibliography

[1]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. mael³, maels², maelys, a ‘The Oxford English Dictionary', www.oed.com, s.v. mail, n.³ 2(a).
[2]: C. Blair, European Armour circa 1066 to circa 1700 (London, 1958), 20.
[3]: M. Pfaffenbichler, Medieval Craftsmen: Armourers (London, 1992), 59-60, and Blair, European Armour, 170.
<<<Arfwisg blât      >>>Y brigawn
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration