databas cerddi guto'r glyn

Yr helm


Mae Guto’r Glyn yn cyfeirio nifer o weithiau at helmau yn ei gerddi, gan adlewyrchu pwysigrwydd amddiffyn y pen ar faes y gad. Defnyddiodd yr ansoddair helmlas (‘durlas ei helmed’) i ddisgrifio Meurig ap Llywelyn o Fôn (cerdd 63.38), ac mewn cerdd arall cyfeirir at helm gribawg Robert Pilstwn o’r Llannerch (cerdd 53.6).

Termau eraill am helmau a geir yn ei gerddi yw ysgŵl ‘helm(ed) (ddur gron), ... penglog’ (cerdd 73.22, cerdd 83.26) a saeled (cerdd 73.63, cerdd 78.53), sef benthyciad o’r Saesneg Canol salet sy’n dynodi ‘math o helm ysgafn, weithiau â miswrn, a’i gwaelod yn troi tuag allan o’r tu ôl’.[1] Roedd hwn yn fath newydd o helm yn amser Guto: ar ôl cael ei ddatblygu yn yr Eidal y gynnar yn y bymthegfed ganrif, cyrhaeddodd Loegr tua 1430, gan ddod yn boblogaidd iawn erbyn cyfnod Rhyfel y Rhosynnau.[2]

Yn ei gerdd sy’n gofyn am saeled gan Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt ar ran Dafydd Bromffild o Fers, mae’n ymddangos bod Guto’n cymharu’r helm hon â meitr esgob (esgob … o wisg ei ben, cerdd 73.42), sy’n awgrymu y gall fod ganddi gorun uchel, pigfaen megis y ‘Coventry sallet’.[3] Defnyddia’r bardd drosiadau pensaernïol i ddisgrifio’r saeled, megis (cerdd 73.38, 56), esgopty (‘llys esgob’, 41), penty (‘prif dŷ’, 44), neuadd (49), eglwys (53), tŵr (55) a chuddigl (‘cell’, 57) (am drosiadau pensaernïol eraill gw. Tai ac Adeiladau: Pensaernïaeth). Tebyg yw ergyd gwely’r pen (46), gellid tybio, ac achubodd Guto ar ei gyfle i ymhelaethu ar y trosiad sylfaenol wrth ddisgrifio’r fiswr ar flaen y saeled:

Neuadd i wallt nai Owain 
A’i pharlwr yw’r fiswr fain. 
Y dyn â’i glust wrth dân glo 
A roes porth a’r Siêp wrtho. 
Eglwys yw fal glas iäen 
 drws y porth ar draws pen, 
Neuadd i wallt nai Owain
a’i pharlwr yw’r fiswr fain.
Y gŵr â’i glust wrth ymyl tân glo
a roes porth a’r Siêp wrtho.
Eglwys yw fel darn o rew glas
gyda drws y porth ar draws pen,

(cerdd 73.49-54)


Ceir cyfeiriad arall at y fiswr yn nes ymlaen yn y gerdd, sef trap i gadw’r trwyn (‘trap i amddiffyn y trwyn’, 58).

Dysgwn fod y saeled o’r dur gwyn (38) a chyfeirir at ei ddisgleirdeb nifer o weithiau, gan ei alw’n lamp i’r iad (‘llusern i’r talcen’, 39) a dweud ei fod fal las iäen (‘fel darn o rew glas’, 53), yn ail gwawr ddydd (‘tebyg i wawr dydd’, 66), yn hindda (‘tywydd teg’, 67) ac yn haul (68).

Cyfeiriad arall eto at ddisgleirdeb y saeled yw’r llinell Golau yw’r ferch o Galais (45). At hynny, mae’n bosibl mai oherwydd disgleirdeb y saeled y’i gelwir yn Gwen ferch y gof (62), ond tybed hefyd a oedd cynffon y saeled yn ymdebygu i wallt hir merch yn nychymyg y bardd? Crybwyllir y gof eto yn llinell 44, ac ef yw gwrthrych llinell 51, Y dyn â’i glust wrth dân glo. Crefft y gof, hefyd, a ddisgrifir yn llinell 12, O dri thwyts rhwng dŵr a thân (gw. arfwisg blât). Mae’n ymddangos, felly, fod gan Guto barch mawr tuag at sgiliau gofydd, agwedd a welir hefyd yn ei gerdd ddiolch am fwcled.

Bibliography

[1]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. ysgŵl, sgŵl², (y)sgwl a saeled¹, saelet, saled².
[2]: D. Edge and J.M. Paddock, Arms and Armour of the Medieval Knight (London, 1996), 99-100, 128, ac A.W. Boardman, The Medieval Soldier in the Wars of the Roses (Stroud, 1998), 129-30.
[3]: C. Gravett, English Medieval Knight 1400-1500 (Oxford, 2001), 29, ac Edge and Paddock, Arms and Armour, 114.
<<<Y brigawn      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration