databas cerddi guto'r glyn

Arfwisg blât


Erbyn amser Guto’r Glyn roedd technoleg arfwisgoedd wedi datblygu fel y gellid cael gwisg gyfan o blatiau i amddiffyn pob rhan o’r corff.[1] Enwir nifer o wahanol ddarnau o’r arfwisg mewn cywydd gan Guto sy’n gofyn am saeled (math o helm) gan Wiliam Rodn o Holt ar ran Dafydd Brwnffild o Fers:

Dyn traws fûm yn dwyn tros fôr 
Dur Melan i dir Maelor, 
Clòs harnais, fyclau seirnial, 
Cwmplid a welid o Iâl, 
Curas a pholrwn cywrain, 
Garbras a dwy fwmbras fain, 
Dwy gawntled a gorsied gên 
A besgus rhag pob asgen, 
A phâr cadarn lèg-harnais 
A’r traed fal chwarterau’r ais, 
A phob metel o Felan 
O dri thwyts rhwng dŵr a thân. 
Bûm yn ŵr cryf yn cludo
dur o Filan dros fôr i dir Maelor,
harnais caeedig a chyflawn y gellid ei weld o Iâl,
byclau offer,
curas a pholrwn cywrain,
garbras a dwy fwmbras fain,
dwy gawntled a gorsied gên
a besgus yn erbyn pob niwed,
a phâr cadarn o lèg-harneisiau
a’r traed fel chwarterau’r asennau,
a phob metel o Filan
yn sgil tri chyffyrddiad rhwng dŵr a thân.

(cerdd 73.1-12)


Enwir naw gwahanol ddarn o’r arfwisg:[2]
curas (‘cuirass’ yn Saesneg) i ddiogelu rhan uchaf y corff (llinell 5);
polrwn (‘pauldron) i amddiffyn yr ysgwydd (5);
garbras (‘gardbrace’), plât ychwanegol a oedd yn gysylltiedig â’r polrwn (6);[3]
fwmbras (‘vambrace’) i amddiffyn y fraich (6);
gawntled (‘gauntlet’) a wisgid am y llaw a’r arddwrn (7);
gorsied (‘gorget’) i amddiffyn y gwddf (7);
besgus (‘besague’ or ‘besagew’), plât a wisgid wrth y gesail (8);
lèg-harnais (‘leg-harness) i amddiffyn y goes (9);
arfwisg gymalog (‘sabatons’) a wisgid am y traed (10).

Mae’r un darn (llinell 3) yn cyfeirio at y byclau a ddefnyddid i gysylltu gwahanol ddarnau o blât â’i gilydd ac yn defnyddio’r term harnais am y wisg gyfan. Cyfeirir at greu’r platiau yn llinell 12, O dri thwyts rhwng dŵr a thân ‘yn sgil tri chyffyrddiad rhwng dŵr a thân’. Awgryma hyn fod Guto yn ymwybodol fod dŵr yn cael ei ddefnyddio i oeri’r dur poeth er mwyn ei galedu (proses a elwir yn ‘quenching’ yn Saesneg).[4]

Er bod arfwisgoedd yn cael eu cynhyrchu ar draws Ewrop, roedd y canolfannau cynhyrchu pwysicaf yn ne’r Almaen ac yng ngogledd yr Eidal (yn enwedig Milan a Brescia). Yn y farddoniaeth cyfeirir yn bur aml at Felan (‘Milan’) mewn cysylltiad â dur, arfau neu arfwisg, a gwna Guto hyn ddwywaith yn y darn a ddyfynnir uchod (llinellau 2 ac 11). Ni ddefnyddid y gair Melan yn llythrennol bob tro, er hynny; gallai hefyd gyfeirio’n fwy llac at bethau a wneid o ddur (o ansawdd da).[5]

Mae cyfeiriadau at arfwisg mewn rhai o gerddi eraill Guto hefyd. Crybwyllir curas yn ei gywydd moliant sy’n dathlu urddo Syr Rosier Cinast o’r Cnwcin yn farchog:

Gwarae â’i wayw a’i guras 
Y bu’r gŵr a bwrw ei gas. 
Chwarae â’i waywffon a’i guras
y bu’r rhyfelwr a bwrw ei elyn.

(cerdd 79.47-8)


Mae’n amhosibl fod yn sicr pa fath o arfwisg sydd gan Guto mewn golwg yma. Er y gallai curas gyfeirio yn benodol at arfwisg blât ar gyfer rhan uchaf y corff a oedd yn cynnwys brestblad a phlât cefn ynghyd, mae’n debyg y gallai hefyd ddynodi’r brestblad yn unig, ac mae’n bosibl ei fod wedi ei ddefnyddio yn ehangach, hyd yn oed, i gyfeirio at amryw fathau o arfwisg ar gyfer y corff (fel yn achos y Saesneg ‘cuirass’).[6]

Cyfeiria Guto mewn tair cerdd wahanol at ddwyfronneg neu frestblad, sef darn o arfwisg blât a amddiffynnai du blaen y corff o’r frest hyd at y canol. Defnyddia Guto’r gair brestblad, gair benthyg o’r Saesneg ‘breastplate’, mewn cerdd ddychan (cerdd 67.25), ac ystyr debyg sydd i frest mewn cerdd i Domas ap Watgyn, Bras Domas mewn brest ymwan ‘Tomas praff mewn dwyfronneg ymladd’ (cerdd 4.67), ac i’r brest dur yn ei gerdd ofyn am frigawn (cerdd 98.44). Mae’r gerdd am y brigawn yn crybwyll r(h)est, hefyd, sef math o wanas ar frestblad a ddefnyddid i helpu cynnal gwaywffon a’i hatal rhag neidio’n ôl wrth i ddau farchog ymwan.[7] Ceir cyfeiriad arall at y nodwedd hon mewn cerdd a ganodd Guto i Fathau Goch o Faelor:

Pan fu ymgyrchu gorchest 
Ym min Rhôn a’i wayw mewn rhest, 
Pan fu gornest trwy ymladd
ger Rouen a’i waywffon mewn rest ar ei arfwisg,

(cerdd 3.15-16)


Defnyddia Guto dermau eraill, mwy cyffredinol am arfwisg, sef llurig (cerdd 41.46) a phais (e.e. cerdd 63.19, 73.46, 98.25), a’r ddau yn gallu dynodi amryw fathau o arfwisg ar gyfer rhan uchaf y corff.[8] Roedd gan y gair mael(y)s hefyd fwy nag un ystyr, gw. arfwisg fael.

Bibliography

[1]: C. Blair, European Armour circa 1066 to circa 1700 (London, 1958), 77-111, a K. DeVries and R.D. Smith, Medieval Military Technology (2nd edition, Toronto, 2012), 78-85.
[2]: Gw. diffiniadau’r gwahanol eiriau yn Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002) a Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraffad, Caerdydd, 2003- ), a D. Edge and J.M. Paddock, Arms and Armor of the Medieval Knight (London, 1996), 113 (diagram) a 183-9 (geirfa).
[3]: Blair, European Armour, 97, 113, ac Edge and Paddock, Arms and Armour, 184.
[4]: M. Pfaffenbichler, Medieval Craftsmen: Armourers (London, 1992), 62-4.
[5]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. melan¹, malen¹. Am gyfeiriadau Guto at Felan (a Brescia, o bosibl), gw. cerdd 1.27, 31, cerdd 3.25, cerdd 73.2, 11.
[6]: Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. curas, a ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. cuirass.
[7]: Blair, European Armour, 61, a DeVries and Smith, Medieval Military Technology, 77.
[8]: Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. llurig, llurug a pais¹ (e).
>>>Arfwisg fael
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration