databas cerddi guto'r glyn

Y brwydrau


Cyfres o frwydrau ar hyd a lled Prydain oedd Rhyfeloedd y Rhosynnau a thrafodir isod y prif frwydrau a’r rhai oedd yn berthnasol i Gymru ac i Guto’r Glyn a’i noddwyr (gw. hefyd y Llinell Amser):
Brwydr Blore Heath
Brwydr Northampton
Brwydr Wakefield
Brwydr Mortimer's Cross
Ail frwydr St Albans
Brwydr Towton
Brwydr Twthill
Brwydr Banbri/Edgecote
Brwydr Barnet
Brwydr Tewkesbury
Brwydr Bosworth

Brwydr Blore Heath, Medi 23, 1459.
Er bod y brwydro yn St Albans yn 1455 yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel dechrau Rhyfel y Rhosynnau, ymladdwyd y frwydr fawr gyntaf bedair blynedd yn ddiweddarach yn Blore Heath. Ceisiodd arweinydd plaid Lancastr, James yr Arglwydd Audley, atal iarll Caersallog rhag cyrraedd Caerwrangon, ond ymosodwyd ar y Lancastriaid gan yr Iorciaid a lladdwyd yr Arglwydd Audley gan un o noddwyr Guto’r Glyn, Syr Rhosier Cinast ap Gruffudd o’r Cnwcin.[1]

Roedd Syr Rhosier Cinast yn bresennol yn Llwydlo hefyd pan ddaeth y ddwy blaid wyneb yn wyneb unwaith eto yn Ludford Bridge, ychydig wythnosau ar ôl brwydr Blore Heath. Ond yn ystod y nos ar Hydref 12-13, ffoes yr Iorciaid o’r frwydr gan fod llu plaid Lancastr mor sylweddol.

Brwydr Northampton, Gorffennaf 10, 1460.
Gyda dug Iorc wedi ffoi i Iwerddon, gweithredodd iarll Warwick ar ei ran gan wynebu Harri VI a dug Buckingham yn Northampton. Trechwyd Harri VI a lladdwyd sawl uchelwr amlwg wrth geisio’i amddiffyn, yn eu plith Siôn Talbot, ail iarll Amwythig ac un o noddwyr Guto (cerdd 78). Bu’r frwydr hon yn drobwynt allweddol i’r rhyfeloedd gan i Harri VI gael ei ddal gan iarll Warwick. Er bod y Frenhines Margaret o Anjou a’i mab, y Tywysog Edward yn ddiogel yng Nghymru, roedd Warwick bellach wedi cymryd rheolaeth llwyr o’r llywodraeth a’r adwy’n glir i Richard, dug Iorc, ddychwelyd o Iwerddon a hawlio’r Goron.

Brwydr Wakefield, Rhagfyr 30, 1460.
Gyda Richard, dug Iorc yn ôl yn Lloegr yn Hydref 1460 i hawlio’r Goron unwaith eto, cytunwyd y câi Harri VI barhau’n frenin am weddill ei fywyd. Wedi ei farwolaeth, fodd bynnag, Richard fyddai’r brenin nesaf. Tybiai llawer y deuai’r cytundeb hwn â’r rhyfeloedd cartref i ben, ond ni chytunodd y Frenhines Margaret â’r cytundeb, am ei fod yn golygu dietifeddu ei mab hi, Edward o Lancastr. Casglodd Margaret fyddin o gefnogwyr y brenin i ymladd yn erbyn Richard, dug Iorc ac ar Ragfyr 30 ymosodwyd ar Iorc a’i lu yng nghastell Sandal, ger Wakefield. Roedd hon yn frwydr arwyddocaol oherwydd lladdwyd Richard a’i ail fab, Edmwnd, iarll Rutland.

Brwydr Mortimer’s Cross, Chwefror 2/3, 1461.
Wedi marwolaeth Richard, dug Iorc a’i ail fab Edmund ym mrwydr Wakefield, ei fab hynaf, Edward (a oedd bellach yn ddug Iorc ac yn ddiweddarach Edward IV) oedd arweinydd newydd plaid Iorc, gyda chymorth iarll Warwick a adwaenid fel y ‘Kingmaker’. Cafodd Edward lwyddiant ym Mortimer’s Cross gan orchfygu lluoedd Siasbar Tudur, iarll Penfro, a James Butler, iarll Wiltshire ac Ormond. Roedd Siasbar wedi casglu llawer o filwyr o ogledd Cymru i frwydro dros blaid Lancastr,[2] a brwydrodd rhai o noddwyr Guto, megis Syr Wiliam Herbert I a Harri ap Gruffudd o’r Cwrtnewydd, dros Edward a phlaid Iorc.[3] Daliwyd tad Siasbar, Owain Tudur, a’i ddienyddio yn Henffordd ychydig ddyddiau ar ôl y frwydr.

Ail frwydr St Albans, Chwefror 17, 1461.
Parhaodd y Lancastriaid i frwydro ac, yn fuan ar ôl cael eu trechu ym Brwydr Mortimer's Cross, daeth buddugoliaeth iddynt yn St Albans ac yn sgil hynny rhyddhawyd Harri VI. Gan ofni’r bygythiad hwn, aeth iarll Warwick ati i gyhoeddi Edward, mab hynaf Richard, dug Iorc, yn frenin Edward IV.[4]

Brwydr Towton, Mawrth 29, 1461.
Dyma’r frwydr fwyaf gwaedlyd yn Rhyfeloedd y Rhosynnau ac ymladdwyd hi ar Sul y Blodau yn Towton, swydd Efrog. Roedd y ddwy fyddin eisoes wedi wynebu ei gilydd yn Ferrybridge ond ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, daeth byddin y Lancastriaid dan arweiniad Henry Beaufort, dug Somerset, wyneb yn wyneb ag Edward IV a’i lu, yn cynnwys Syr Wiliam Herbert I. Trechwyd y Lancastriaid a lladdwyd neu ddienyddiwyd nifer fawr o uchelwyr o bwys megis iarll Northumberland, yr Arglwydd Dacre ac Andrew Trollope. Ar ôl y frwydr, dienyddiwyd ieirll Devon a Wiltshire. Dihangodd Harri VI, y Frenhines Margaret a’r Tywysog Edward o Gaerefrog i’r Alban. Disodlodd Edward IV o deulu Iorc y brenin Harri VI o linach Lancastr a oedd wedi teyrnasu (mewn enw) er 1422 ac fe goronwyd Edward ar Fehefin 28, 1461.

Brwydr Twthill, Hydref 16, 1461.
Brwydr gymharol fechan a ymladdwyd y tu allan i dref Caernarfon. Daeth Wiliam Herbert a byddin Iorc i ogledd Cymru i geisio dal Siasbar Tudur a oedd wedi bod yn arwain y Lancastriaid yng Nghymru ar ran ei hanner brawd, Harri VI. Daethant wyneb yn wyneb ger muriau’r dref yn Nhwthill. Trechwyd Siasbar a’i lu ac mae’n debyg iddo ffoi i Iwerddon.[5]

Brwydr Banbri/Edgecote, Gorffennaf 24, 1469.
The supposed battlefield at Banbury
The supposed battlefield at Banbury
Click for a larger image

Brwydr Banbri (neu Edgecote Moor) a fu’n ganlyniad i gynllwynio yn erbyn Edward IV gan Richard Neville, iarll Warwick, a George Plantagenet, dug Clarence (brawd Edward). Roedd Warwick yn anhapus â’r dylanwad gwleidyddol a gawsai teulu’r Woodville (sef teulu yng nghyfraith y brenin) ar Edward IV ynghyd â’r ffafriaeth a ddangosai Edward tuag at Wiliam Herbert (a oedd yn iarll Penfro erbyn hyn) ac eraill. Cynllwyniodd iarll Warwick a Clarence i wrthryfela yn erbyn y brenin dan yr enw ffug ‘Robin of Redesdale’, gan obeithio ei drechu a choroni Clarence yn frenin yn ei le.

Tra bod y brenin yn gorymdeithio i ogledd Lloegr i wynebu’r gwrthryfelwyr, roedd Wiliam Herbert a’i fyddin o Gymru hefyd yn teithio i’r gogledd i’w gynorthwyo, a Humphrey Stafford, iarll Dyfnaint, yn dod â llu o dde-orllewin Lloegr. Ar ddydd Llun, Gorffennaf 24, 1469 cyfarfu Herbert â’r gwrthryfelwyr yn Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Banbri i’r beirdd).[6] Nid yw rhan Stafford yn y frwydr yn eglur. Mae rhai croniclwyr yn awgrymu iddo fod yn yr ardal ond iddo fethu yn ei ddyletswydd i frwydro wrth ochr ei gynghreiriaid Cymreig, naill ai drwy beidio ag ymladd o gwbl, efallai o ganlyniad i ffrae rhyngddo a Herbert, neu ynteu oherwydd iddo ffoi yn ystod y frwydr. Awgrymir yn un o gerddi Guto’r Glyn fod Stafford wedi dewis gadael maes y gad, a gorfoledda’r bardd yn y ffaith na fu’n byw’n hir wedyn (fe’i dienyddiwyd ar Awst 17):

Arglwydd difwynswydd Defnsir 
A ffoes – ni chafas oes hir! 
Ffoi a wnaeth arglwydd Dyfnaint, di-elw ei wasanaeth –
ni chafodd oes hir!

(cerdd 24.17-18)


Trechwyd byddin Herbert, gan ddioddef colledion enbyd, a dienyddiwyd ef a’i frawd Rhisiart yn fuan wedyn. Yn yr un gerdd (marwnad i Herbert), cymhara Guto’r frwydr â ‘Dawns Angau’:

Dawns o Bowls! Doe’n ysbeiliwyd, 
Dwyn yr holl dynion i’r rhwyd. 
Dawns gwŷr Dinas y Garrai, 
Dawns yr ieirll: daw’n nes i rai! 
Duw Llun y bu waed a lladd, 
Dydd amliw, diwedd ymladd. 
Duw a ddug y dydd dduw Iau 
Iarll Dwywent a’r holl Deau. 
Dawns Angau! Fe’n hysbeiliwyd ddoe,
dwyn yr holl ddynion i’r rhwyd.
Dawns gwŷr Doncaster,
dawns yr ieirll: daw’n nes i rai!
Ar ddydd Llun y bu gwaed a lladd,
dydd o warth, diwedd ymladd.
Ar ddydd Iau y dygodd Duw
iarll dau ranbarth Gwent a’r Deau i gyd.

(cerdd 24.1-8)


Mewn cerdd arall, canmolodd Guto rym a dylanwad Herbert cyn ei gwymp, gan gymharu’r berthynas agos rhyngddo ac Edward IV â’r un rhwng yr arwr chwedlonol Roland a’i ewythr, Siarlymaen:

O rhoed Siarlmaen yn flaenawr, 
Rolant a ddug meddiant mawr; 
Edwart a Herbart hirbost 
Yn un i gyd a wnân’ gost. 
Ei aelod yw a’i elin, 
Ei law a’i droed pan wnêl drin. 
Yn y cwnsel y gelwir 
Ym mhob peth gyda’r mab hir, 
Arglwydd dewr o gledd a dart 
A cheidwad heddwch Edwart. 
Os gwnaed Siarlymaen yn arweinydd,
eto fe feddodd Rolant ar awdurdod mawr;
mae Edward a Herbert y postyn tal
fel un gyda’i gilydd yn cyflawni gwaith caled.
Ei aelod yw a’i benelin,
ei law a’i droed pan yw’n ymladd brwydr.
Yn y cyngor y penderfynir
ym mhob mater yn ôl barn y gŵr tal,
arglwydd dewr â chleddyf a dart
a cheidwad heddwch Edward.

(cerdd 23.39-48)


Ar ôl brwydr Banbri, ceisiodd Warwick ddiorseddu Edward IV ond ni lwyddodd i berswadio arglwyddi’r cyngor brenhinol i goroni brenin arall yn ei le.
A reproduction of the 'Battle of Barnet' in a Ghent MS 236, end of the 15th century.
Battle of Barnet
Click for a larger image
Cynlluniodd wrthryfel arall, ond bu’n aflwyddiannus y tro hwn a bu rhaid iddo ffoi i Ffrainc. Yno, cytunodd Warwick i ailorseddu Harri VI yn gyfnewid am gefnogaeth Margaret o Anjou a chefnogaeth Ffrainc i gynllwynio ymosodiad ar Loegr.

Adferwyd Harri VI i’r orsedd ym mis Hydref, 1470. Aeth Edward i Fwrgwyn i geisio ennill cefnogaeth Charles, dug Bwrgwyn, a phan ddychwelodd i Loegr cafodd gefnogaeth nifer o arglwyddi ac uchelwyr a oedd yn dal i ffafrio plaid Iorc. Erbyn mis Ebrill 1471, roedd Edward IV unwaith eto’n frenin Lloegr a Harri VI wedi ei ddal yn garcharor yn Nhŵr Llundain.

Brwydr Barnet, Ebrill 14, 1471.
Yng nghanol y niwl ar Sul y Pasg, 1471, llwyddodd Edward IV i orchfygu byddin y bradwr Warwick. Lladdwyd Warwick a sawl un arall ac roedd safle Edward IV yn ddiogel eto. Ymdeithiodd yn ôl i Lundain yn orfoleddus, ac yn ei gwmni roedd iarll Penfro newydd ac ifanc Penfro, Wiliam Herbert II.[7]

Mewn cerdd o fawl i Syr Rhosier Cinast ap Gruffudd, a ymladdodd ym myddin Iorc, cyfeiria Guto’r Glyn at y fuddugoliaeth yn Barnet, gan ei hystyried fel dial am farwolaeth tad yr iarll ifanc, Wiliam Herbert I, ar ôl brwydr Banbri:

Ar dduw Pasg, arwydd paham, 
Y dialodd Duw Wiliam. 
ar ddydd y Pasg, arwydd pam,
y dialodd Duw gam Wiliam.

(cerdd 79.3-4)


Yn wir, ceir awgrym mewn un llawysgrif mai Syr Rhosier a fu’n gyfrifol am ladd Richard, iarll Warwick (gw. y nodyn ar linell 49, cerdd 79).

Brwydr Tewkesbury, Mai 4, 1471.
Ar ôl dychwelyd i Loegr, casglodd Margaret o Anjou a’i mab, Edward, fyddin ynghyd unwaith eto i geisio ailosod brenin o waed Lancastr ar yr orsedd a threchu Edward IV. Ond byddin Edward IV a fu’n llwyddiannus a lladdwyd Edward, y tywysog ifanc, mab Harri VI. Yn ddiweddarach ym mis Mai carcharwyd y Frenhines Margaret yn Nhŵr Llundain, ac yno hefyd y bu farw ei gŵr, Harri VI, wedi ei lofruddio o bosibl gan weision Edward IV.

Mae’n debyg fod cerdd arall o waith Guto’r Glyn, a ganwyd i gysuro Ann Herbert ar ôl marwolaeth ei gŵr, Wiliam Herbert I (cerdd 26), yn dyddio o’r cyfnod yn fuan ar ôl y buddugoliaethau allweddol a enillodd plaid Iorc yn 1471. Cymherir Ann ag Esyllt yn galaru dros Drystan (llinell 31) ond nodir hefyd fod y rhai a fu’n gyfrifol am farwolaeth ei gŵr bellach wedi eu lladd (llinellau 21-2), a bod gobaith am ddyfodol mwy heddychlon:

Treiaw ystorm a gormes 
Trwy Raglan dir, troi’r glaw’n des. 
storm a gormes yn cilio
ar hyd tir Rhaglan, y glaw’n troi’n dywydd braf.

(cerdd 26.39-40)


Gwireddwyd y gobaith hwn, i raddau, yn ystod gweddill teyrnasiad Edward IV. Ond bu farw Edward yn sydyn ym mis Ebrill 1483 pan oedd ei fab hynaf, Edward, yn ddeuddeng mlwydd oed. Penodwyd Rhisiart, dug Caerloyw (yr unig frawd i Edward IV a oedd yn dal yn fyw) i warchod y brenin ifanc, Edward V, ond cynllwyniodd i gipio’r Goron iddo’i hun. Datganwyd ar Mehefin 22, 1483 fod Edward V a’i frawd Richard yn feibion anghyfreithlon i Edward IV, gan honni nad oedd eu mam Elizabeth Woodville yn wraig briod iddo. Coronwyd eu hewythr yn Frenin Rhisiart III ar Gorffennaf 6, 1483. O ran y ddau fachgen ifanc, Edward V a Richard, ymddengys mai rywbryd rhwng Mehefin a Medi 1483 y buont farw, a hynny yn Nhŵr Llundain. Mae eu marwolaeth yn parhau’n ddirgelwch, er bod llawer yn credu iddynt gael eu lladd ar orchymyn eu hewythr.

Brwydr Bosworth, Awst 22, 1485.
Ffoes llawer o wrthwynebwyr Rhisiart III i Lydaw, lle roedd Harri Tudur yn byw fel alltud. Yn dilyn marwolaethau Harri VI a’i fab, gan Harri Tudur oedd yr hawl cryfaf i’r Goron o blith y Lancastriaid ac, at hynny, fe gynigiodd uno plaid Lancastr a phlaid Iorc drwy briodi Elisabeth o Iorc, merch Edward IV, pan ddeuai’n frenin. Gyda chymorth ei ewythr, Siasbar Tudur, a nifer o Gymry eraill ynghyd â milwyr o Lydaw, Ffrainc, yr Alban a Lloegr, cyfarfu Harri Tudur â Rhisiart III ar faes Bosworth.[8]

Roedd Harri Tudur wedi penodi iarll Rhydychen i arwain ei fyddin, ond yn ystod y brwydro bu i Risiart III adnabod cwmni Harri drwy ei faner, ac arweiniodd ruthr yn ei erbyn. Llwyddodd gwŷr Harri i amddiffyn eu harglwydd, a bu trobwynt yn y frwydr pan benderfynodd llu Sir William Stanley eu cynorthwyo. Lladdwyd Rhisiart yn y brwydro ffyrnig a choronwyd Harri Tudur yn frenin ar faes y gad.

Darganfyddiad eithriadol o bwysig yn 2012 oedd dod o hyd i gorff Rhisiart III. Dangosodd archwiliad o’r esgyrn iddo ddioddef deg anaf adeg ei farwolaeth, gydag wyth ohonynt yn anafiadau i’w ben. Ceir olion dau anaf arbennig o fawr wrth waelod cefn y benglog a allai fod yn ganlyniad i ergydion gan gleddyf a halberd; mae’n debygol mai’r ergydion hyn a’i lladdodd.[9] Mae cerdd Guto’r Glyn i Rys ap Tomas o Abermarlais yn disgrifio marwolaeth Rhisiart III ar faes y gad, ac mae’r cyfeiriad ynddi at ‘eillio’ y baedd yn adlewyrchu natur rhai o’i anafiadau (roedd y baedd yn un o arwyddion Rhisiart, gw. Diddordebau Uchelwyr: Statws a Herodraeth: Bathodynnau):

Cwncwerodd y Cing Harri 
Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr. 
Enillodd y Brenin Harri
y frwydr drwy nerth ein harglwydd ni:
lladd Saeson, llaw atebol,
lladd y baedd, siafiodd ei ben,
a Syr Rhys fel sêr ar darian
â’r waywffon yn eu plith ar farch mawr.

(cerdd 14.35-40)


Awgryma’r darn hwn hefyd y gall mai un o gwmni Rhys a laddodd Rhisiart, er na ddywedir pwy yn union a fu’n gyfrifol.

Bibliography

[1]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 62-5.
[2]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 69-80.
[3]: A. Chapman, ‘ “He took me to the duke of York”: Henry Griffith, a “Man of War” ’ yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), pennod 5.
[4]: Am wybodaeth bellach am fywyd Edward IV, gw. C. Ross, Edward IV (second ed., Newhaven, 1997).
[5]: Ychydig iawn o sylw a roddir i’r frwydr hon yn y llyfrau hanes, gw. H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 86.
[6]: Dywedir yn aml fod y frwydr wedi digwydd ar ddydd Mercher, Gorffennaf 26, ond mae nifer o gyfeiriadau yn y farddoniaeth, ynghyd â rhai ffynonellau o Loegr, yn awgrymu iddi ddigwydd ar y dydd Llun, gw. W.G. Lewis (1982), ‘The Exact Date of the Battle of Banbury, 1469’, Bulletin of the Institute of Historical Research, LV: 194-6, a B.J. Lewis (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury Through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97-117.
[7]: Evans, Wales and the Wars of the Roses, 114.
[8]: Ymhellach gw. G.A. Williams, ‘The Bardic Road to Bosworth: A Welsh View of Henry Tudor’, The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1986), 7-31.
[9]: R. Buckley, M. Morris, J. Appleby, T. King, D. O'Sullivan and Lin Foxhall (2013), ‘ “The king in the car park”: new light on the death and burial of Richard III in the Grey Friars church, Leicester, in 1485’, Antiquity, 87, 519-38, [http://antiquity.ac.uk/Ant/087/0519/ant0870519.pdf.
<<<Cefndir      >>>Cymru a'r Rhyfeloedd
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration