databas cerddi guto'r glyn

Cefndir


Dwy gangen o’r un teulu oedd yr Iorciaid a’r Lancastriaid, sef teulu Edward III (gw. hefyd Y Rhyfel Can Mlynedd: Cefndir).
The descendants of Edward III
The descendants of Edward III
Click for a larger image

Mab cyntaf-anedig Edward III oedd Edward, y Tywysog Du, a fu farw yn 1376, ac etifeddwyd y Goron gan ei fab yntau, Rhisiart II. Cipiwyd coron Rhisiart yn 1399 gan ei gefnder Henry Bolingbroke, mab i drydydd mab Edward III, John o Gaunt, dug Lancastr, a ddaeth yn Frenin Harri IV ac a ddilynwyd gan ei fab Harri V ac yna’i fab yntau, Harri VI.

Er bod Rhisiart wedi marw’n ddietifedd yn 1400, roedd gan Edward III lawer o ddisgynyddion eraill. Un ohonynt oedd Philippa, merch ei ail fab Lionel, dug Clarence, a briododd Edmwnd Mortimer, iarll y Mers (bu farw 1381). Priododd eu hwyres hwy, Anne Mortimer, â Richard, iarll Caer-grawnt, mab i bedwerydd mab Edward III sef Edmwnd, dug Iorc. Roedd mab Anne a Richard, felly, sef Richard, dug Iorc, yn disgyn o Edward III ar ochr ei fam a’i dad, a gellid honni bod ei hawl i’r Goron yn gryfach na hawl y brenhinoedd Lancastraidd. Serch hynny, ymladdodd Richard dros fuddiannau Henry VI yng nghyfnod olaf y Rhyfel Can Mlynedd (ac yn ei fyddin ef yr ymrestrodd Guto’r Glyn yn 1441, gw. Y Rhyfel Can Mlynedd: Guto a’r Rhyfel).

Pan enillodd Harri V frwydr Agincourt yn 1415, edrychid arno fel arweinydd llwyddiannus a chafodd gefnogaeth fawr fel brenin Lloegr wedi hynny. Ond yn 1422 bu farw’n ifanc a’i fab Harri yn faban bychan. Daeth y bachgen yn Frenin Harri VI o Loegr, a phan fu farw ei daid ar ochr ei fam, Charles VI, brenin Ffrainc, lai na dau fis yn ddiweddarach, etifeddodd Harri ei goron yntau hefyd yn ôl termau Cyfamod Troyes (gw. Y Rhyfel Can Mlynedd: Cefndir). Fodd bynnag, fe ddaeth yn amlwg gydag amser fod Harri VI yn gymeriad llawer gwannach na’i dad a’i fod hefyd yn dioddef yn ysbeidiol o salwch meddwl.

Deuai Harri dan ddylanwad y rhai a oedd o’i gwmpas, a bu ymgiprys ffyrnig rhwng, ar y naill law, Richard, dug Iorc, ynghyd â’i frawd yng nghyfraith, Richard Neville, iarll Warwick, ym mhlaid Iorc, ac, ar y llall, wraig Harri, y Frenhines Margaret o Anjou, ac Edmwnd Beaufort, dug Somerset, ym mhlaid Lancastr. Roedd Edmwnd Beaufort yn ddisgynnydd arall i John o Gaunt, ac ef a gymerasai le Richard o Iorc fel arweinydd lluoedd y brenin yn Ffrainc. Cryfhawyd ei gysylltiad â Harri VI pan briododd ei nith, Margaret Beaufort, â hanner brawd y brenin, Edmwnd Tudur (mab i Katherine, gweddw Harri V, ac Owain Tudur, bonheddwr o Gymru; gw. Cymru a’r Rhyfeloedd).

Erbyn Mawrth 1454, daeth hi’n amlwg na allai Harri VI gyflawni ei ddyletswyddau fel brenin a gwnaethpwyd Richard, dug Iorc, yn Amddiffynnwr y Deyrnas. Esgorodd hyn ar nifer o gyfleoedd i Iorc gan gynnwys lleihau dylanwad Edmwnd Beaufort, dug Somerset, ar Harri VI. Ond pan wellhaodd y brenin yn rhyfeddol yn 1455, gwelodd dug Iorc fod ei rym ef fel Amddiffynnwr y Deyrnas mewn perygl. Gyda’i gynghreiriaid, cynllwyniodd i adennill ei ddylanwad dros y brenin drwy rym arfau.[1] Clywodd y brenin a Somerset am hyn ac arwain byddin i gwrdd â’r Iorciaid yn St Albans, ychydig i’r gogledd o Lundain. Yr Iorciaid a fu’n fuddugol yn y frwydr, brwydr gyntaf Rhyfeloedd y Rhosynnau, a lladdwyd Edmwnd, dug Somerset.

Bu llawer o frwydrau eraill rhwng pleidiau Lancastr ac Iorc. Lladdwyd Richard, dug Iorc, ym mrwydr Wakefield ar Ragfyr 30, 1460, ond daeth ei fab yn Frenin Edward IV yn 1461 a theyrnasu tan ei farwolaeth yn 1483, ac eithrio am gyfnod byr yn 1470-1 pan ddychwelodd Harri VI i rym. Teyrnasodd brawd Edward, Rhisiart III, am gyfnod byr, ond fe’i trechwyd ym mrwydr Bosworth yn 1485 gan Harri Tudur, mab Margaret Beaufort ac Edmwnd Tudur. Coronwyd Harri yn Frenin Harri VII, a byddai llinach y Tuduriaid yn teyrnasu am dros gan mlynedd.

Bibliography

[1]: Ymhellach ar y dug gw. P.A. Johnson, Duke Richard of York 1411-1460 (Oxford, 1988).
>>>Y brwydrau
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration