databas cerddi guto'r glyn

Cymru a'r Rhyfeloedd

The effigy of Sir Rhys ap Tomas in St Peter's Church, Carmarthen.
Sir Rhys ap Tomas
Click for a larger image

Fe wnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Roedd gan nifer o’r ffigurau amlwg a oedd yn gysylltiedig â’r rhyfeloedd cartref waed Cymreig, a’r pwysicaf yn eu plith, o bosibl, oedd Harri Tudur, ŵyr Owain Tudur o linach Penmynydd ym Môn.[1] At hynny, roedd rhai ohonynt yn berchen ar diroedd a stadau yng Nghymru ac yn casglu byddinoedd o filwyr Cymreig trwy gydol y rhyfeloedd. Canodd nifer o feirdd am y brwydrau fel Guto’r Glyn, Dafydd Llwyd o Fathafarn a Lewys Glyn Cothi. Canodd rhai ohonynt, megis Dafydd Llwyd, gerddi darogan yn awgrymu mai Harri Tudur oedd y Mab Darogan a fyddai’n dod i wireddu gobeithion y Cymry fel cenedl.[2] Fodd bynnag, roedd gan y Cymry a gefnogai plaid Iorc obeithion tebyg ar gyfer Edward IV a allai olrhain ei linach, fel Harri Tudur, yn ôl i dywysogion Cymru.

Cymru a phlaid Iorc
Disgynnai Anne Mortimer, mam Richard, dug Iorc a nain Edward IV a Rhisiart III, o Wladus Ddu ferch Llywelyn Fawr, tywysog Gwynedd, a briododd Ralph Mortimer (m. 1246). Cyfeiria Guto at hyn sawl gwaith yn ei gerdd i ‘Annog Edward IV i adfer trefn yng Nghymru’, gan alw’r brenin yn darw mawr o’r Mortmeriaid ‘tarw mawr sy’n disgyn o’r Mortimeriaid’ (llinell 1) a chan grybwyll Gwladus Ddu hithau:

Tarw fydd, llid torfoedd llydain, 
Tro dy nerth at ryw dy nain! 
O frenin costwin Castil 
A Gwladus Du galw dy stil. 
Bydd yn darw, ffyrnigrwydd lluoedd helaeth,
tro dy nerth at hil dy nain!
O frenin Castîl a ddyrannai win
a Gwladus Ddu cymer dy deitl.

(cerdd 29.9-12)


Roedd llinach Edward yn bwysig iddo wrth geisio ennill cefnogaeth y Cymry. Roedd hefyd yn ategu ei hawl i’r Goron, oherwydd roedd y ffaith ei fod yn ddisgyn o’r tywysogion Cymreig yn golygu y gallai hawlio disgynyddiaeth o Gadwaladr, brenin olaf y Brythoniaid (yn ôl y gred gyfoes). Cofiai’r Cymry, hefyd, fod rhai o’r Mortimeriaid wedi cefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Bu’r Mortimeriaid yn un o deuluoedd mwyaf pwerus y Gororau yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg ac roedd nifer o arglwyddiaethau’r Mers yn eu meddiant. Gan mai Edward IV oedd etifedd iarllaeth arglwyddiaethau’r Mers, daeth hanner ohonynt i’w feddiant ef ac felly i ddwylo’r Goron pan ddaeth yn frenin yn 1461. Yn yr arglwyddiaethau hyn, ynghyd â Morgannwg a oedd yn nwylo Richard Neville, iarll Warwick, yr oedd mwyafrif cefnogwyr plaid Iorc yng Nghymru cyn 1470.

Rhai uchelwyr blaenllaw a gefnogodd y blaid hon yng Nghymru oedd Fychaniaid Tretŵr ac yn arbennig Herbertiaid Rhaglan.[3] Roedd Syr Wiliam Herbert I, iarll cyntaf Penfro, yn noddwr i Guto’r Glyn, fel yr oedd ei dad, Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, ei frawd, Syr Rhisiart Herbert o Golbrwg, a’i dri mab, Wiliam Herbert II, ail iarll Penfro, Syr Water Herbert a mab anghyfreithlon, Wiliam Herbert o Benfro.[4]

Ac yntau wedi gwasanaethu ym myddin Richard, dug Iorc pan oedd yn ifanc, nid yw’n syndod fod Guto’r Glyn wedi canu i lawer o noddwyr a gefnogai Richard a’i fab Edward, iarll y Mers (a ddaeth yn Edward IV). Yn ogystal â’r Herbertiaid, roedd y rhain yn cynnwys Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd (a ymladdodd ar ochr Edward ym mrwydr Mortimer’s Cross), Syr Rosier Cinast ap Gruffudd o’r Cnwcin ac o bosibl Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt.[5]

Cymru a phlaid Lancastr
Roedd gan blaid Lancaster gyswllt arbennig o gryf â Chymru. Bu farw Harri V yn 1422 gan adael gweddw, Katherine o Valois. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach priododd Katherine ŵr bonheddig o’r enw Owain Tudur, ŵyr i Dudur ap Goronwy o Fôn, a ganed iddynt nifer o blant gan gynnwys Edmwnd Tudur a Siasbar Tudur. Yn 1452 urddwyd Edmwnd a Siasbar yn ieirll gan eu hanner brawd Harri VI, gan ddod yn uchelwyr Lancastraidd pwerus iawn.
Yn 1455 priododd Edmwnd Tudur, iarll Richmond, â Margaret Beaufort, merch i John, dug Somerset, a oedd yn ŵyr i John o Gaunt (trydydd mab Edward III) a’i drydedd wraig, Katherine Swynford. Bu farw Edmwnd o’r pla yn 1456, ar ôl cael ei ddal a’i garcharu gan yr Iorciaid, ond ym mis Ionawr 1457 ganed mab iddo ef a Margaret, sef Harri Tudur. Dienyddwyd tad Edmwnd, Owain Tudur, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar Chwefror 7, 1461 yn Henffordd, ar ôl i blaid Lancastr gael ei threchu ym mrwydr Mortimer’s Cross.

Erbyn hyn, fodd bynnag, Siasbar Tudur, iarll Penfro, oedd prif arweinydd plaid Lancastr yng Nghymru ac, yn y blynyddoedd i ddod, byddai ei gefnogaeth frwd a theyrngar yn helpu ei nai, Harri Tudur, i ennill Coron Lloegr. Yn dilyn eu buddugoliaeth ym mrwydr Bosworth, gwobrwywyd Siasbar drwy ei urddo’n ddug Bedford a rhoddwyd nifer o swyddi pwysig iddo cyn iddo farw, yn hen ŵr, yn 1495.

Canodd Guto’r Glyn i Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, gŵr y bu iddo ran bwysig yn y brwydro yn Bosworth. Roedd nifer o’i noddwyr eraill yn cefnogi plaid Lancastr hefyd, gan gynnwys Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral, Siôn Hanmer ap Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai, Gruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol ac, mae’n debyg, Siôn Eutun ap Siâms Eutun o Barc Eutun.

Y brwydro a Chymru
Yn sgil yr helyntion cynnar rhwng teuluoedd Iorc a Lancastr yn y 1450au bu llawer o anrhefn yng Nghymru. Roedd gan nifer o arglwyddi a marchogion Lloegr diroedd yng Nghymru; roedd rhai ohonynt yn chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrchoedd a gobeithient ennill cefnogaeth yng Nghymru. Ond cael eu tynnu’r ddwy ffordd fu hanes llawer o deuluoedd Cymreig a chlywir hynny yng nghanu’r cyfnod.[6]

Aberystwyth castle
Aberystwyth castle
Click for a larger image
Bu’r de a’r canolbarth yn ganolbwynt i’r gwrthryfeloedd yn ystod degawd cyntaf y Rhyfeloedd. Enillodd Edmwnd Tudur gefnogaeth un o uchelwyr pwysicaf y de, Gruffudd ap Nicolas, a byddai ef a’i deulu yn parhau’n ffyddlon i’r Tuduriaid yn y blynyddoedd i ddod.[7] Cymerodd Edmwnd gastell Caerfyrddin yn 1456 ond fe’i collodd yn fuan wedyn i Syr Wiliam Herbert I a Syr Walter Devereux cyn iddynt hefyd gipio castell Aberystwyth. Yn dilyn marwolaeth Edmwnd Tudur a genedigaeth ei fab, Harri Tudur yng nghastell Penfro yn 1457, roedd grym Harri VI unwaith eto’n gryf a bu rhaid i ddug Iorc ildio cestyll Caerfyrddin ac Aberystwyth i Siasbar Tudur, ac yntau wedi ei benodi’n gwnstabl arnynt. Erbyn 1459 roedd Siasbar Tudur wedi atgyfnerthu’r garsiynau yng nghestyll Carreg Cennen a Chydweli a oedd wedi dioddef ymosodiadau gan gefnogwyr Iorc. Ond ergyd mawr i’r Lancastriaid yng Nghymru oedd colli castell Penfro pan orchfygwyd y castell gan Syr Wiliam Herbert I ar Fedi 30, 1461.[8]

Ychydig wythnosau wedyn, daeth Herbert a Siasbar Tudur wyneb yn wyneb ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, ond yr Iorciaid a fu’n llwyddiannus unwaith eto a ffoes Siasbar i Iwerddon. Erbyn Ionawr 1462, bu’n rhaid i’r Lancastriaid ildio castell Dinbych hefyd i’r Iorciaid. Ac, erbyn Mai 1, 1462, cymerwyd castell Carreg Cennen, a ddelid gan Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, gan Wiliam Herbert.[9]

Cyfeiria Guto at gipio Carreg Cennen a Phenfro mewn cerdd ddiweddarach i Wiliam Herbert:

Ba well castell rhag cysteg 
Ban friwyd wal Benfro deg? 
Bwriaist – ergydiaist godwm – 
Ben Carreg Cennen i’r cwm. 
Pa fudd yw unrhyw gastell yn erbyn cyni
pan ddrylliwyd mur Penfro deg?
Bwriaist – peraist godwm ag ergyd –
ben Carreg Cennen i’r cwm.

(cerdd 21.19-22)


Harlech castle
Harlech castle
Click for a larger image
Ym mis Hydref 1464, cafodd Syr Wiliam Herbert gomisiwn i ddal gwrthryfelwyr plaid Lancastr yn sir Feirionnydd ynghyd â’r rhai a oedd yng nghastell Harlech. Ond cuddiodd Siasbar Tudur yn nhai ei gyfeillion yng ngogledd Cymru ac o bosibl yng Nghorsygedol, cartref Gruffudd Fychan ap Gruffudd.[10] Yn ystod y blynyddoedd hyn hefyd cafwyd sawl ymgais i geisio disodli garsiwn castell Harlech, yr unig gastell yng Nghymru a oedd yn parhau yn nwylo’r Lancastriaid (arweinydd y garsiwn oedd Dafydd ab Ieuan, mab i un o noddwyr Guto, Ieuan ab Einion o’r Cryniarth, Llandrillo). Rhoddwyd cynnig olaf ar gipio castell Harlech dan arweiniad Syr Wiliam Herbert I a dyma’r hanes a gawn yn un o gerddi Guto’r Glyn, ‘Moliant i Wiliam Herbert ar ôl cipio castell Harlech, 1468’ (cerdd 21). Egyr y cywydd drwy sôn am y fyddin yn teithio i’r gogledd:

Tair ffordd – clawdd tir Offa hen, 
Siwrnai Wiliam, Sarn Elen – 
Arglwydd Herbert a’th gerti 
A’th lu, Duw a’th lywio di! 
Glaw gynt a gâi lu ac ost; 
Hindda weithian pan ddoethost! 
Dewiniais y caud Wynedd 
A dwyn Môn i’r dyn a’i medd. 
Berw Lloegr, pawb a rôi’u llygaid, 
Pe ceisiech Harddlech, o chaid. 
Tair ffordd – clawdd tir Offa hen,
hynt Wiliam, Sarn Helen –
Arglwydd Herbert a’th gerti
a’th lu, boed i Dduw dy arwain!
Glaw a gâi llu a byddin gynt;
tywydd braf bellach pan ddaethost ti!
Darogenais y byddet yn cipio Gwynedd
ac yn adfer Môn i’r gŵr a’i piau.
Mae Lloegr yn fwrlwm, byddai pawb yn rhoi ei lygaid,
pe ymosodet ti ar Harlech, pe cipid hi.

(cerdd 21.5-14)


Ceir wedyn ddisgrifiad o Herbert yn goresgyn amddiffyniadau’r castell:

Ni ddaliawdd ei chlawdd achlân 
Ywch, Harddlech, mwy no chorddlan. 
Ni ddaliodd ei chlawdd o gwbl
yn eich erbyn, clawdd Harlech, mwy nag y gallai corlan.

(cerdd 21.23-4)


Ni wyddom faint o wrthwynebiad a fu iddo, mewn gwirionedd, gan mai prin iawn yw’r dystiolaeth gyfoes. Mae’n debyg, fodd bynnag, fod y castell wedi ei ildio ar ôl i Siasbar Tudur gael ei drechu gan Risiart, brawd Wiliam Herbert, yn dilyn llosgi tref Dinbych. [11] Mae’n debygol mai Rhisiart oedd arweinydd un rhan o’r fyddin fawr a ddisgrifir yng ngherdd Guto ac, yn wir, fod y brenin wedi awdurdodi’r ymgyrch hwn mewn ymateb i gynllun Siasbar Tudur i lanio yn Sir Feirionydd yn gynnar yn 1468.[12]

Erbyn 1468 roedd Syr Wiliam Herbert I yn eang iawn ei ddylanwad ac ymddiriedai Edward IV yn fawr ynddo. Arweiniodd Herbert fyddin o Gymru i herio gwrthryfel ‘Robin of Redesdale’ (sef, mewn gwirionedd, cynllwyn rhwng iarll Warwick a George, dug Clarence), ond ymosodwyd yn chwyrn ar y Cymry ym mrwydr Banbri ar Orffennaf 24, 1469 a lladdwyd nifer ohonynt. Dienyddiwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart yn fuan wedyn, ar orchymyn Warwick. Roedd y gorchfygiad ym mrwydr Banbri yn achos galar mawr yng Nghymru, a’r rhai a laddwyd yn cael eu coffáu gan Guto ac eraill.[13]

Wedi ailorseddu Harri VI ym mis Hydref 1470, dychwelodd Siasbar Tudur i Gymru gan ddangos ei ddiolchgarwch i rai o’i gefnogwyr, yn eu plith, Siôn Pilstwn, tad Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral.[14] Aeth Siasbar i Benfro i weld ei nai ifanc, Harri Tudur, a gâi ei gadw’n garcharor yno. Er hynny, ymddengys i Harri dderbyn addysg briodol gan Ann Herbert a’i fagu yn yr un modd â’i meibion.

Buddugoliaeth fer i’r Lancastriaid oedd coroni Harri VI - trechwyd y blaid eto ym mrwydrau Barnet a Tewkesbury lle cafodd nifer o filwyr o Gymru ar y ddwy ochr eu lladd. Yn dilyn marwolaeth Harri VI a’i fab Edward, Harri Tudur oedd prif etifedd llinach Lancastr a sicrhaodd Siasbar Tudur fod ei nai yn saff ac ymhell o Loegr yn ystod blynyddoedd olaf ac heddychlon teyrnasiad Edward IV o 1471 hyd at 1483.
Yn y cyfnod hwn, rhoddwyd y teitl ‘tywysog Cymru’ i fab hynaf Edward IV a threfnwyd cyngor iddo yn Llwydlo, nid nepell o’r ffin, gan fod rhan helaeth o arglwyddiaethau’r Mers ym meddiant y Goron (gw. Cymru a phlaid Iorc). Ond daeth diwedd ar hynny pan wnaethpwyd Rhisiart, dug Caerloyw (a ddaeth yn Frenin Rhisiart III), yn warchodwr i’r tywysog ifanc yn dilyn marwolaeth Edward IV ar Ebrill 9, 1483. Ymdrechodd Rhisiart III i barhau â’r un rheolaeth ar Gymru ag a fu gan ei frawd, Edward IV, ond gwan iawn oedd y gefnogaeth iddo. Nid oedd gan ei swyddogion yng Nghymru yr un ffocws lleol ag a fu gan y cyn frenin a’i wŷr a chyda dylanwad Siasbar Tudur yn cynyddu’n dawel, roedd perthynas y brenin newydd â’r Cymry’n gwanhau fwyfwy.[15] Yn 1485 trefnodd Siasbar Tudur orymdaith trwy Gymru dan arweiniad Harri Tudur, gan ddefnyddio baner y ddraig goch i ennill cefnogaeth y Cymry drwy eu hatgoffa o’i ddisgynyddiaeth o hen frenhinoedd y Brythoniaid.[16]

Erbyn brwydr Bosworth, Awst 22, 1485, roedd Siasbar a Harri Tudur wedi casglu nifer helaeth o Gymry i ymladd yn erbyn Rhisiart III. Yn eu plith roedd Rhys ap Tomas o Abermarlais, a chanodd Guto’r Glyn gywydd i yn dathlu ei ran ym muddugoliaeth Harri:

Cwncwerodd y Cing Harri 
Y maes drwy nerth ein meistr ni: 
Lladd Eingl, llaw ddiangen, 
Lladd y baedd, eilliodd ei ben, 
A Syr Rys mal sŷr aesawr 
Â’r gwayw ’n eu mysg ar gnyw mawr. 
Enillodd y Brenin Harri
y frwydr drwy nerth ein harglwydd ni:
lladd Saeson, llaw atebol,
lladd y baedd, siafiodd ei ben,
a Syr Rhys fel sêr ar darian
â’r waywffon yn eu plith ar farch mawr.

(cerdd 14.35-40)


Roedd nifer o noddwyr eraill Guto yn cefnogi Harri yn Bosworth, sef Syr Water Herbert, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn ac, efallai, Yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell, hyd yn oed. Mae’n debyg y bu Siôn Edward o Blasnewydd yno hefyd, ym myddin Syr William Stanley, gan fod Guto’n cyfeirio at y pryder amdano ac yntau wedi teithio i Loegr ‘yn awr angen y baedd’ (am y baedd fel arwydd Rhisiart III gw. Diddordebau uchelwyr: Statws a herodraeth: Bathodynnau):

Yn rhaid y baedd rhodiaw bu 
Yn Lloegr, ninnau’n llewygu; 
A Duw a’r saint a’i rhoes ef 
O’r frwydr, ef a’i wŷr, adref 
Yn awr angen y baedd bu’n rhodio
yn Lloegr, ninnau’n llewygu;
a Duw a’r saint a ganiataodd iddo ef
i ddod adref, ef a’i ddynion, o’r frwydr

(cerdd 107.51-4)


Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Bosworth, coronwyd Harri Tudur yn ffurfiol yn frenin Lloegr ar Hydref 30, 1485. Gwobrwyodd lawer o’i gefnogwyr Cymreig, gan gynnwys Siasbar Tudur a urddwyd yn ddug Bedford, a Rhys ap Thomas a urddwyd yn farchog yn fuan ar ôl brwydr Bosworth ac a aeth ymlaen i ddal nifer o swyddi pwysig yn llywodraeth Cymru.

Bibliography

[1]: Am drafodaeth am Owain Tudur gw. H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses, (second ed., Stroud, 1995), 41-53.
[2]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses, (second ed., Stroud, 1995), 1-10; H. Fulton, ‘Guto'r Glyn and the Wars of the Roses’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), pennod 2.
[3]: Am hanes Fynachiaid Tretwr gw. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953), 940-1; D.S. Davies, ‘Vaughan of Tretower’, Transactions of the Radnorshire Society, v (1935), 50; E.D. Jones, ‘The Parentage of Sir Thomas Vaughan (d. 1483)’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, viii (1953-4), 349.
[4]: D.F. Evans, ‘William Herbert of Raglan (d. 1469): Family History and Personal Identity’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ’Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), pennod 4.
[5]: Fulton, ‘Guto'r Glyn and the Wars of the Roses’, 57-60.
[6]: Rh. Griffiths, ‘Mwy o Gymro na Iorciad’ yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ’Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013).
[7]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 55.
[8]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 85.
[9]: R.A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff, 1993), 28.
[10]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 91-2.
[11]: C. Ross, Edward IV (Berkeley, 1974), 114.
[12]: Gw. B.J. Lewis, nodyn cefndir cerdd 21.
[13]: Ymhellach gw. B. Lewis, ‘The Battle of Edgecote or Banbury Through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9 (2011), 97-117.
[14]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 113.
[15]: R. Horrox, Richard III: A Study of Service (Cambridge, 1989) 212.
[16]: H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud, 1995), 113.
<<<Y brwydrau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration