Maes y gad
Gwayw a chorff Mathau Goch hael A gyfyd Lloegr a’i gafael. Â’r bêl o ryfel yr aeth Â’i baladr o’i fabolaeth. (cerdd 3.11-14) Drwy gydol yr Oesoedd Canol roedd y gallu i ymladd ac i arwain eraill ar faes y gad yn cael ei ystyried fel rhinwedd bwysig i uchelwyr, ac adlewyrchir hyn yn gryf yng ngherddi mawl y beirdd. Ni rhoddai’r beirdd gymaint o sylw i’r milwyr llai breintiedig a oedd yn cynrychioli’r garfan fwyaf o wŷr ym myddinoedd y cyfnod. O’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen gwelwyd defnydd cynyddol o filwyr cyflog, a hwythau’n derbyn tâl penodol am gyfnod penodol o wasanaeth. Roedd Guto’r Glyn ei hun yn un o’r Cymry ifanc a ddewisodd ymuno â byddin Lloegr yn ystod cyfnod olaf y Rhyfel Can Mlynedd, gan gymryd rhan mewn ymgyrch yn Ffrainc yn 1441 (ac efallai’n gynharach hefyd, yn 1436; gw. Guto’r Glyn). Nid oes tystiolaeth fod Guto wedi ymladd yn Rhyfelodd y Rhosynnau, sef y brwydro dros goron Lloegr yn ail hanner y bymthegfed ganrif a ddaeth i ben gyda brwydr Bosworth yn 1485. Ond roedd effaith y rhyfel ar Gymru yn fawr, ac roedd cefnogwyr i’r ddwy blaid, Lancaster a Iorc, ymhlith noddwyr y beirdd. Cyfnod rhyfelgar a pheryglus oedd hi, a gwahanol fathau o arfau ac arfwisgoedd yn cael eu defnyddio nid yn unig gan filwyr ond hefyd gan bobl gyffredin wrth eu hamddiffyn eu hunain. Gwelwyd datblygiadau mawr mewn technoleg milwrol o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, gan gynnwys datblygu arfwisg blât fwyfwy effeithiol a chyflwyno’r gwn. Adlewyrchir y datblygiadau hyn yng ngherddi’r beirdd, ac roeddent yn ymwybodol hefyd o bwysigrwydd rhai canolfannau cynhyrchu arfau neu arfwisgoedd megis Milan yn yr Eidal. Cyfeiria Guto ei hun at Wrecsam fel canolfan cynhyrchu bwcledi (math o darian gron). Disgrifia Guto’r bwcledi mewn cerdd ddiolch, a’r math hwn o gerdd (ynghyd â cherddi gofyn) yn bwysig wrth astudio arfau a gwrthrychau materol eraill oherwydd manylder y disgrifiadau a geir o’r rhoddion.[1] Ceir ganddo hefyd gywydd gofyn am frigawn, sef math o arfwisg, ac am fath o helm a elwir yn saeled. Byr iawn, o’u cymharu, yw’r rhan fwyaf o gyfeiriadau Guto at arfau, a ddefnyddir yn aml i gyfleu canmoliaeth o noddwyr yn nhermau dawn milwrol, dewrder neu rinweddau eraill fel haelioni. Serch hynny, cawn yn ei gerddi gip gwerthfawr ar faes y gad, a hynny drwy lygaid bardd a oedd yn adnabod llawer o arweinwyr milwrol yr oes yn ogystal â bod yn filwr ei hun yn ei ieuenctid.[2] Bibliography[1]: Am y genre hwn, gw. B.O. Huws, Y Canu Gofyn a Diolch, (Caerdydd, 1998).[2]: Am ymdriniaeth fanwl gw. J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen ac D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru'r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013). |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru