databas cerddi guto'r glyn
Apologies, but no English translation of this page is available. Read an automatic translation of this page by Google

Offerynnau


Y delyn
Y delyn yw’r prif offeryn y cyfeirir ati yn y farddoniaeth. Canodd y bardd Iolo Goch gerdd ddychan i’r delyn rawn [1] a cheir ambell gerdd hefyd sy’n gofyn am delyn fel rhodd gan y beirdd.[2] Telyn fechan gydag ychydig o dannau a ddefnyddid yn y cyfnod hwn ac roedd yr offeryn yn cael ei gludo o le i le gan delynor ar ei gefn. Mae’r telynor yn yr animeiddiad o Gochwillan yn canu telyn gyda deuddeg o dannau, ond gallai’r delyn Gymreig fod â rhwng naw ac un ar bymtheg o dannau. Mae’n debyg bod un nodwedd arbennig i delynau o Gymru yn y cyfnod hwn sef mai tannau wedi eu gwneud o rawn, sef blew ceffyl, oedd arnynt yn hytrach na thannau lledr o goluddion defaid. Roedd enwau ar rai tannau hefyd. Enw’r tant tenau a oedd wedi ei leoli agosaf at y telynor oedd y cildant, a’r enw ar y tant tew a oedd bellaf oddi wrtho oedd y llorfdant. Byddai’r cildant yn gwneud sain uchel, main a byddai’r llorfdant yn gwneud sain isel, dwfn. [3]

Roedd y sain a gynhyrchid gan y delyn yn wahanol iawn i’r hyn sy’n gyfarwydd i ni heddiw ac yn llawer llai meddal. Gall hyn fod oherwydd maint, siâp a gwneuthuriad telyn ganoloesol, ond yn bennaf, ceid sain mwy caled oherwydd dull y telynor o ganu’r delyn. Dull o ganu’r tannau gyda’r bysedd, y bodiau a’r ewinedd oedd hwn, sef dull a oedd hefyd yn boblogaidd yn Iwerddon.[4]

Y crwth
Yn ail i’r delyn ystyrir y crwth fel offeryn traddodiadol y Cymry yn yr Oesoedd Canol. Offeryn siâp petryal ac arno chwe llinyn a’r rheini’n cael eu cynnal heb grib oedd y crwth cynnar. Roedd fersiwn â thri thant yn bodoli hefyd (fersiwn cynharach o bosibl). Crefft gymhleth oedd chwarae’r crwth â’r bwa a chreu harmoni persain. Gellir cael ystod alaw gyfforddus o wythfed gan y defnydd o drydydd safle, ac wythfed a hanner gan ddefnyddio safleoedd uwch ar y tannau. Cynhyrchir tôn meddalach a mwy garw na’r ffidil modern.

Cyfeirir at y crwth yng Nghyfraith Hywel Dda ac yn yr hyn a elwir yn ‘Trioedd Cerdd’. Yn y trioedd fe’i rhestrir fel a ganlyn: ‘Teir prifgerd tant ysyd, nyt amgen : kerd grwth, kerd delyn, a cherd timpan’.[5] Cyplysir y crwth gyda’r delyn yn aml yn y farddoniaeth ac mae’n bur debyg y cenid y ddau offeryn gyda’i gilydd weithiau, er mai’n amlwg nad oedd i’r crwth yr un statws â’r delyn.

Fel y telynor, roedd y berthynas rhwng y crythor a’r bardd yn agos iawn, ac mae’n bosibl fod cerddi’n cael eu perfformio i gyfeiliant crwth fel y delyn.[6] Mewn rhestr a luniwyd c.1500 gan Gutun Owain enwir llawer o grythorion, nifer ohonynt yn arddel y gair ‘Crythor’ fel ail-enw, megis Ieuan Grythor a raddiodd yn eisteddfod Caerwys yn 1523.[7] Felly hefyd Hywel Grythor, gŵr a ddychenir mewn cyfres o englynion a briodolir i Guto’r Glyn (ond ni enwir y cerddor hwn yn rhestr Gutun Owain), cerdd 121. Mae’r gerdd hon yn perthyn i ddosbarth o gerddi a ganwyd i grythorion a darlun anffafriol o’r proffesiwn a ddarlunir yddynt gan amlaf, fel y gyfres englynion a luniwyd i'r crythor Edward Sirc ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: Os cras yw'r crwth, dagrwth dôn, / Crasach yw'r geirie creision.[8] Gwyddom fod rhai beirdd yn grythorion hefyd megis Edward Maelor, ac mae Llywelyn ap Gutun yn cael ei ddisgrifio fel ‘chwareuydd ar y crwth’ gan Robert Griffith.[9]

Offerynnau eraill
Roedd meddu ar ddawn gerddorol yn rhywbeth arbennig yn yr Oesoedd Canol a weithiau cyfeirir at allu cerddorol y noddwyr i ganu offerynnau, fel a wna Guto wrth ganmol Rhisiart Herbert o Golbrwg:

Gwent alarch a gân telyn 
Ac a rydd aur am gerdd ynn. 
Ni bydd ef, myn bedd Iefan, 
Heb rôt a luwt, Herbart lân. 
Alarch Gwent sy’n canu’r delyn
ac sy’n rhoi aur i ni am gerdd.
Nid yw byth, yn enw bedd Ieuan,
heb rôt a liwt, Herbert teg.

(poem 22.55-8)


Yn ogystal â’r delyn a'r crwth cyfeirir yma at rôt a liwt. Caiff y term rôt (a ddaw o’r Saesneg ‘rote’) ei ddefnyddio am unrhyw offeryn llinynnol a oedd yn cynnwys seinfwrdd a’i chwarae â bwa neu wrth blycio’r tannau yn y cyfnod hwn (yn hytrach na math penodol o offeryn).[10] Offeryn llinynnol oedd y liwt hefyd, ond yn wahanol i’r crwth, chwareid y liwt wrth blycio’r tannau gyda’r llaw dde ac yna eu pwyso’n erbyn y gribell gyda’r llaw chwith.[11] Cyfeirir at offerynnau eraill a oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod hefyd gan gyfoedion Guto, megis sawtring (‘saltring’), math o offeryn llinynnol,[12] a dwsmel (‘dulcimer’), offeryn arall â thannau a seinfwrdd ond a genid drwy daro’r tannau â dau forthwyl bychan.[13]

Disgrifir un offeryn yn fanwl gan Guto'r Glyn, sef y corn hela y mae'n ei erchi gan Sieffrai Cyffin ar ran Siôn Eutun, gw. cerdd 99. Defnyddid y corn hwn wrth hela (gw. offer hela) ac wrth ei ddisgrifio medd Guto fod ei sain fel y bwmbart (a ddaw o’r Saesneg ‘bombard’): math o offeryn chwyth a oedd â sain tebyg i’r trwmped ac sy’n draddodiadol yn boblogaidd yn Llydaw:

Bwmbart i ŵr a’i bumbys, 
Brig llef hyd ar barc y llys, 
bwmbart i ŵr a’i bum bys,
uchafbwynt llef ar draws parc y llys,

(poem 99.39-40)


Defnyddid offerynnau taro hefyd fel y tympan, math o ddrwm bychan. Ond yr offeryn taro mwyaf nodweddiadol a oedd yn gyfeiliant i farddoniaeth oedd y pastwn. Math o ffon hir oedd y pastwn a byddai’r datgeinydd yn ei tharo ar y llawr i gyd-fynd â rhythm y gynghanedd wrth lafarganu’r farddoniaeth. Mae hanes y tywysog Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137) sydd wedi goroesi yn cyfeirio at ddatgeinydd fel datgeinydd pen pastwn a oedd yn cyfeilio iddo ef ei hun gyda’r offeryn taro hwn.[14]

Bibliography

[1]: D.R. Johnston, Iolo Goch: The Poems, Welsh Classics Series (Llandysul, 1993), 130-132; A.O.H. Jarman, ‘Telyn a Chrwth’, (1961), Llên Cymru 6, 154-75.
[2]: N. A Jones & E.H. Rheinallt (gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995), cerdd rhif 11; Rh. Ifans, Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005), cerdd rhif 12.
[3]: Ymhellach gw. erthygl S. Harper yn DapG.net, ‘Dafydd ap Gwilym, Bardd a Cherddor’ ac S. Harper, Music in Welsh Culture before 1650: a study of the principle source (Aldershot, 2007), 130.
[4]: A.O.H. Jarman, ‘Telyn a Chrwth’, (1961), Llên Cymru 6, 166.
[5]: G.J. Williams & E.J. Jones (gol.), Gramadegau’r Penceirddiaid (Caerdydd, 1934), 57.
[6]: D. Johnston, Llên yr Uchelwyr (Caerdydd, 2005), 46.
[7]: D. Huws, ‘Rhestr Gutun Owain o Wŷr wrth Gerdd’, Dwned 10 (2004), 79-88.
[8]: B. Miles, `“Pwt ar Frys” neu “Ffarwél y Crythor” ', Canu Gwerin, xiii (1990), 36.
[9]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Llywelyn ap Gutun (Aberystwyth, 2007), 4-5.
[10]: The Oxford English Dictionary s.v. rote, n.².
[11]: The Oxford English Dictionary s.v. lute, n.¹.
[12]: D.F. Evans, Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), 12.54.
[13]: ‘Geiriadur Prifysgol Cymru’ 1107 d.g. dwmsel.
[14]: S. Harper, Music in Welsh Culture before 1650: a study of the principle source (Aldershot, 2007), 15.
Website design by Martin Crampin    Website development by Technoleg Taliesin Cyf. and Alexander Roberts, Swansea University.    

Administration