Pen 57, 37–40
llaw anhysbys, c.1440
Pen 57, 37–40
kywyd y bel

1Y mae gwr ym yw garu
2kydwybot tec kyt boet tuoes panadoes y pavn du
3Howel y glot a hewnn
4Hoydl hir yr gwr huawdl hwnn
5lles wreidduab llys rodduudd
6ll’ yw llaw x eil nud
7Val hwnn y vawl a honnir
8Vychan hael veich onwayw hir
9Por glan oror glynn aeron
10Pennaeth byrddeu maeth beirdd mon
11Parawt oleuwawt oleuwawt lewycc
12Per y glot val par o glych
13Brenhin y gler fyrfder fawc
14Brenhinyaeth bro anhunyawc
15Vchel greir ny ochel gras
16Vwch aeron awchwayw eiryas
17Llywio mae ef addef oedd
18Llvr wlat ay llwyr oludoedd
19Llywior glot vwch llawr y glynn
20Llywio aelwyt llywelynn
21Roet yr gwr rri dewr gwaywrudd
22O wynnlle nant wenllaw nudd
23Mawr y barnaf amrauael
24Yr hwng y kybydd ar hael
25Wrth wybot sylvaen clot cler
26Haelyoni howel ener
27Duw a roddes dor addwyn
28Pel dec y bob hael yw dwyn
29Y glot yn ddigeladwy
30Ydiwr bel hardd heb drebl hwy
31Honn yn greir hoyw vnyawn gret
32Y rydderch hael a roddet
33Gan vordaf enwokaf nawdd
34Gan nudd hi a gynyddawdd
35Y bel y vab llywelyn
36A roddes duw vrddas dyn
31Honn yn greir hoyw vnyawn gret
32Y rydderch hael a roddet
37Hywel wyneb haelyoni
38A llaw hael ay llywia hi
39Redawdd honn anrrydedd hy
40Rwysc dreic amrwysc drwy gymry
41Ny ddichawn dawn dianael
42Gwarae a hi ond gwr hael
43Ac nyw llvdd o egni llaw
44Kybydd myny groc heibyaw
45Gware mae y gwr ay medd
46Tenis achlot twy wynedd
47Nys kair byt oleubryt lwybr
48Hi o law hywel ewybr
49Yawn oedd hynn y vnwedd Hu
50Iarll y gerdd ywr llew gorddu
51Ior glasgruc eiryeu glwysgroyw
52Eryr deheuwyr du hoyw
53Tebygu y du y dat
54y maer gwr mawr y garyat
55Enw mordaf haelaf hylwydd
56A roet y lywelyn rwydd
57A howel brifei sel serch
58A gyrhaeddodd geir rrydderch
59Aeth ar bel vab llywelynn
60Efrawc lwyth iuor y glynn

Gutto ay cant

Trefn y llinellau
1–36, 31–2 (wedi eu dileu), 37–60.

Nodiadau
5–6  Ysgrifennwyd y llinellau hyn ar ymyl chwith y ddalen.

Ceir y teitl gyferbyn â llinell 58 yn y llawysgrif.