llaw anhysbys, c.1510x1530
Llst 6, 102–4
1dafydd mathay bendefic
2dawn y dref dy enw dric
3didwyll yr deay ydwyd
4adedwydd oddafydd wyd
5dyw agyflawnoedd dy iad
6o doethder dy ven dith dad
7difalch wyd dwyfol achall
8abalch athayr valch wrth arall
9agoriad wyd ar gaer dyf
10ay chlo addwyn ay chleddyf
11angel ystor gwlad vorgan
12ywch law morganwc achlan
13allew dy goray lliw dyn
14llan daf ar lly yn dofyn
15ny by lew dy ne lwyd iach
16ar wyneb gwr dyrionach
17haws tynny tan owanec
18no thyny dawn oth wen dec
19dwyran medd yr ystoria
20aroes dyw yt o ras da
21ran yt ddafydd rent ddifai
22aran gwen llian nyd llai
23dal yddywch ych dwylaw ddaeth
24y tai ar berchen tyaeth
25adwyn er ioed dan yr iay
26ych dayedd vraych y deay
27adailiad tai adal tir
28abwrw kost ar bwr kastir
29bowyd mathay ap ieayan
30ay dir rent aeth yn dair ran
31nyrenid yn yr vnawr
32tair ran vwy ar tyrayn vawr
33tyfy yddwyd ddafydd ddoeth
34trachefn mwy nor tri chyfoeth
35tai megis arglwydd y twr
36tir achynydd trychanwr
37y may rad y gwr mawr hir
38y drindod ar dy randir
39mae tyfiad mwy yt dafydd
40maibion val kyrn hirion
41val na bydd na blaen na bon
42addwyn kairw heb ddwyn koron
43karw yth gwrt kywir yth gair
44hwyntey yw dosgley disglair
45y llaw en pwysaw hapyswedd
46ni ddial klwyf ni ddaily kledd
47mawr yw kael pedwar aylawd
48megis pedwar bys a bawd
49nyd aylaw gwr heb dylwyth
50nyd derwen na ffren heb ffrwyth
51derwen vawr wyd er yn vaink
52pedwar karw ywr pedair kaink
53ay bric oll val nas bwrw gwynt
54yw dy blaidiay dwbl ydynt
55vn ffynyd wyd yn ffyniant
56ffyrf blaid affriaf ay blant
57pa rai yw maibion priaf
58pedeir llin dyr peder llan daf
59teilo agatwor tylwyth
60tec ywr llys nyd hagr y llwyth
61llawen dy wen yn llandaf
62llymar wyneb llywenaf
63llawen ywr dref wen dra vych
64llaer blwyddyn blwyddyn yllywych
Gytor glyn ai kant
Trefn y llinellau
1–64.
Nodiadau