Robert Vaughan, canol yr 17g. (nid cyn 1654)
Pen 152, 209–11
{Cywydd Marwnad Syr Bened person Corwen o waith Gutto o’r Glynn}
1Mi a welais mau wylaw
2freuddwyd oer i fardd y daw
3Torri cledd dewredd i’m dwrn
4yn ei said ar nos Sadwrn
5Y cleddau pan y claddwyd
6oedd cadpen o wr llên llwyd
7Trewis duw dyrnod trist iawn
8torri dwrn tir Edeirniawn
9Bwrw’n y llawr Bran a Llyr
10braw Corwen bwrw cyw eryr
11Bwrw sylfaen a blaen y blaid
12bwrw synwyr holl bersoniaid
13Mawr yw’r cwyn yn holl Wynedd
14myned Syr Bened i’r bedd
15A mwy yw’r cwyn marw ei car
16yn Nhegaingl chwedl anhygar
17Ddoe yr oedd im wadd ar wr
18heddyw mae fy ngwahoddwr
19Heddyw’r oedd wahodd yr wyl
20hon yr awron yw’r arwyl
21Mae’r gruddiau yn donnau dwr
22mor glas am yr eglwyswr
23Eryr crefyddwyr cryf oedd
24ac vn edn llwch gwin ydoedd
25Caterwen côr Sulien sant
26cawr ffriwlwyd fal corff Roland
27Cryf fu angau crafangawg
28gwympio’r holl gampau y rhawg
29Nis bwriodd ansyberwyd
30gwr o gorff yn Lloegr i gyd
31Och finnau na chaf yno
32ddewi i’w gyfodi fo
33Neu Feuno yn fyw vnwaith
34na roes hwn yn vn o’r saith
35Gweled syr Bened pe bai
36yn iach a’m llawenychai
37Curad aur y cor od aeth
38Corwen gwae ni rhag hiraeth
39Er pan aeth gwaeth gwaeth ydyw’r gwyr
40a ffrinach offerenwyr
41Yr hael erioed ni ffaeliodd
42a chwedi’r hael ni chaid rhodd
43Llawn fu amner pob clerwr
44a lledr gwag oll wedi’r gwr
45Duw lwyd pam na roud ei law
46i un arall i’n euraw
47Ifor hael pan fu farw’r haf
48a roes law i Rys leiaf
49Marw fu Ifor ynghorwen
50a thorri llys athro llên
51Pwy er Mair a gadairiwn
52pwy sydd hael piayu swydd hwn
53A ffwy a rydd ar ffair wen
54yr ail sâl ar wyl Sulien
55Ni wnai ef yno’n ei waith
56ond rhannu punt ar vnwaith
57Duw a wnel rhag dwyn aliwn
58ynn gael llew hael yn lle hwn
59Odid fyth er daied fo
60ynn gael dyn vn glod yno
Gutto’r Glynn ai cant
Trefn y llinellau
1–60.
Nodiadau