Pen 99, 245–7
llaw anhysbys (X5), c.1610x1620
Pen 99, 245–7
K’ Marwnad mevrig fychan{o Nannau Esq}

1Mawr fvr kri am y trihael
2mwy fv r kwyn am fevrig hael
3Mae wylo yn lli mal yn llyn
4merwindod yw marw vndyn
5y mae kof a mi ai kân
6mawr gof och mevrig fychan
7Pleidfab a hap olvdfawr
8pen aeth y farfolaeth fawr
9Pen kenedl poen yw kanv
10pen rhaith ar lanfachraith fv
11Dolgellav a nannav yn vn
12diwreiddiwyd i da drwyddyn
13Marw ddoe{y}mae arwydd yn
14marw i glod mevrig lwydwyn
15Marw i gymar angharad
16marw gwledd kymrv ai gwlad
17O farw /r/ ddav mae’r far ar ddig
18ail marw howel amhevrig
19Vn vrddas yn ar ddav sant
20vn fodd yn y nef fyddant
21Am llew wyth radd moel othrwm
22am loer tref mae falar trwm
23Gwae dir i gyd gwedi/r gwr
24a gwae chwannog echwynwr
25Gwae r tlawd am i gwrt ai wledd
26gwae r gwan dwyn gwraig o wynedd
27Plwyfol ar y ddôl fv’r ddav
28plas hael mab howel Selav
29Parth y gwr an porthai gynt
30parth devddyn porth dvw vddynt
31Mae n brvdd vddyn y breuddwyd
32marw eog llin mevrig llwyd
33I drychant y rhoid{yr}echwyn
34heb roi kas na bwrw kwyn
35Ni bv rydd broydd na brig
36eithyr y môr a thir Mevrig
37Rhai i ni yn rhoi ennyd
38rhenti r beirdd rhoe hwnt ir byd
39yr avr aml a roer yma
40o goffyr dvw a gaiff avr da
41Da i rhannodd dvw ar hyny
42dav olvd teg a daly ty
43feo daeth klod a bendith kler
44ir kwm a elwir kymer
45dvw ni ddoeth dwy wynedd iach
46devryw enaid wirionach
47A chael oes hir vwchlaw r saint
48a chytvn a chyd henaint
49Dvw a roes wrda ai wraig
50doe /n/ vn grefft dan y wen graig
51I ddvw y ddaeth y ddav ddyn
52ar ddav sydd vrddas vddyn

Gvttor Glyn ai Kant

Trefn y llinellau
1–52.

Nodiadau