Pen 77, 129–31
Thomas Wiliems, 1576
Pen 77, 129–31
1duw a roes ym o dir saint
2damweiniau da im henaint
3dwy dreth o galondid rwydd
4dau wr vnrhyw dirionrhwydd
5cyntaf vur athro ddavydd
6Cyffin a roe’r gwin or gwydd
7person Corwen vy mhenaeth
8vu r ail ag i nef yr aeth
9oes vn dyn o berson da
10or vn ordr yw roi’n wrda
11oes neb cyweithas on iaith
12oes hael ymhowys eilwaith
13Syr Sion gonffessor ysydd
14mechain ar aeliae mvchydd
15da wr yn neuddwr yn yw
16dibrinrodd dv barwnryw
17pan vo rhif neu gyfrif gwyr
18pwy yw yswallt powyswyr
19person ni chel pwrs na chost
20pwy ond ef or pavn difost
21vn patrwn or moelgrwn mawr
22ir tir oll ar tair allawr
23ni bv neb hir y bo’n iach
24ym mro drvnio dirionach
25ar vardd i chwardd a cherddawr
26ar y medd i rhoe aur mawr
27ni bvm howys eglwyswr
28yn llenwi’r gwin well nor gwr
29ni charaf sant na churad
30val hil Ierwerth voel ai had
31ni bv wr eb i arian
32ni bydd i brydydd eb rann
33ni bvm gynt na bai ym ged
34ni bom wyl eb ymweled
35ni byddei eb wesdeion
36ni bo saer serch eb Syr Sion
37i drigo yw diriogaeth
38yr af o mynnaf vy maeth
39erchis ym myn arch y saint
40na wahenym in henaint
41af yno nid wyf anoff
42o byddaf na chlaf na chloff
43o daw rhyvel dioer hefyd
44i dreisiaw beirdd dros y byd
45y mae ffyrdd yma i ffo
46ir llwyn drain gaer llan drvnio
47ciliwn a rhodiwn yr hen
48callwyr celliwyr llawen
49a ni a gawn yn y gwydd
50o daw Ywain vyd newydd
51pwy am pyrth os syrth oes hen
52prelad val curad Corwen
53nid awn o Wynedd meddynt
54eb wlan ag wyn or blaen gynt
55od af yn vugeil eilwaith
56o gyrraf wyn i Loigr vaith
57ni yrraf wyn er a fo
58ond yr wyn o lann drvnio
59drwy na cheisio r Cymro cain
60siars na mach Syr Sion mechain

Gutto’r glynn

Trefn y llinellau
1–60.

Nodiadau