Pen 103, 35
llaw anhysbys, c.1558–64
Pen 103, 35
Abertanad

1af ddvwsul foddvs aelwyd
2af dduw llvn at ddafydd llwyd
3af ddiwmawrth fi oddiyma
4af bevnydd at ddafydd dda
5i dad aber tanad hydd
6am dofes ai fam dafydd
7o dyramwy i dir dd wych i yma
8dd wych i dof i dda
9grvfvdd favr rrvdd fvrroddion
10gwevful a naeth gair fel non
11o chollais rent a chyllid
12aeth ir pridd avr a thir prid
13vn tenant yngylan tanad
14a dal dyros i fam ai dad
15ar ddafyd’ y maer ddevfal
16ya rrent oll ar hrrwn ai tal
17gosawag powys fadawg fawr
18gwalchmai eilwaith gylch maelawr
19brytwn adwanwn i dad
20bryt dynion aber tanad
21mil a ddowaid wamaliaith
22maen ar ol am nawyr iaith
23ni bydd dafyd eb dyfiad
24ni wyr iaith ond iaith i dad
25er i son mw i synwyr no dau
26no dav or gorav ai gwyr
27ni chaiff kenfigen i chwant
28nai lu{v}ddias mewn i lwddiant
29lluddias {vrddas} i ddwrddyn vrddas
30lluddias mor lle i dda os myn
31arglwiddi lloegyr ogyleddiaith
32ai peirch er na wypo iaith
33pawb or mars rrag i arswyd
34predir llaw y pyrydyr llwyd
35i ffon fawr a ffen i farch
36ai gyfy. gefyn a fyn i gyfarch
37llveddwr ar ddwr a ddaw
38llew llwyd y mlaen llv llydaw
39os dd’ g{w}eirydd y gad
40ywr llwyd hwn gar llaw tanad
41llwyd y molwyd y milwr
42llwyd yrel lliw da ar wr
43vn forddwyd ar mab llwy{d} llyr
44vn foliant ar hen filwyr
45vn fwnwgl yni fa{e}nawr
46vn faint ageraint negawr
47vn ddefynydd ban ddiddyfnwyd
48yn fylwydd a llew ne fylaidd llwyd
49i dyraws ni ad i dreisiaw
50i wian ni lvdd win oi law
51i bwrs ef eb rysyfwr
52ywrrent yn fal rraniad twr
55afal a fag fil ai fwyd
56am perllan ywr mab hirllwyd
57pwmpa ar wyr da ywrvn
58bwn garned ben aig arnvn
59fal krab wrth aofal kroiwber
60fydd rrai or gywledydd ir gyler
61afal per werfvl eb pall
62afal svr oedd fylas arall
63afal gyrvfyd fal gyriffwn
64o goed ta fo gad twn

gvto or gylyn ai kant

Trefn y llinellau
1–52, [53–4], 55–64.

Nodiadau