BL 14866, 190r–192r
David Johns, 1586–7
BL 14866, 190r–192r
i ddiolch am bwrs

1Mawr ywr gair am y tairrodd
2mae un or hain mwy no rhodd
3menig pendefig Dafydd
4Ifor hael pwy ’n fwy ai rhydd?
5yr ail fy fodrwy Iollo
6a roesai fawd oi ras fo
7pwrs i minnau pris mwynwawd
8a roes merch un ras a mawd
9amner yw hwn mewn aur rhudd
10a frodies merch feredudd
11calennig haul y waneg
12Catrin dwf caterwen deg
13rhoddes ym bwrs a rhuddaur
14rhyw oedd i hon rhoddi i haur
15o lwyth Gwen gwehelyth gwyr
16ag o Einion ag Ynyr
17gwinwydd Ifionydd feinir
18gwynedd oedd hyn gwenddydd hisr
19gwisgodd rodd im gwasg oedd raid
20goffr sirig a phwrs euraid
21llyna bwrs am llaw’n i ben
22a ddanfonei ddyn feinwen
23pwrs hywerth paris waead
24prennol aur nis prynai’r wlad
25awenydd wyf yn i ddwyn
26a chywyddol merch axddwyn
27clerwr i wraig hael hirynt
28mam i gwr fym yma gynt
29mawr yw dawn y m mro Dannad
30mae duw yn rhoi am y da n rhad
31llaw weuryl oll i arall
32llyna ’r haelder yn lle r llall
33ni bo yno neb anael
34ni bu ’r cwrt na bai wraig hael
35na bo ’r mann heb aur a medd
36ni bwy finnau heb fannedd
37dan ddwy graig dwy annedd gras
38i bur gerdd a brig urddas
39craig Nannau lle bu ’r ddau dda
40craig hefyd Carreg Hofa
41maenor fwyn mae yno ’r ferch
42mwy i rhodd no chymar Rhydderch
43dyn a droes da ynn a drig
44dau alwar dduw nadolig
45melfed ym molaf y daith
46a damasg im cydymaith
47mae rhoddion ym or heiddi
48mae rhos aur ar fymhwrs i
49un faint ar y glun yw fo
50ag alwar anrheg Iollo
51o fewn hwn efo yw’n hai
52i mae annedd fy mwnai
53ty ’r gild ar tyrau goldwir
54tair llofft or ty arall hir
55llyna dlws llawen i dlawd
56llys im deufys am dwyfawd
57cwrt mawr nis ddwg grottiau man
58croes adail caerau sidan
59cwyts da aur caets aderyn
60ar gist aur wrth wregis dyn
61eres o goed a roes gwenn
62wrth vyssedd val perth voesen
63adafedd lloer dafydd llwyd
64a droes Deifr ar draws deufrwyd
65addwyna cwpl o ddynion
66yw’r llwyd hael ar lleuad hon
67hael yw fo i hawl a fydd
68hael i fun haul Ifionydd
69yr em aelfain or melfed
70a roes crair ar byrsau cred
71wyr Anna a ro einioes
72ir gwr hael ar wraig ai rhoes

Gytto or Glynn

Trefn y llinellau
1–72.

Nodiadau
Camrifwyd y llawysgrif; neidiwyd o 190v i 192r, gan golli 191 yn llwyr.