Pen 53, 67–70
llaw anhysbys, c.1484
Pen 53, 67–70
1Mae arovin am ryvel
2Morwyr pell mawr ywr apel
3A dyvot gwr devot gam
4O dir wttyl dewr attam
5Dygyvor y kefnor keu
6Drwy gyvyreith daroganneu
7O daw gwyr llychlin i dir
8Pob wyddyl pawb a leddir
9Ony bydd yvydd ovin
10Arveu da y orvot in
11Mynheu ar varch hybarch oedd
12Gwelw mawr yn gwylaw moroedd
13Ervei dadl eur vodd edlym
14Yr a vei o arveu ym
15Nyt oeddwn i dydd a nos
16Heb luryc abl y aros
17Reit ydiw kael ryddit ku
18Ryw vaylis kyno ryvelu
19My a wnaf rac blaenaf blyc
20Mawl y euryawl am luryc
21Ym eryr koeth mawr ywr kwyn
22Meith redef am ewythr advwyn
23Parawt o wawt ym y wyin
24Pwy ywr eurgarw por ergin
25Sein rywyawc synhwyr hueil
26Son draw alexander eil
27Ion flamlafn aer a phlymlwyt
28Abral a rydd wybrawl rwyt
29Arglwydd gwlat lwydd draw golutlaw
30A gwalch drut y gilwch draw
31Aelwyt cler olydawc glas
32Eil priaff ael bro eiras
33Mae o veirdd a phen keirddyon
34Mil ae swydd yn moli schon
35O haelder muner ym oedd
36O lewder ay oludoedd
37Ac nyd oedd ryvedd gan neb
38Moli schon melwas wyneb
39Ri gelyngat rugl angerdd
40Roi maer gwr rwymer gerdd
41Ossei ay glarei y gler
42Rwmnei ay aur oy omner
43Roi arveu goreu gwrawl
44A roi aur er hau mawl
45Pan glywo eil froll frank
46Aniwyt y nei ievank
47Amlwc heb ledwc bleit
48Am luryc ymmyl eureit
49Cofl ia glas kyfliw ae gledd
50Kaer wyt o ddur kyffroddedd
51Kaer ar gorf rac girr ar gyl
52Kot armer kadeu teirmyl
53Gwyskwyt ym ior gwaskawt meith
54Gwe vaelys da y gyveilyeith
55Goreu gwisc y wr a geit
56Gadwnawc y gadw eneit
57Trwn y gwart rwng trin a gwyl
58Twrn wydyt tyr wayw nawdryl
59Manawl o beth y plethwyt
60Mal rew a mwyawl y rwyt
61Magleu a chlymmeu a chlan
62Mil vilioedd mael o velan
63Mae kyfnewit prawit praf
64Rof ag abral rwyf gwiwbraf
65Rof yddaw gerdd a dric
66Rydyll aer roet y lluric

Y gutto o bywys ay kant

Trefn y llinellau
1–66.

Nodiadau