Chwilio uwch
 

Edward ap Dafydd o Fryncunallt, fl. c.1390–m. 1445, a’i deulu

Cadwyd dwy gerdd gan Guto sy’n ymwneud ag Edward ap Dafydd, penteulu Bryncunallt yn y Waun:

  • ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103);
  • ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104).

Ni cheir cerddi eraill i Edward. Canodd Guto gywydd marwnad i fab hynaf Edward, Robert Trefor (cerdd 105), ac yn ddiweddarach yn ei yrfa tystia iddo dderbyn nawdd gan Siôn Trefor, ail fab Edward, ond ni chadwyd y cerddi. Perthyn ei gerddi sydd wedi goroesi i deulu Bryncunallt i’r cyfnod rhwng y 1440au cynnar a 1452. Ymhellach ar feibion Edward, gw. isod.

Achres
Mae’r achres ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 13, 14, ‘Marchudd’ 6, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C1; HPF iv, 16. Nodir y rhai a enwir (neu y cyfeirir atynt yn achos Owain Glyndŵr) yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.

stema
Achres teulu Bryncunallt

Priododd y ddau frawd Iorwerth Ddu a Dafydd, meibion Ednyfed Gam, â dwy chwaer, Angharad a Gwenhwyfar, merched Adda Goch ab Ieuaf ab Adda ab Awr, gan ddod â dwy gangen o linach Tudur Trefor ynghyd. Mae’r ddisgynyddiaeth hon o Awr yn un a grybwyllir yn aml gan Guto yng nghyswllt y canu i’r teulu, o bosibl oherwydd y cyswllt tybiedig rhwng Awr a Threfor ger Llangollen, un o gadarnleoedd y teulu yn Nanheudwy (gw. 103.22n). Mab i Lywelyn, brawd Adda Goch, oedd Siôn Trefor a fu’n esgob Llanelwy 1346–57; mab i Angharad ferch Adda Goch (gwraig Iorwerth Ddu) oedd yr ail Siôn Trefor a ddaliodd yr un swydd yn 1394–1410. (Gw. Jones 1965: 38; Jones 1968: 36–46; am ganu Iolo Goch i un neu’r ddau ohonynt, gw. GIG 275–6.) Roedd yr ail Esgob Siôn Trefor hwn, felly, yn frawd i Fyfanwy y canodd Hywel ab Einion Lygliw awdl serch iddi cyn iddi briodi Goronwy Fychan o Benmynydd.

Drwy briodi Angharad ferch Robert Pilstwn, sicrhaodd Edward ap Dafydd berthynas agos â dau arall o brif deuluoedd yr ardal, sef teulu’r Pilstyniaid ar y naill law, gyda’u prif gartref yn Emral ger Wrecsam (gw. ymhellach Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern a Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral), a theulu Owain Glyndŵr ar y llall, hen deulu Cymraeg a allai olrhain ei linach yn ôl i dywysogion Powys a Gwynedd. Mae Guto yn ofalus i atgoffa’i gynulleidfa o’r cysylltiadau hyn (e.e. 103.23–6).

Mae’n ddigon posibl na fu Edward ei hun yn noddwr barddoniaeth, ac mai drwy ei wraig, Angharad ferch Robert Pilstwn, y daeth beirdd i ymweld ag aelwyd Bryncunallt. Ond yn sicr bu o leiaf ddau o’i feibion, Robert Trefor a Siôn Trefor, yn noddwyr beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn a Gutun Owain (gw. isod).

Ei ddyddiadau
Gallwn fod yn weddol hyderus am ddyddiad marw Edward. Yn Pen 26, 97–8, ceir dalen strae yn cynnwys nodiadau cyfoes mewn gwahanol lawiau yn dyddio rhwng 1439 a 1461 sy’n ymwneud ag ardal Croesoswallt. Cyfeiria’r cofnodion yn benodol at aelodau o deulu Trefor o Fryncunallt, ac awgryma hyn mai aelodau o’r teulu hwnnw a fu’n cofnodi. Nodir yno i Edward farw ar 25 Ebrill 1445: Obitus Edwardi ap Dafydd in festo Marci evengeliste anno domini MCCCXLV (gw. Phillips 1970–2: 76). Mae’r cyfeiriad cynharaf ato mewn dogfen wedi ei dyddio 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629), a gallwn dybio iddo gael ei eni o leiaf 15–20 mlynedd cyn hynny. Roedd yn ei saithdegau o leiaf, felly, yn y 1440au pan ganodd Guto iddo a’i bedwar mab (cerdd 103), ac er ei alw’n benadur y teulu (103.59), mae’n amlwg mai ei fab hynaf, Robert Trefor, oedd pennaeth effeithiol y teulu erbyn hynny. Yn ei farwnad (cerdd 104), er mynegi tristwch mawr yr ardal o golli’r fath arweinydd dysgedig ac effeithiol, cadarnhaol yw’r neges, a’r ffocws ar y dyfodol diogel yn nwylo’r meibion. Gallwn dybio nad oedd ei farwolaeth yn annisgwyl.

Tiriogaeth
Fel y gwelir o’r achres uchod, roedd Dafydd, tad Edward, yn fab i Ednyfed Gam o Bengwern, sef penteulu un o brif deuluoedd Nanheudwy, ac un a ddatblygodd yn fawr mewn awdurdod a grym yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy berchnogi tir: ‘By the fourteenth century the family of Ednyfed Gam, described in the genealogies as “of llys Pengwern in Nanheudwy”, already stood out as substantial members of the lordship’s free community’ (Smith 1987: 177). Erbyn diwedd y ganrif roedd tiroedd helaeth ganddynt yn Nanheudwy, yn enwedig yn ardaloedd y Waun, Trefor a Llangollen.

Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391/2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion. Iorwerth Ddu, y mab hynaf, a oedd wedi etifeddu cartref hanesyddol y teulu ym Mhengwern, Llangollen, ac roedd hefyd yn gyd-berchennog gyda’i frawd Ieuan ar bedwar gafael ac un castell (term am fesur o dir) yn nhrefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 58–9). Dengys yr arolwg ymhellach fod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar un gafael a hanner yn nhrefgordd Bryncunallt ac ar felin o’r enw Grostith yn yr un drefgordd (ibid. 9). Ymddengys hefyd fod Dafydd yn berchen ar y Plas Teg yn yr Hôb, lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol (Glenn 1925: 23).

Dysg a gyrfa
Mae’n amlwg o foliant Guto iddo fod Edward yn ŵr tra dysgedig, ac mae’r cyfeiriad penodol at ei arbenigedd ym maes y ddwy gyfraith (sifil ac eglwysig) a’r celfyddydau yn awgrymu addysg prifysgol, er nad oes unrhyw dystiolaeth allanol i ategu hynny (gw. yn arbennig 104.9–10, 21–32). Mae’n ddigon tebygol fod Edward wedi derbyn rhywfaint o’i addysg yn abaty Glyn-y-groes (sef y math o addysg a ddisgrifir yn Thomson 1982: 76–80) neu o bosibl yn ysgol Croesoswallt, a fu’n ffynnu ers blynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif (Griffiths 1953: 64–6 et passim). Gwyddom fod gan ganghennau Pengwern a Threfor o’r teulu gysylltiadau cryf â’r abaty, oherwydd claddwyd yno sawl aelod ohonynt, gan gynnwys Robert Trefor ab Edward (m. 1452), ac mae’n debygol hefyd mai yno y claddwyd Edward ei hun (gw. CTC 362, ond ni roddir ffynhonnell yr wybodaeth honno).

Nid oes tystiolaeth uniongyrchol wedi goroesi i rôl Edward yng nghyfraith a gweinyddiaeth y Waun, ac eithrio awgrym cryf Guto i’r perwyl hwnnw (cerdd 104). Ond mae’r ffaith fod ei enw’n ymddangos yn achlysurol mewn dogfennau’n ymwneud â throsglwyddo tir yn yr ardal yn dyst i’w statws yn y gymdeithas: e.e. fe’i henwir mewn dogfen a luniwyd yn y Waun ar 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629); roedd yn dyst i ddogfen yn cofnodi trosglwyddo tir a luniwyd yn Nhrefor ar 15 Mai 1391 (Jones 1933: 93); roedd yn dyst i ddogfen gyffelyb yn Nhrefor Isaf ar 29 Medi 1411 (LlGC Bettisfield 977); ac enwir ef a’i fab Robert yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy yn 1441 (LlGC Puleston 935). Mae’n bosibl hefyd mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i ddogfen ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall mai ei fab oedd hwnnw. Fel sawl aelod o’r teulu hwn, cymerodd Edward hefyd ran yng ngwrthryfel a bu’n rhaid iddo fforffedu nifer o’i ddaliadau i’r arglwydd; fodd bynnag adferwyd trefn erbyn 1407, ac ar ôl iddo dalu dirwy o ugain punt adferwyd ei diroedd iddo (Carr 1976: 27).

Robert Trefor ab Edward, fl. c.1429–m. 1452
Mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd. Arno, gw. Robert Trefor.

Siôn Trefor ab Edward, fl. c.1440–m. 1493
Siôn Trefor (neu Siôn Trefor Hen, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a nifer o’i ddisgynyddion â’r un enw) oedd ail fab Edward ap Dafydd, ac ef a ddaeth yn benteulu Bryncunallt ar farwolaeth ei frawd hŷn, Robert Trefor, yn 1452. Fe’i henwir yn y tair cerdd a gadwyd gan Guto i’r teulu hwn (cerddi 103–5), ac mae’n ddigon posibl mai dan ei nawdd ef y canodd Guto ei farwnad i Robert Trefor (cerdd 105). Er na chadwyd unrhyw gerddi gan Guto i Siôn ar ôl 1452, mae’n bosibl iddo fod yn noddwr iddo ar hyd ei yrfa. Tystia Guto ar fwy nag un achlysur yn y 1480au mai Siôn Trefor, a drigai ym Mhentrecynfrig erbyn hynny, oedd un o’i brif noddwyr (gw. 108.20, 117.56). Anodd credu na fyddai Guto wedi canu cerdd farwnad i Annes, gwraig Siôn, yn 1483, a dichon fod y gerdd honno, fel y gweddill o’i ganu ar yr aelwyd hon, wedi ei cholli. Canodd Gutun Owain i Siôn Trefor ac Annes ym Mhentrecynfrig, ac i’w meibion hefyd; felly hefyd Lewys Môn, Tudur Aled ac Ieuan Teiler. Cadwyd y cerddi canlynol iddynt:

  • ‘Marwnad Annes Trefor o Bentrecynfrig’ gan Gutun Owain, 1483, GO XXXV;
  • ‘Cywydd marwnad Siôn Trefor’, 1493 gan Gutun Owain, GO XXXVI;
  • ‘Cywydd y tri brodyr, meibion Trefor’ (Otwel, Robert (Rhapat) ac Edward) gan Gutun Owain, cyn 1487, GO XXXVII;
  • ‘Marwnad Robert Trefor o’r Hôb’ gan Gutun Owain, 1487, GO XXXVIII;
  • ‘Moliant Edwart Trefor Fychan’ gan Lewys Môn, GLM LXXV;
  • ‘Cywydd i Edwart Trefor’ gan Dudur Aled, TA LI;
  • ‘Cywydd i Rhosier, Rhisiart ac Edward, meibion Siôn Trefor’ gan Ieuan Teiler, ar ôl 1487, Pen 127, 257.

Mydryddir dyddiad marw Siôn Trefor, 1493, yng nghywydd marwnad Gutun Owain (GO XXXVI.23–30), sef dydd Gwener, 6 Rhagfyr 1493, a nodir mai ar y dydd Sul canlynol y claddwyd ef. Cadarnheir y dyddiad marw mewn cofnod yn Pen 127, 15: Oed Crist pann vv varw John trevor ap Edwart ap dd 1493 duw gwner (sic) y vied dydd o vis Racvyr. Bu farw Annes, gwraig Siôn, ddeng mlynedd ynghynt yn 1483 (GO 202). Bu iddynt bum mab, fel y gwelir o’r achres isod, a bu farw Otwel yn ifanc a bu Robert Trefor farw yn 1487. Enwir pedwar mab – Robert, Siôn, Edward a Rhisiart Trefor – fel bwrdeisiaid yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12), awgrym efallai fod Otwel wedi marw cyn Robert. Yn ei farwnad i Siôn Trefor yn 1493, enwodd Gutun Owain dri mab – Enwoc Edwart, … / Rroeser a ddwc aur rrossynn, / Rrissiart … (GO XXXVI.49, 51–2) – ac roedd wyrion hefyd (ibid. 53 Y mae ŵyrion i’m eryr). Gan nad yw Ieuan Teiler yn enwi Otwel na Robert Trefor yn ei gywydd ef, efallai i’r gerdd honno gael ei chanu ar ôl marwolaeth Robert yn 1487. Priododd Edward, a elwir weithiau’n Edward Trefor Fychan, ag Ann ferch Sieffrai Cyffin, a mab iddynt hwy oedd Siôn Trefor Wigynt y canodd Huw Llwyd iddo’n ddiweddarach (GHD cerddi 25, 26).

Achres
Mae’r achres hon yn seiliedig ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 14 a WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C2. Tanlinellir enwau’r noddwyr a nodir â theip trwm y rhai a enwir yng ngherddi 103–5.

stema
Achres Siôn Trefor

Yn ôl yr achau roedd dau o feibion Siôn Trefor, Rhisiart a Rhosier, yn efeilliaid. Roedd hefyd ddwy chwaer, sef Elen a Chatrin, nas henwir yn yr un o’r cerddi.

Ei gartref
 Bryncunallt yn y Waun y cysylltir Siôn Trefor yn y cerddi a ganodd Guto rhwng c.1440 a 1452 (cerddi 103–5), ond ymddengys mai ym Mhentrecynfrig yr oedd ei brif gartref erbyn y 1480au, sef trefgordd rhwng Weston Rhyn a Llanfarthin, tua 2km i’r de o’r Waun, bellach yn swydd Amwythig. Pan ganodd Gutun Owain ei farwnad i Annes, cyfeiriodd yn benodol at alar Pentrecynfrig: Trais Duw a ’naeth, – trist yw ’nic, – / Trai canrodd Penntre Kynwrric (GO XXXV.5–6). Ac wrth farwnadu Siôn Trefor ei hun ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er ei gysylltu hefyd â’r Waun Isaf, Bryncunallt a Chroesoswallt, ym Mhentrecynfrig yr oedd y galar ar ei lymaf: Oer galon a wna’r golwg / Yn wylo mal niwl a mwc. / Ni welaf eithyr niwlen / Y’mric Penntref Kynnric henn (GO XXXVI.31–4).

Dysg a gyrfa
Yn ei farwnad i Edward ap Dafydd, rhestra Guto’r nodweddion yn y tad a etifeddwyd gan ei feibion. Siôn Trefor, medd, a etifeddodd ddiddordebau ysgolheigaidd Edward. Ceir rhywfaint o gadarnhad allanol hefyd i hynny, oherwydd credir bellach mai Siôn a fu’n gyfrifol am gyfieithu ‘Buchedd Martin’ i’r Gymraeg (nawddsant Llanfarthin, ger Pentrecynfrig), a cheir copi o’r cyfieithiad hwnnw yn llaw Gutun Owain yn LlGC 3026C (gw. Owen 2003: 351; Jones 1945; a hefyd 104.43–4). Wrth ganu marwnad Siôn, pwysleisiodd Gutun Owain safon dysg yr athro mawr (GO XXXVI.6 et passim). Yn ei dro, trosglwyddodd Siôn y diddordebau hyn i’w fab yntau, Robert Trefor o’r Hôb, a ddisgrifiwyd gan Gutun Owain fel Kerddwr, ysdorïawr oedd / O’n heniaith a’n brenhinoedd (GO XXXVIII.29–30).

Ymddengys enw Siôn Trefor yn aml mewn dogfennau cyfoes, ond os yw’r enw yn digwydd heb enw’r tad, anodd bod yn gwbl sicr mai ato ef y cyfeirir, yn hytrach nag at un o sawl perthynas o’r un enw. Fe’i henwir ynghyd â phum gŵr a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Siôn Hanmer, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51), fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun i dderbyn comisiwn, 7 Gorffennaf 1461 (CPR 1461–7, 37). Ar 21 Medi 1474, cyfeirir ato fel rysyfwr yn swydd y Waun ac fel tyst i weithred yn trosglwyddo tir i Siôn Edward (LlGC Castell y Waun 1077); ac eto ar 3 Chwefror 1488 (ond nid fel rysyfwr y tro hwn) (LlGC Castell y Waun 9885).

Edward ab Edward, fl. ?1427– c. ?1475
Gallwn gasglu mai Edward oedd trydydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar yng ngherddi 103, 104 ac yn yr achau. Nodir yn yr achau hefyd iddo briodi’r Arglwyddes Tiptoft ac na fu iddynt blant. Yn ôl Guto, Edward a etifeddodd gryfder corfforol ei dad: Ei faint a’i gryfder efô / Mewn Edwart mae’n eu ado (104.45–6). Ni chafwyd cyfeiriad arall ato yn y farddoniaeth, ond fe’i henwir gyda’i frodyr Robert, Siôn a Rhisiart Trefor fel bwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Mae’n bosibl mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i weithred ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall hefyd mai ei dad oedd hwnnw.

Rhisiart ap Edward, fl. c.1440–68
Gallwn gasglu mai Rhisiart oedd pedwerydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar mab yng ngherddi Guto (gw. uchod ar Edward ab Edward). Fe’i henwir yntau’n fwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif ynghyd â’i frodyr Robert, Siôn ac Edward (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Ymddengys mai Rhisiart a etifeddodd bryd a gwedd ei dad: Ac i Risiart, ’yn Groeswen, / Ei liw a’i sut a’i lys wen (104.47–8). Ar sail y cwpled hwn, awgrymwyd y gall fod Rhisiart Trefor wedi etifeddu llys yn y Dre-wen (Whittington) (cf. Carr 1976: 49n178 a 104.47n). Cofnodir iddo fod yn gwnstabl ar gastell y Dre-wen yn 1468 (LlGC Castell y Waun F 9878).

Ceir yn y llawysgrifau ddwy gerdd, y naill wedi ei phriodoli i Rys Goch Glyndyfrdwy a’r llall i Ruffudd Nannau, sy’n sôn am garchariad Ithel a Rhys, meibion Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, gan Risiart Trefor. Ceir yr esboniad hwn yn Pen 177, 199: Ithel a Rys meib I. Vychan ap Ieuan a aethant i gastell y Drewen ddvw gwener gwyl Gadwaladr y XIIed dydd or gayaf ac a vvant yno hyd difie kyn awst O.K. 1457 (sef o 12 Tachwedd 1456 hyd 28 Gorffennaf 1457). Ni allwn fod yn sicr o’r amgylchiadau, ond cynigia Carr (1976: 39–40; cf. Charles 1966–8: 78) mai oherwydd eu cefnogaeth i’w cyfyrder, Siasbar Tudur, a phlaid Lancastr y’u carcharwyd gan Risiart, a gefnogai blaid Iorc. Yn ei gerdd, mae Rhys Goch Glyndyfrdwy yn annog y lleuad i chwilio am y brodyr yng nghestyll Lloegr, gan ofyn i Dduw eu dychwelyd yn ddiogel o’r Dre-wen (dyfynnir o destun LlGC 8497B, 190v–191v, gan briflythrennu ac atalnodi):

Ysbied, chwilied yn chwyrn
Gestyll Lloegr, gorffwyll gyrn,
Am frodvr o Dvdvr daid,
Ithel a Rhys benaythiaid
Y sydd yn yr ynys hon
Yryrod, garcharorion …
Duv a ddwg i’n diddigiaw
Dav vn ben o’r Drewen draw.

Byddai’n braf gwybod beth oedd safbwynt Guto’r Glyn ar yr helynt hwn. Tybed ai gyda theulu Pengwern y bu ei gydymdeimlad? Ai dyna paham na cheir rhagor o gerddi i deulu Bryncunallt ym mlynyddoedd canol ei yrfa? (Gw. ymhellach nodyn cefndir cerdd 106 a 48.38n, Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, ac ymhellach ar gerddi Rhys Goch Glyndyfrdwy a Gruffudd Nannau, gw. Bowen 1953–4: 119–20).

Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1953–4), ‘Carcharu Ithel a Rhys ab Ieuan Fychan’, Cylchg LlGC viii: 119–20
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel noddwyr y beirdd’, LlCy 9: 74–110
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Griffiths, G.M. (1953), ‘Educational Activity in the Diocese of St. Asaph, 1500–1650’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, III: 64–77
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Jones, E.J. (gol.) (1945), Buchedd Sant Martin (Caerdydd)
Jones, E.J. (1968), ‘Bishop John Trevor (II) of St. Asaph’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, XVIII: 36–46
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Owen, M.E. (2003), ‘Prologemena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026, Mostyn 88 a’i Harwyddocâd’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, Cylchg HSDd 26: 153–5
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Smith, Ll.O.W. (1970), ‘The Lordships of Chirk and Oswestry 1282–1415’ (Ph.D. University of London)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3: 76–80