Diddordebau uchelwyr
Yr oedd gampau ar Ieuan I’w garu mwy no’r gwŷr mân: Ar Ieuan deg a’i rôn dur Y perthyn campau Arthur. (cerdd 106.37-40) Roedd disgwyl i uchelwyr Cymru feistroli campau penodol yng nghyfnod Guto'r Glyn, gan gynnwys rhai corfforol a meddyliol, chwarae gemau bwrdd, campau corfforol a hela. Addysgid rhai o’r noddwyr nes eu bod yn hyddysg mewn dysg a llên ac roedd ganddynt hefyd ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth. Wrth gwrs, roedd eu byd ym ymwneud â chyraeddiadau arbennig gan fod eu statws o fewn y gymdeithas mor bwysig, ac felly, wrth ganmol y doniau hyn yn y cerddi iddynt, roedd y beirdd yn pwysleisio eu statws uchel. Mae’n rhaid fod gan yr uchelwyr glust dda hefyd - un o’r pedair camp ar hugain y disgwylid iddynt eu dysgu oedd tiwnio telyn! Perthyn y rhestr o’r pedair camp ar hugain i’r unfed ganrif ar bymtheg (yn llaw Gruffudd Hiraethog ym Mheniarth 155), ond mae’n amlwg o ran tystiolaeth y beirdd fod dysgu’r campau hyn yn digwydd cyn hynny. Roedd yna gampau corfforol (gw. Gemau): 1. cryfder 2. rhedeg 3. neidio 4. nofio 5. ymafael 6. marchogaeth 7. saethu 8. chwarae cleddyf a bwcled 9. chwarae cleddau deuddwr 10. chwarae ffon ddwybig Campau yn ymwneud â hela (gw. Hela): 11. hela â milgi 12. hela pysg 13. hela aderyn Campau a ystyrid yn ddiwylliannol (gw. Dysg a llên a Statws a herodraeth): 14. barddoniaeth 15. canu telyn 16. darllen Cymraeg 17. tynnu arfau 18. herodraeth 19. canu cywydd gan dant 20. canu cywydd pedwar ac acennu Campau a elwid yn ‘gogampau’ a ymwnâi â chwarae gemau (gw. Gemau): 21. chwarae gwyddbwyll 22. chwarae tawlbwrdd 23. chwarae ffristial 24. cyweirio telyn. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru