Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris, fl. ail hanner y bymthegfed ganrif
Nid oes cerdd wedi goroesi gan Guto’r Glyn i Ddafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ger Llandegla yn Iâl, ond wrth ganu i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes yn negawd olaf ei yrfa, dywed wrthym fod Dafydd yn un o’i brif noddwyr ar y pryd. Yn ei gywydd yn gofyn am ychen ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor, gofynna Guto am ddau ych yr un gan bedwar noddwr, sef yr Abad Dafydd, Siôn Edward o Blasnewydd, Siôn Trefor o Bentrecynfrig a Dafydd Llwyd: Dafydd, lliw dydd, Llwyd o Iâl / Dewrder a chlod ei ardal, / Haelaf a gwychaf o’r gwŷr / Ond y tad, oen Duw, Tudur (108.33–6; a’r llinell olaf yn awgrymu o bosibl fod tad Tudur ar dir y byw). Mewn cywydd arall, enwa Guto’r un pedwar noddwr eto, gan gyfeirio’n arbennig at y croeso cynnes a gâi yn llys Dafydd Llwyd: Llys Dafydd, dedwydd yw’r daith, / Llwyd o Iâl, lle da eilwaith (117.59–60).
Cadwyd y cerddi canlynol gan feirdd eraill i Ddafydd Llwyd:
cywydd moliant gan Gutun Owain (GO cerdd XL)
cywyddau marwnad gan Gutun Owain (ibid. cerdd XLI) a Thudur Aled (TA cerdd LXXIV).
Cadwyd cerddi gan feirdd eraill, fodd bynnag, i ddau o feibion Dafydd Llwyd, Tudur Llwyd a Siôn Llwyd. Dyrchafwyd Siôn yn abad Glyn-y-groes yn dilyn marwolaeth yr Abad Dafydd ab Ieuan yn 1503. Canodd tri bardd farwnad i Dudur Llwyd a fu farw, yn ôl pob tebyg, oherwydd gwenwyn yn y gwaed ar ôl cael fflaw yn ei fys (GLM LXVIII.11–12):
Siôn ap Hywel (GSH cerdd 8)
Tudur Aled (TA cerdd LXXIX)
Lewys Môn (GLM cerdd LXVIII).
Cadwyd pedair cerdd i Siôn Llwyd, yr abad:
awdl foliant gan Dudur Aled (TA cerdd I; CTC 161)
cywydd moliant gan Dudur Aled (ibid. cerdd XXVIII; CTC 167)
cywydd ‘I ofyn crythor ac ofni ei gael’ gan un ai Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan neu Siôn Phylib (CTC 158)
cywydd moliant gan Lewys Môn (GLM cerdd LXVII; CTC 165).
Achres Seilir yr achres ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Sandde Hardd’ 10; WG2 ‘Sandde Hardd’ 10A; GO 223. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Llinach Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris
Priododd Dafydd Llwyd â Mallt, aeres Gronw ab Ieuan ap Dafydd Llwyd o Hafod-y-bwch a Bers, yn 1468–9; disgynnai hi o deulu’r Hendwr (GO 223, 225 a Pen 287, 349). Priododd eu mab, Tudur Llwyd, â Chatrin ferch Siôn Edward o Blasnewydd yn y Waun, un o’r pedwar noddwr y cyfeiriodd Guto atynt mewn cerddi ar ddiwedd ei oes, fel y gwelwyd uchod.
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru