Canwyd cerdd 78 i Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, yr unig gerdd iddo a oroesodd.
Achres Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Gruffudd ap Cynan’ 4, ‘Rhys ap Tewdwr’ 8; Cokayne 1887–98: 608–20; DNB Online s.n. John Talbot (‘first earl of Shrewsbury’), John Talbot (‘second earl of Shrewsbury’), William de Briouze. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng nghywydd Guto, a thanlinellir enw ei noddwr.
Achres Siôn Talbod, ail iarll Amwythig
Nodir yn achresi Bartrum fod Matilda’n ferch i ŵr o’r enw Reginald Brewys. Nid yw’n eglur ai’r un gŵr ydoedd â gŵr cyntaf Gwladus Ddu ferch Llywelyn Fawr, nac ychwaith a oedd Matilda’n ffrwyth yr uniad hwnnw, ond hynny sydd debycaf. Roedd gan Talbod hanner brodyr a hanner chwiorydd o ail briodas ei dad â Margaret Beauchamp, sef John, Humphrey, Lewis, Eleanor ac Elizabeth.
Ei yrfa Crynhoir isod yr wybodaeth a geir yn DNB Online s.n. John Talbot (‘second earl of Shrewsbury’). Roedd noddwr Guto’n fab i’r enwog Siôn Talbod, iarll cyntaf Amwythig (c.1387–1453), a enillodd fri fel rhyfelwr ffyrnig ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd (arno, gw. ibid. s.n. John Talbot ‘first earl of Shrewsbury’; Pollard 1983). Ni ellir cymharu gyrfa’r mab ag eiddo ei dad o ran milwriaeth, ond chwaraeodd yr ail iarll ran flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Prydain yn ystod blynyddoedd cyntaf cythryblus Rhyfeloedd y Rhosynau. Cafodd ei urddo’n farchog yn 1426 a phriododd ag Elizabeth ferch James Butler, pedwerydd dug Ormond, yn 1445. Fe’i penodwyd yn ganghellor y Goron yn Iwerddon o 1445 i 1448 ac o c.1450 ymlaen. Ac yntau’n Lancastriad fel ei dad a’i daid, bu’n gymharol weithgar yn ei wrthwynebiad i’r Iorciaid o 1453 ymlaen ac yn ŵr amlwg yng nghwrt Harri VI. Ef oedd trysorydd Lloegr o 1456 i 1458 ac roedd yn gynghorydd i dywysog Cymru yn 1457. Yn yr un flwyddyn fe’i gwnaethpwyd yn aelod o Urdd y Gardas, ac roedd yn brif ynad swydd Gaer yn 1459. Bu farw’n ymladd ym mhlaid y Goron yn erbyn yr Iorciaid ym mrwydr Northampton ar 10 Gorffennaf 1460, ac fe’i claddwyd ym mhriordy Worksop yn swydd Nottingham.
Nid oedd perthynas Talbod a’i dad yn arbennig o agos. O 1434 ymlaen aeth Siôn Talbod, iarll cyntaf Amwythig, ati i drefnu ei ewyllys er mwyn rhoi ffafriaeth i’w ail wraig, Margaret ferch Richard Beauchamp, dug Warwick, ac i’w plant. O ganlyniad, roedd perygl y byddai Siôn Talbod, ei fab hynaf o’i briodas gyntaf, yn colli rhannau helaeth o’i etifeddiaeth. Ond pan fu farw’r iarll cyntaf yn 1453, llwyddodd Talbod i gadw ei afael ar ei etifeddiaeth lawn. Diddorol yw ystyried cywydd Guto yng ngoleuni’r anghydfod rhwng y tad a’r mab, oherwydd y tebyg yw ei fod yn perthyn i’r cyfnod c.1437–45, pan oedd ymdrechion y tad i rannu ei waddol rhwng ei feibion ar eu hanterth. Neilltuir chwe llinell o fawl i’r tad yn y gerdd, a chyngor Guto i’r mab mewn perthynas â’i dad yw Dysg wrthaw (78.9–14). Tybed pa mor barod oedd Talbod i dderbyn y cyngor hwnnw?
Llyfryddiaeth Cokayne, G.E. (1887–98), The Complete Peerage, vol. XII (London) Pollard, A.J. (1983), John Talbot and the War in France, 1427–1453 (London)
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru