databas cerddi guto'r glyn

Gwasanaethau


Prif wasanaeth yr Eglwys Gatholig oedd Gwasanaeth yr Offeren. Mewn eglwysi mawr byddai hon ar gân, gyda’i cherddoriaeth, ei gwisgoedd a’i lliwiau ysblennydd yn cyfrannu at ei gwneud yn seremoni wefreiddiol.
A priest with a deacon celebrating Mass in an illustartion in the Sherbrooke Missal (NLW MS 15536E, f.233v.a), c.1310 - c.1320 (Digital Mirror).
Celebrating Mass
Click for a larger image

Lladin oedd iaith yr Offeren yn y cyfnod hwn. Yr offeiriaid a’u gweision a’r côr yn unig a oedd yn cymryd rhan a’r gynulleidfa yn gwrando ac yn gwylio. Roedd cynnwys yr offeren yn amrywio ond fe ddarllenid yr efengyl ac adrodd Gweddi’r Arglwydd. Credid bod lles gwirioneddol i’r enaid a’r corff o fynychu offeren a phechod mawr oedd peidio â’i mynychu. Ceir disgrifiad o’r Offeren mewn cerdd gan y bardd Ieuan ap Rhydderch.[1] Ceir hefyd ddarluniau o allorau mewn llawysgrifau (gyda chysylltiadau Cymreig) ac un yn arbennig sy’n darlunio Rhisiart II yn gwisgo cwfl du a gŵn coch yn ystod yr Offeren yn abaty Aberconwy yn 1399.[2]

Roedd y Cymun Bendigaid yn rhan bwysig o’r gwasanaeth, ond yn wahanol i heddiw, yn achlysurol yn unig y derbyniai lleygwyr y Cymun yn yr Oesoedd Canol. Yn ystod y Cymun byddai’r gynulleidfa’n bwyta bara a gwin a hynny oherwydd i Grist ei alw ei hun yn fara Duw ac oherwydd i’r credinwyr fwyta bara ac yfed gwin i goffáu drylliad corff a thywalltiad gwaed Crist (Marc 14:22—4, 1 Cor 11:23-5). Gelwid y bara hwn yn afrlladen, sef haenen denau o fara gwyn cysegredig. Roedd y gwin yn symbol o waed Crist ac fe’i hyfid o gwpan arbennig. Enw’r cwpan hwn oedd y caregl (‘chalice’ yn Saesneg), sef cwpan cain a ddodid ar ganol lliain gwyn ar yr allor. Mae ambell gwpan cymun, ynghyd â llestri eraill megis plât cymundebol a chriwetau i ddal dŵr a gwin, wedi goroesi o rai eglwysi yng Nghymru. Ceir cwpan cymun arbennig o ddiwedd y bymthegfed ganrif o eglwys Sant Eilian, sir Ddinbych, sydd â delwedd o’r Croeshoeliad wedi ei engrafio arni.[3] Roedd y rhain wedi eu creu o ddeunydd arian gan amlaf gan eu bod yn llestri seremonïol.

Collwyd nifer helaeth o’r trysorau hyn yn ystod diddymiad y mynachlogydd; cludwyd rhai i wahanol rannau o’r wlad er diogelwch. Mae’r farddoniaeth, felly, yn dystiolaeth werthfawr eu bod yn cael eu defnyddio ar un adeg. Yn ei foliant i Groesoswallt, sonia Guto fod yn yr eglwys yno gwpan cymun arbennig iawn, Gorau eglwys gareglwych ‘yr eglwys orau a gwych ei chwpan cymun’ (cerdd 102.27). Sonia hefyd am aur lestri yn abaty Ystrad Fflur yn ystod cyfnod yr Abad Rhys (cerdd 8.59), ac yng nghyfnod abadaeth Dafydd ab Ieuan yn abaty Glyn-y-groes mae’n debyg fod cwpanau cymun o aur yno:

 Eurodd, adeilodd y delwau – a’r côr 
 A’r cerygl a’r llyfrau; 
Bu iddo oreuro a llunio’r delwau a’r gangell
a’r cwpanau Cymun a’r llyfrau;

(cerdd 113.13-14)


Roedd offeren arbennig weithiau’n cael ei chynnal, megis yr offeren a oedd yn anrhydeddu pum clwyf Crist; fe’i gelwid yn Saesneg yn ‘Mass of the Five Wounds’. Yn ystod yr offeren hon byddai’r eirchiad yn cynnau pum cannwyll. Bu defosiwn mawr i glwyfau a gwaed Crist yn y bymthegfed ganrif, yn enwedig i’r clwyf yn ei ystlys.[4] Cyfeiria’r beirdd yn aml at y waywffon a achosodd y clwyf hwn. Mae Guto’n crybwyll y chwedl am y gŵr dall o’r enw Longinus a wanodd ystlys Crist ar y groes (ac a gafodd ei olwg yn ôl drwy rym gwyrthiol Ei waed):

Aeth dall â gwayw i’th dyllu, 
I’r gwaed ir â’r gwayw du. 
Cymerodd gŵr dall waywffon i’th drywanu
i’r gwaed ir â’r boen chwerw.

(cerdd 69.7-8)


Gwasanaeth arall oedd yn rhan o fywyd yn y cyfnod hwn oedd Offeren y Meirw. Roedd hon yn cael ei pherfformio ddengwaith ar hugain er lles enaid yr ymadawedig a thelid yr hyn a elwir yn trental (benthyciad o’r Saesneg ‘trental’) i sicrhau hynny gan yr unigolyn cyn iddo farw.[5] Yn ystod Offeren y Meirw, lledaenid lliain dros arch y sawl a fu farw yn ystod yr offeren a cheir awgrymiadau mai lliw’r lliain gan amlaf oedd porffor gan mai hwnnw oedd y lliw litwrgïol a gyfleai benyd neu alar. Gan fod canu marwnad hefyd yn digwydd yn fuan wedi marwolaeth noddwr, mae’r beirdd weithiau yn nodi man claddu’r sawl a fu farw, ac awgryma Edwards fod y farwnad yn rhan bwysig o’r ysbaid hon a dreulid yn canu Offeren y Meirw.[6] Claddwyd Meurig Fychan a’i wraig Angharad o Nannau yn abaty Cymer yn ôl Guto, ac mae hefyd yn nodi man claddu sawl noddwr arall. Claddwyd Gweurful ferch Madog o Abertanad yn nghangell eglwys Sant Mihangel yn Llanyblodwel, er enghraifft (cerdd 88.44), ac Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad yn eglwys Pennant Melangell (cerdd 42.25).

Bibliography

[1]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth, 2003), cerdd rhif 7; cf. E. Duffy, The Stripping of the Altars (Yale, 2005), 91-130.
[2]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 198.
[3]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol, 177.
[4]: D. Gray, ‘The Five Wounds of Our Lord’, Notes and Queries, CCVIII (1963), 50-1, 82-9, 127-34, 163-8.
[5]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a’i Deulu (Aberystwyth, 2000), 39; ODCC³ 135; E. Duffy, The Stripping of the Altars (Yale, 2005), 370.
[6]: H.M. Edwards, ‘Dwyn marwnadau adref’, Llên Cymru, 23 (2000), 21-38.
>>>Gwŷr eglwysig
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration