databas cerddi guto'r glyn

Porthmona


Yr unig ffordd o symud anifeiliaid ar gyfer eu gwerthu yng nghyfnod Guto oedd trwy eu cymell yn araf ar hyd y ffyrdd. Cywydd diddorol iawn o waith Guto yw ‘Porthmona’ lle disgrifia ei daith yn gyrru neu’n porthmona ŵyn ei noddwr, Syr Bened, o’i gartref yng Nghorwen i bellafion Lloegr (cerdd 44). Er bod marchnadoedd anifeiliaid pwysig yng Nghymru, roedd yn rhaid teithio ymhellach i gael prisiau gwell, yn enwedig gan fod nifer o’r trefi marchnad yng Nghymru yn dal i ddioddef yn economaidd yn sgil gwrthryfel Glyndŵr. Am fwy o wybodaeth am y marchnadoedd gw. Gazetteer of Markets and fairs in England and Wales to 1516.
This medieval map of Britain, called 'the Gough Map', was created in the 14th century.
A medieval map of Britain
Click for a larger image

Gallai rhai o’r teithiau, felly, fod yn hir iawn, ac un anhawster amlwg fyddai’r tollau a godid ar nwyddau wrth groesi pontydd, megis pont Montford ar y ffordd i Amwythig neu doll Henffordd a godid ar nwyddau a groesai’r hen bont ar Wy.[1] Ceir cofnod am wartheg yn cael eu cyrchu’r holl ffordd o Wrecsam i Suffolk yn 1463,[2] ac yng nghanol Rhyfeloedd y Rhosynnau darparwyd cyflenwad o gig o wartheg Cymreig i filwyr Seisnig yn Ffrainc ar ôl cyrchu’r gwartheg o Gymru i Lundain.[3] Mae’n anodd iawn dyfalu pa mor hir fyddai’r teithiau’n parhau, gan fod hynny’n dibynnu ar gyflwr y ffyrdd, y tywydd a nifer yr anifeiliaid. Ceir un cofnod ar ffurf dyddiadur porthmon o Loegr a gychwynnodd ar un o’i deithiau ar 12 Mai 1323.[4] Aeth â llwyth enfawr o anifeiliaid gydag ef o Long Sutton yn swydd Lincoln, gyda 272 o ŵyn yn eu plith. Roedd wedi cyflogi pedwar gwas i’w helpu i gymell yr anifeiliaid ar daith i Cowick yn nwyrain swydd Efrog, a chymerodd y daith bron i fis. Byddai taith o Gorwen i ganolbarth Lloegr wedi cymryd peth amser felly! Mae'r map canoloesol o Brydain (c.1370), 'The Gough Map of Great Britain' yn dangos yr hen ffyrdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gw. 'The Gough Map of Great Britain'.

Nid oes dwywaith nad oedd porthmona’n dasg anodd a blinderus, ond yn ffodus i Guto, roedd ganddo ddau was i’w helpu ar ei daith:

Yr oedd ym ar ryw ddamwain 
Wŷr ar hur i yrru’r rhain, 
Deuwr yn eu llamdwyaw 
A’r prydydd yn drydydd draw. 
Yr oedd gennyf trwy ryw hap
wŷr cyflogedig i yrru’r rhain,
dau yn eu harwain
a’r prydydd yn drydydd acw.

(cerdd 44.19-22)


Ond cafodd yntau broblemau: bu farw nifer o’i ŵyn yn yr afon. Problem gyffredin arall a wynebai’r porthmyn oedd lladron yn dwyn anifeiliaid a nwyddau, yn enwedig yn y Mers yn ôl deddf a basiwyd yn 1441-2,[5] a chlywir y gŵyn hefyd gan ambell fardd.[6] Roedd cyflwr y ffyrdd hefyd yn arafu’r daith, yn enwedig a chymaint o afonydd yn gorlifo, a dyna yw cwyn Guto hefyd (cerdd 44).

Bibliography

[1]: R. Richards, Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam, 1933), 210.
[2]: R.T. Jenkins, Y Ffordd yng Nghymru (Wrecsam a Chaerdydd, 1933), 73.
[3]: C. Skeel, ‘The Cattle Trade between Wales and England from the Fifteenth to the Ninteenth Centuries’, Transactions of the Royal Historical Society, 4th series, vol. ix (1926), 135-158.
[4]: F.M. Stenton, ‘The Road System of Medieval England’, The Economic History Review, vii, no. 1 (19361-21), 18-19.
[5]: R. Richards, Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam, 1933) 341.
[6]: R.I. Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006), cerdd rhif 23.
<<<Ffermio anifeiliaid      >>>Meirch
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration