databas cerddi guto'r glyn

Gemwaith


I arwyddo statws, roedd hi’n arferol i ddynion a merched wisgo gemwaith fel modrwyau, broetshis a chadwyni. Gwneid y rhai mwyaf dewisol o’r rhain o aur, gyda gleiniau hardd neu feini gwerthfawr wedi eu gosod ynddynt.
This ring-brooch dates from the fourteenth century and was found at Oxwich castle.
A ring-brooch from Oxwich castle
Click for a larger image
Darganfuwyd y froetsh gron hon yng nghastell Oxwich ac mae’n dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Ceir ynddi dri chameo o ben dyn a dau lain rhuddem. Roedd hi’n arferol defnyddio broetshis crynion fel hyn i ddiogelu’r fantell yn ei lle ar bob ysgwydd, fel y dengys nifer o gorffddelwau canoloesol sy’n darlunio uchelwyr o’r cyfnod hwn.

Gair am fath o dlws oedd cae. Gall y gair hwn gyfeirio at unrhyw addurn, boed yn addurn yn y gwallt, yn addurn ar wisg, neu’n wregys. Gan amlaf, awgryma’r farddoniaeth mai math o froetsh gron a olygir. Mae Guto’r Glyn, er enghraifft, yn sôn am gae arian yn ei gywydd gofyn am ffaling i Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch i bwysleisio mai mantell yr hoffai ei chael ac nid tlws arian (cerdd 53.33). Yn wir, roedd rhoi anrheg o gae neu dlws yn draddodiad cyffredin rhwng cariadon yn y cyfnod hwn.
This gold ring dates from the fifteenth century and was found at Raglan castle.
A gold ring from Raglan castle
Click for a larger image

Roedd modrwyau aur hefyd yn boblogaidd fel anrhegion. Mae Guto’n cyfeirio at dair rhodd enwog a gafodd beirdd yn sgil canu mawl i’w noddwyr: menig a roddodd Ifor Hael i Ddafydd ap Gwilym, ('Dafydd ap Gwilym.net', cerdd rhif 15) modrwy a gafodd Iolo Goch gan Fawd ferch Syr William Clement a’r pwrs a roddodd Catrin ferch Maredudd i Guto (gw. Pyrsau). Yn anffodus, nid yw’r gerdd honno a ganodd Iolo Goch am y fodrwy wedi goroesi.

Darganfuwyd sawl modrwy aur o’r cyfnod hwn, a'r un fwyaf allweddol, o bosibl, yw’r un o gastell Rhaglan: modrwy sydd â’r llythrennau ‘W’ ac ‘A’ wedi eu harysgrifennu arni. Nid yw’n gwbl amhosibl fod y priflythrennau hyn yn cynrychioli Syr Wiliam Herbert I a'i wraig Ann Herbert o Raglan. Gwisgai unigolion llai eu statws fodrwyau aur llai addurnedig hefyd ac mae nifer fawr ohonynt wedi eu darganfod o’r cyfnod hwn.[1]

Bibliography

[1]: G. Egan & F. Pritchard, Dress Accessories: 1150-1450 (London, 1991), 325.
<<<Pyrsau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration