databas cerddi guto'r glyn

Pyrsau


Roedd cael pwrs yn crogi wrth wregys yn rhan hanfodol o wisg unrhyw fardd teithiol. Ceid tri math o bwrs yn yr Oesoedd Canol sef pwrs dolennog (‘girdle purse’); pwrs a ymdebygai i gwdyn (‘pouch purse’); a phwrs a chanddo ffrâm fetel (‘framed purse’). Cwdyn lledr wedi ei gau â llinyn oedd y math cynharaf a symlaf. Yn raddol, gwelwyd pyrsau fel hyn yn cael eu haddurno â defnyddiau cain, a phan ddaeth tecstiliau fel sidan a melfed yn rhwyddach ac yn rhatach i’w prynu, cynhyrchid cydau cyfan o frethyn o bob lliw a llun.[1]
Guto is wearing a purse on his belt.
Guto's purse
Click for a larger image

Math arall oedd pwrs a oedd yn cynnwys fflap fel gorchudd i’w gau neu bwrs dolennog; roedd hwn yn hawdd iawn i’w ddiogelu wrth y gwregys gan fod modd cau’r fflap o amgylch y gwregys. Prif ddeunydd y pwrs hwn oedd lledr ac fe’i haddurnid â phwythau addurnedig. Ond roedd ei lunio’n gymhleth gan fod angen sawl darn o ledr ac roedd weithiau’n cynnwys mwy nag un boced. Datblygiad a gysylltir yn benodol â chanol y bymthegfed ganrif yw’r arfer o ddefnyddio metel i greu ffrâm ar gyfer y pwrs. Roedd rhan o’r ffrâm o’r golwg oddi mewn i’r pwrs gyda’r rhan a oedd yn cysylltu’r pwrs â’r gwregys, sef bâr a dolen fetel, yn amlwg i bawb ac felly’n cynnwys addurn cain megis arysgrif.[2]

Fel unrhyw ddilledyn, roedd hi’n bosibl addurno pyrsau â phob math o frodwaith ac addurn. Yn y farddoniaeth, cyfeirir at byrsau sidan a melfed, ac ymddengys fod y deunyddiau cain hyn hefyd yn rhan o’r ddau bwrs a gafodd Guto’r Glyn, y naill gan Gatrin ferch Maredudd o Abertanad (cerdd 87) a’r llall gan Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor (cerdd 59).[3]

Diolch am bwrs, cerdd 87.
Er nad yw’n hawdd adnabod yn fanwl y math o bwrs a roes Catrin i Guto ceir digon o fanylion yng nghywydd Guto i geisio ail-greu’n fras yr hyn a ddisgrifir. Nodir fod y pwrs yn cael ei wisgo ar y gwregys (gw. llinellau 19 i’m gwasg, 49 ar y glun, 60 wrth wregys dyn a 62 wrth fysedd) ac mae’n debyg mai i’r dde o fwcl y gwregys y gwisgid pyrsau gan amlaf yn y cyfnod hwn.[4] Mae’r pwrs wedi ei wenud o ddefnyddiaud drudfawr (gw. llinellau 20, 45, 69, 46 a 58) a gwelir oddi wrth linellau 20, 24, 48, 53 a 59-60 mai aur oedd prif liw’r pwrs er bod rhywfaint o gochni’n perthyn iddo hefyd (mewn aur rhudd 9 a rhuddaur 23).

Mae’n annhebygol mai pwrs dolennog a roes Catrin i Guto gan mai o ledr yn bennaf y gwneid pyrsau felly. Melfed oedd priod ddefnydd allanol pwrs Guto, ynghyd â darnau o sidan a damasg, ond sylwer y ceir gan Goubitz enghraifft o bwrs dolennog lledr ac arno luniau addurniadol o brysglwyn.[5] Mae’n debygol iawn fod addurnwaith tebyg o ddefnydd ar bwrs Guto (45 rhos aur, 61 eres o goed), o bosibl rhwng colofnau o edau aur (53 tyrau goldwir). Rhaid hefyd ystyried o ddifrif y posibilrwydd fod pwrs Guto’n debyg i byrsau dolennog o ran maint, oherwydd byddai gweadwaith mewnol rhai mathau o byrsau dolennog yn gorfodi’r perchennog i ddefnyddio ei ddwylo i’w hagor yn hytrach nac un llaw’n unig.[6] Er mai llaw Guto sydd yng ngheg y pwrs yn llinell 21, yn llinell 56 mae’r pwrs yn Llys i’m deufys a’m dwyfawd, sy’n awgrymu y gallai Guto roi ei fys a’i fawd ar bob llaw i mewn i’r pwrs.

Er mai enghreifftiau prin yn unig o byrsau a ymdebygai i gwdyn sydd wedi goroesi, mae’n ddigon posibl y ceid ynddynt adrannau mewnol tebyg i’r rhai a ddisgrifir uchod.[7] Mae’n eglur fod gan bwrs Guto adrannau mewnol oddi wrth y modd y’i cymherir ag adeiladau aml-ystafell:

O fewn hwn, efô yw ’nhai, 
Y mae annedd fy mwnai, 
Tŷ’r gild a’r tyrau goldwir, 
Tair llofft o’r tu arall hir. 
Llyna dlws llawen i dlawd, 
Llys i’m deufys a’m dwyfawd, 
Cwrt mawr, ni ddwg grotiau mân, 
Croes adail, caerau sidan, 
O fewn hwn mae cartref fy arian,
efe yw fy nhai,
tŷ’r eurad a’r tyrau o edau aur,
tair llofft ar yr ochr arall hir.
Dacw drysor llawen i ŵr tlawd,
llys i’m dau fys a’m dwy fawd,
cwrt mawr, nid yw’n cario grotiau mân,
adeilad croes, caerau sidan,

(cerdd 87.51-8)


A purse with a metal frame on the effigy of Thomas White at the Church of St Mary, Tenby.
A purse on the effigy of Thomas White
Click for a larger image
Ceid adrannau llai mewn pyrsau a chanddynt fframiau metel hefyd, fel y darluniwyd mewn carreg ar gorffddelw Thomas White yn eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-pysgod c.1490.[8] Ond gan na chyfeirir at waith metel o gwbl yn y gerdd hon, mae’n annhebygol mai pwrs felly a gafodd Guto. Fodd bynnag, ceir gan Goubitz enghraifft o addurnwaith rhosglwm (‘rosette’) ar bwrs felly a allai fod yn berthnasol i’r cywydd hwn.[9] Dengys llinell 48 Mae rhos aur ar fy mhwrs i yn eglur fod lluniau neu wrthrychau tebyg i rosod ar y pwrs, a chan mai defnydd melfed a gaiff y prif sylw yma mae’n werth nodi hefyd fod gan Goubitz enghraifft o bwrs a chanddo ffrâm fetel a chwdyn melfed.[10] At hynny, nodir yn llinell 54 fod un rhan o’r pwrs yn hir ac fe’i disgrifir fel croes adail yn llinell 58. Gallai croes adail fod naill ai’n gymhariaeth syml megis 53 tµ’r gild a 56 llys neu’n ddisgrifiad penodol o siâp y pwrs, naill ai fel eglwys neu fel tµ ac iddo adain groes. Ceid pyrsau a chanddynt ffrâm fetel a chydau siâp triongl neu angor a allai ymdebygu i siâp eglwys, ond mae tµ a chanddo adain groes yn fwy tebygol gan fod gan y pwrs nifer o adrannau ychwanegol llai.[11]

Ni waeth sut math o bwrs a gafodd Guto o ran ei brif ran, ai un dolennog ynteu un tebycach i gwdyn, mae’n sicr y gwnïwyd ar ei flaen gwdyn arall llai:

Dau alwar dduw Nadolig: 
Melfed ym, molaf y daith, 
A damasg i’m cydymaith. 
cyfoeth i ni sy’n parhau:
un melfed i mi ac un damasg i’m cydymaith,
molaf y daith.

(cerdd 87.44-6)


Er ei bod hi’n bosibl fod cydymaith yn gyfeiriad at gyfaill i Guto,[12], mae’r modd y personolid pyrsau gan feirdd cynharach yn awgrymu mai at y pwrs ei hun y cyfeirir mewn gwirionedd. Gellid disgwyl y byddai Guto (yn ogystal â’i gynulleidfa, efallai) yn gyfarwydd â chywydd Llywelyn ab y Moel i’w bwrs, lle clywir y bardd a’i bwrs yn ymddiddan yn ddichellgar â’i gilydd,[13] neu efallai y cywydd ansicr ei awduriaeth lle y beirniedir yr ariangarwch y mae’r pwrs yn symbol ohono.[14] Gwelir fod yr un math o bersonoli ar waith gan Guto yn llinellau 49 (Un faint ar y glun yw fo) a 51 (efô yw ’nhai). Bernir felly mai cydymaith Guto yn yr achos hwn yw’r pwrs ei hun a’r ddau rodd ( alwar) felly yw’r pwrs o felfed a’r cwdyn o ddamasg a gafodd Guto. Cyfeirir at y rhan ychwanegol honno o’r pwrs eto yn llinellau 59-60.[15]

Creadigaeth o Abertanad oedd y pwrs arbennig hwn (cerdd 87, llinellau 9-10 a 63-4).[16] Yn hyn o beth mae’n werth dyfynnu sylw Goubitz ynghylch peryglon gor-gategoreiddio’r gwrthrychau hyn. Yn hytrach, dylid ystyried y pwrs yng nghyd-destun anghenion bardd o Gymro yn y gororau trefol ar ddiwedd y bymthegfed ganrif: ‘It is hard to avoid the impression that many of the items … were one-off products. Every category has its basic shapes, but in the execution the maker may have been guided by the customer’s requirements, cost and available material … Additions such as pouchlets may be seen as reflecting the customer’s personal preferences or requirements.’[17]

Diolch am bwrs, cerdd 58.
Roedd y pwrs arall a gafodd Guto’n rhodd gan Risiart Cyffin, deon Bangor, yn debyg iawn, yn ei hanfod, i’r pwrs a gafodd gan [personlink:nc01:Gatrin ferch Maredudd], er na cheir cymaint o wybodaeth fanwl yn y cywydd a ganodd i ddiolch amdano (cerdd 58). Fe’i gwisgid ar y gwasg (cerdd 58 llinellau 42 ar glun, 56 uwchlaw clun a chledd), fe’i gwnaethpwyd o bali (39), brethyn (40) a sidan (53 a 57) ac roedd o liw aur (40, 45 a 60) a choch yn bennaf (47 gwridog, 50 a 59 rhudd a 54 sinobl), ynghyd â rhywfaint o liw porffor (41). Mae’n bosibl mai sidan oedd prif ddefnydd y pwrs, ac mae’n eglur mai o’r defnydd hwnnw y gwnaethpwyd yr addurnwaith arno, sef lluniau o goed neu brysglwyn cochlyd (50 gwaed rhudd yn goed trwyddaw, 54 sinobl dros ei wyneb, 57 coed sidan).

Yn wahanol i’r cywydd a ganodd Guto i ddiolch am bwrs gan Gatrin, ni cheir unrhyw awgrym yma fod gan y pwrs gydau allanol nac adrannau mewnol, a sylwer nad yr un yw ergyd y ddwyrodd a enwir yma â’r ddau alwar a enwir yn y cywydd i Gatrin (gw. cerdd 87.44). Gwneir yn eglur yn y cywydd hwn mai’r pwrs a’r arian a roir gydag ef gan Risiart yw’r ddwyrodd, ond y pwrs ei hun a’r cwdyn llai a wnïwyd arno yw’r ddau alwar yn y cywydd i Gatrin (gw. Diolch am bwrs, cerdd 87).

Bibliography

[1]: S. Farmer, ‘Biffes, Tiretaines, and Aumonières: the Role of Paris in the International Textile Markets of the Thirteenth and Fourteenth Centuries’, Medieval Clothing and Textiles, ed. G. Owen-Crocker (Boydell and Brewer, 2006), 88.
[2]: D.A. Hinton, Gold and Gilt, Pots and Pins (Oxford, 2005), 253 a G. Egan & F. Pritchard, Dress Accessories c.1150-c.1450 (London, 1991), 356-7.
[3]: Canwyd hefyd gerddi i byrsau lle cwynai’r beirdd fod eu pyrsau’n wag; am drafodaeth ar y genre gw. R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd `Sypyn Cyfeiliog’ a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998), 150.
[4]: G. Egan & F. Pritchard, Dress Accessories 1150-1450 (Woodbridge, 2004), 342.
[5]: O. Goubitz, Purses in Pieces (Waanders, 2007), 31, ffig. 35, hefyd ffig. 156-60.
[6]: Goubitz, Purses in Pieces, 26.
[7]: Goubitz, Purses in Pieces, 41.
[8]: Goubitz, Purses in Pieces, 47-59 a P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 248.
[9]: Goubitz, Purses in Pieces, 56, ffig. 91.
[10]: Goubitz, Purses in Pieces, 59, ffig. 99; a hefyd ffig. 117.
[11]: Goubitz, Purses in Pieces, 47, ffig. 68; 48, ffig. 71; 59, ffig. 99.
[12]: B.O. Huws, Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch (Caernarfon, 1998), 117.
[13]: R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd `Sypyn Cyfeiliog’ a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998), cerdd rhif 11.
[14]: P. Bryant-Quinn, Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001), Atodiad i.1-4.
[15]: Am enghreifftiau o byrsau tebyg gw. Goubitz, Purses in Pieces, 28-30, ffig. 31-4.
[16]: Gw. hefyd M. Haycock, ‘ “Defnydd hyd Ddydd Brawd”: rhai agweddau ar y ferch ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, G.H. Jenkins (gol.), Cymru a’r Cymry 2000 (Aberystwyth, 2001), 41-70.
[17]: Goubitz, Purses in Pieces, 115.
>>>Gemwaith
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration