Gwisgoedd eraillDwbled Y ddwbled oedd y brif wisg ffasiynol. Siaced gwiltiog a wisgid dros y crys oedd y ddwbled yn y cyfnod hwn; wedi ei siapio yn dynn am y corff a’r wasg ond a wisgid heb wregys (yn wahanol i’r bais). Gwneid hi o decstiliau drudfawr gan amlaf, megis y gwlân mwyaf llyfn neu hyd yn oed sidan, melfed a damasg. Roedd gwahanol ffyrdd i gau’r ddwbled erbyn y cyfnod hwn a defnyddid carrai lledr neu fotymau. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, roedd cael blaen y ddwbled yn hollol agored yn ffasiynol, a gwisgo panel siâp V yn yr agoriad. Hefyd, roedd hi’n ffasiynol i gael rhan uchaf y llewys wedi eu stwffio ac ambell i doriad bwriadol i arddangos y leinin o dan haenen uchaf y ddwbled. Mae’n bosibl mai hynny sydd y tu ôl i’r ddelwedd o’r gwaith pren yn y Faenor fel Dyblu derw, dwbled irwydd ‘derw wedi ei ddyblu, fel dwbled o bren newydd’ (cerdd 38.47). Gŵn Roedd y gynau a wisgid gan ferched y bymthegfed ganrif yn llaes ac wedi eu haddurno’n helaeth â brodwaith, yn enwedig ar flaen y wisg. Addurnid hwy hefyd â ffwr, fel yn achos mentyll. Steil a ddaeth yn ffasiynol yng nghyfnod Guto oedd cael coler ‘V’ gymharol lydan i ynau merched a’r wasg wedi ei thynnu i mewn yn uchel. Gwisgai dynion ynau o hyd hefyd er bod rhai’n ffafrio’r ddwbled a’r bais o dan eu mentyll. Addurn diddorol i ynau llaes oedd eu hollti ar yr ochrau a thua chwarter olaf y ganrif, daeth plygiadau yn y defnydd hefyd yn boblogaidd.[1] Y crys Roedd y crys gan amlaf wedi ei wneud o liain gwyn ac yn cael ei wisgo o dan y ddwbled a weithiau y bais. Erbyn y cyfnod hwn, gwelwyd coler unionsyth yn cael ei hychwanegu at y crys a oedd weithiau i’w gweld o dan y ddwbled. Arbrofwyd hefyd â llewys y crys ac ar ddechrau’r bymthegfed ganrif daeth llewys siap pibgod (‘bagpipe’), sef llewys a oedd yn dynn am ran uchaf y fraich ond yn hynod o fawr am weddill y fraich yn ffasiynol.[2] Ni chyfyngid y math yma o lewys i’r crys yn unig; fe’i gwisgid hefyd ar ynau. Trywsus O ran y dillad a wisgid am y coesau, roedd trywsusau llac gwlanog yn cael eu cysylltu â’r dosbarth cymdeithasol isaf. Gelwid hwy yn llawdr neu llodrau. Cysylltir hwy â lladron neu bobl ddrygionus yn y cerddi lle mae’r beirdd yn dychanu ei gilydd.[3] Yn wahanol i’r trywsusau llac, daeth trywsusau tyn iawn a elwid yn hose yn Saesneg neu’n hosan yn y Gymraeg yn boblogaidd gan yr uchelwyr. Ond roedd hosanau canoloesol dipyn yn wahanol i’r hyn sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Fe’u gwisgid yn aml gyda’r ddwbled gwta a chan eu bod yn ymestyn o’r esgid hyd at dop y goes, roeddent yn dangos gormod o siâp y corff ym marn rhai. Bibliography[1]: I. Brooke, English Costume from the Early Middle Ages Through the Sixteenth Century (New York, 2000), 160.[2]: I. Brooke, English Costume from the Early Middle Ages Through the Sixteenth Century (New York, 2000), 126. [3]: A.M. Jones, ‘Gwisgoedd ac Ategolion yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, c.700-c.1600’, Traethawd Ph.D (Prifysgol Cymru (Aberystwyth), 2007), 200. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru