databas cerddi guto'r glyn

Peisiau


Heddiw, gelwir dilledyn isaf merch yn ‘bais’, ond yn oes Guto roedd pais gan amlaf yn cyfeirio at ddilledyn syml a wisgid am ran uchaf y corff, weithiau o dan fantell neu ŵn a weithiau o dan arfwisg neu ddwbled. Y gair Saesneg cyfatebol yw tunic a hon oedd y wisg fwyaf sylfaenol a wisgid gan bawb.[1]

Gwnaed peisiau a wisgid o dan ddillad eraill o liain (‘undertunic’ yn Saesneg) a siâp syml, eithaf llac oedd iddynt. Ond gan fod pais hefyd yn golygu gwisg nad oedd o reidrwydd yn guddiedig o dan ddillad eraill, cyfeirir hefyd at beisiau o wlân a oedd yn fwy tynn am y corff. Mae’n debyg mai brethyn gwlanog oedd deunydd y peisiau a fyddai’n cael eu gwisgo ‘bob dydd’ gan y dosbarth gweithiol, megis amaethwr. Dengys y llawysgrif ‘Sallwyr Luttrell’ sawl un yn eu dillad gwaith a pheisiau gwlanog, digon llac yr olwg, yw’r mwyafrif ohonynt.
One of the court attendants or servants in the 'Psalter Luttrell' manuscript, c.1325-1335.
A servant wearing a tunic
Click for a larger image
Llwyd a melynfrown yw lliw’r mwyafrif; lliwiau gwlanen heb ei llifo gan fod peisiau y dosbarth gweithiol yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â dillad lliwgar ac addurnedig yr uchelwyr. Am ganol y bais gwisgid gwregysau, ac wrth y gwregysau hynny gan amlaf roedd gwrthrychau megis cyllell neu bwrs wedi eu clymu.

O ran dillad gwrywaidd y cyfnod, un o’r prif newidiadau a wnaed i’r bais oedd ei chwtogi’n fyr iawn. Digwyddodd hyn yng nghanol y bymthegfed ganrif pan ddaeth gwisgo dwbled gwta a oedd yn ymestyn ond ychydig yn is na’r clun yn ffasiynol.[2] Arhosodd peisiau’r merched yn eithaf tebyg trwy’r ganrif er bod cael gown ac iddi goler siâp V yn golygu bod rhaid i’r dillad isaf hefyd gael eu torri’r un peth. Gwisgai merched y cyfnod sawl haen o ddillad isaf yn y cyfnod hwn a elwir yn bais, camse neu grys.[3]

Mae llawer o’r beirdd yn cyfeirio atynt hwy eu hunain yn gwisgo pais ac mae’n debyg ei bod hi’n wisg a fyddai’n cael ei gwisgo gan fardd teithiol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif. Canodd Iocyn Ddu ab Ithel Grach gerdd hwyliog am helyntion y bardd crwydrol, gan honni Rhyw oedd ym ymbil am bais—fotymog / Fforchog ddiflewog, ddwy aflawais ‘Iawn oedd imi ymbil am bais fotymog / Fforchog ddi-flew, [a chanddi] ddwy lawes hollt’ sy’n cyfeirio at yr arfer o roddi pais ac iddi fotymau a llewys ffasiynol i fardd.[4] Mae Guto’r Glyn ei hun yn sôn am wisgo pais wrth iddo ddisgrifio ei ddagrau helaeth (‘glaw’) O’m pen yn llithraw i’m pais, ‘yn llithro o’m pen i’m tiwnig’ (cerdd 2.1-2), pan glywodd fod Syr Rhisiart Gethin wedi ei garcharu, ac wrth farwnadu Dafydd Llwyd o Abertanad dywed ei fod yn wylo a’i ddagrau fel dwy afon:

Mae Alun am a wylais, 
Mae Hafren, o’m pen i’m pais. 
Mae afon Alun ac mae afon Hafren
yn llifo o’m pen i’m pais oherwydd yr hyn a wylais.

(cerdd 89.23-4)


Gofynnodd am wisg ffasiynol arall gan Elen ferch Robert Pilstwn o’r Llannerch, sef ffaling (mantell Wyddelig) (cerdd 53), gwisg a fyddai’n fwy addas i fardd fel Guto a ganai yn y bymthegfed ganrif, wrth i’r gair dwbled ddod yn fwy poblgaidd am ‘diwnig’ neu wisg am ran uchaf y corff.

Bibliography

[1]: Gall ystyr pais amrywio cryn dipyn a weithiau golyga ‘gwisg’ yn gyffredinol yn y farddoniaeth, gw. Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerydd, 1950-2002), d.g. pais.
[2]: M.G. Houston, Medieval Costume in England and France: The 13th, 14th and 15th Centuries (London, 1939), 173.
[3]: A.M. Jones, ‘Gwisgoedd ac Ategolion yn Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, c.700-c.1600’, Traethawd Ph.D (Prifysgol Cymru (Aberystwyth), 2007), 147.
[4]: B.J. Lewis a T. Morys (gol.), Gwaith Madog Benfras ac Eraill o Feirdd y Bedwaredd Ganrif ar Ddeg ynghyd â Gwaith Yr Ustus Llwyd (Aberystwyth, 2007), 18.3-4.
>>>Mentyll
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration