databas cerddi guto'r glyn

Salwch Guto


Nid oes amheuaeth na fu Guto’r Glyn fyw i fod yn hen ŵr (gw. Gyrfa Guto’r Glyn). Yn wir, daeth cwyno am y gwahanol bethau a’i blinai wrth iddo heneiddio yn thema yn ei gerddi, yn enwedig yn ei gerddi olaf.

Ei gŵyn gyntaf, fe ymddengys, yw’r poen sydd ganddo yn ei esgyrn. Lleisir hyn mewn cywydd i Siân Bwrch o’r Drefrudd lle disgrifir hen boen a phoen newydd yn ei gefn, ei glun a’i ben-glin (cerdd 81). Mae’r poenau yn ei wyro ac yn ei gwneud iddo ‘gruplo’, sydd o bosibl yn awgrymu ei fod yn dioddef gan y clefyd a elwir yn sciatica neu rheumatic arthritis:

Mae i’m cefn er ys pythefnos 
Henwayw ni ad hun y nos; 
Mae gwayw arall i’m gwyro 
Yn fy nghlun, anaf yng nghlo. 
Mae yn fy nghefn ers pythefnos
hen ddolur na chaniatâ gwsg yn y nos;
mae dolur arall yn fy nghrymu
yn fy nghlun, clwyf wedi ei gloi.

(cerdd 81.1-4)


Roedd y gwynegon (rheumatism) yn glefyd cyffredin iawn yn yr Oesoedd Canol am yr un rhesymau â’r Afiechydon eraill, yn enwedig diffyg maeth. Wrth gwrs, mae’n parhau’n glefyd sy’n effeithio ar genhedlaeth hŷn yn bennaf heddiw ac sy’n gwaethygu wrth i’r esgyrn wanhau ac i’r corff heneiddio.

Mae’n bosibl fod Guto’n cyfeirio at yr un clefyd yn ei ateb i ddychan Llywelyn ap Gutun, er bod yr hyn a ddisgrifia Llywelyn ei hun am yr afiechyd sydd ar Guto yn ymwneud mwy â’r croen. Dywed Llywelyn fod Guto’n gul o haint (cerdd 101a.6) a cheir y disgrifiad doluriau llechau (cerdd 101a.7) sy’n awgrymu rhyw fath o nam ar y croen a ymdebygai i chwydd ac a achosid gan ddiffyg maeth:

Doluriau llechau a’i lladd 
O dra newyn drwy’i neuadd. 
Gan enwyn y gwenwynodd 
Lle bu’r ŵyl oll heb ei rodd. 
Poenau llechau sy’n ei ladd
o achos newyn mawr yn ei neuadd i gyd.
Gyda llaeth enwyn y gwenwynodd pawb
lle bu heb ei rodd adeg yr ŵyl.

(cerdd 101a.7-10)


Gelwir un afiechyd a oedd yn cynnwys nam ar y croen yn nhwbercwlosis y croen (lupus vulgaris), a drosglwyddid yn aml drwy laeth gwartheg. Byddai hyn yn cyd-fynd a’r honiad i Guto gael ei wenwyno â llaeth enwyn. Ceir disgrifiad o’r afiechyd gan Jex-Blake: 'The earliest and most characteristic evidence of lupus is the appearance of small brownish nodules in the skin, not unlike specks of apple jelly, very soft to the touch. These tend to grow, and as they grow, to ulcerate; the ulcers heal over, after a quantity of tissue has been lost, and the surface is left covered with a thin whitish scar, while the advancing lupoid nodules continue to spread at the edges of the diseased area of the skin. Lupus is a slowly progressive disease, very rebellious to treatment, very prone to relapse after apparent cure, and for all practical purposes it is not infectious for other persons. From the popular point of view its most striking feature is the disfigurement it produces. Slowly but surely it may eat away any features of the face, leaving a whitish, mottled scar in its place ... It may attack any part of the body, but in the great majority of the cases occurs on the face. The treatments devised for its cure are legion, and if it is taken in hand early the outlook is good. In the first place attention should be given to improvement of the patient’s general health and nutrition.'[1]

Wrth gwrs, nid yw’n hawdd gwybod ai at bwrpas diddanwch y llys yn unig y canwyd y cerddi hyn ac a oedd Guto wedi ei gyffwrdd gan unrhyw afiechyd mewn gwirionedd (gw. cerdd 101a).

Rhywbeth arall a drawodd y bardd yn ei henaint oedd colli ei olwg. Yng ngherddi olaf ei gyfnod fel bardd mae’n sôn o hyd am hyn, megis yn y cywydd diolch am farch a gafodd gan Feurig Fychan ac Elen o Nannau (cerddd 51.44), ac ategir hyn yn un o’i gerddi diweddar i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes (cerdd 117). Wrth gwrs, nid oedd Guto o reidrwydd wedi colli ei olwg yn llwyr a’r tebyg yw nad oedd yn hollol ddall. Naturiol oedd i hen ddyn yn y cyfnod hwn golli ei olwg yn raddol, ac mewn englyn a ganwyd pan oedd y bardd yn agosáu at ddiwedd ei oes, mae’n rhestru’r holl bethau na all eu gwneud bellach, sef edrych, chwerthin, cerdded, gweld yn glir a chlywed:

 Gwae’r gwan dau oedran nid edrych, – ni chwardd, 
 Ni cherdda led y rhych, 
 Gwae ni wŷl yn gynilwych, 
4Gwae ni chlyw organ a chlych! 
Gwae’r gŵr gwan dwy oes oed nad yw’n edrych, – nad yw’n chwerthin,
nad yw’n cerdded mor bell a lled y rhych,
gwae ef nad yw’n gweld yn wych o fanwl,
gwae ef nad yw’n clywed organ a chlychau!

(cerdd 119.1-4)



Bibliography

[1]: Jex-Blake, *** (0000, 000), 116.
<<<Heintiau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration